Gwynedd yn cymeradwyo codi treth ar ail gartrefi i 150%

  • Cyhoeddwyd
AbersochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn Abersoch y mae'r nifer uchaf o ail gartrefi drwy Wynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo argymhelliad i gynyddu'r dreth ar ail gartrefi yn y sir o 100% i 150% o fis Ebrill.

Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddydd Iau roedd 37 cynghorydd o blaid, gyda 21 yn erbyn.

Gwynedd sydd â'r nifer uchaf o ail gartrefi drwy Gymru, ac mae'r dreth yno ar hyn o bryd yn 100%.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r grym i awdurdodau lleol godi hyd at 300% o fis Ebrill 2023.

Byddai Cyngor Gwynedd felly wedi gallu cynyddi'r premiwm i 300%, ond dywedodd aelod o'r cabinet nad yw'n teimlo fod cyfiawnhad i wneud hynny.

Ond fe fydd y cyngor yn parhau i fonitro'r sefyllfa, ac fe allen nhw gynyddu'r dreth ar ail gartrefi eto yn y dyfodol.

Yr arian i daclo digartrefedd

Dywedodd y cyngor y bydd yr arian sy'n cael ei godi o'r cynnydd yn mynd tuag at fynd i'r afael â digartrefedd yn y sir, wedi i adroddiad amlygu fod gan yr awdurdod fwlch o £3m yn y maes hynny.

Mae'r cynnydd yn rhan o ymgais i helpu pobl brynu cartrefi yn yr ardaloedd ble cawsant eu magu.

Ers mis Ebrill 2021 mae perchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd, fel mewn sawl sir arall yng Nghymru, wedi bod yn talu 100% mewn treth cyngor.

Mae'n golygu, er enghraifft, bod trigolion yn talu £1,000 am brif gartref tra bod perchnogion ail gartrefi yn talu £2,000.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai sy'n enedigol o Ben Llŷn wedi gorfod symud o'r ardal am na fedran nhw fforddio lle i fyw yno

Er fod gan y cyngor hawl i godi'r premiwm i 300% dan y rheolau newydd, argymhelliad cabinet Plaid Cymru oedd ei gynyddu i 150% o fis Ebrill nesa'.

Doedd aelodau'r cabinet ddim yn credu y byddai modd cyfiawnhau premiwm o 300%, ond byddan nhw'n adolygu'r raddfa bob blwyddyn.

10% o dai Gwynedd yn ail gartrefi

Mae ffigyrau diweddaraf y cyngor yn dangos bod 4,656 eiddo wedi talu'r premiwm ail gartrefi yng Ngorffennaf 2022.

Clywodd aelodau'r cabinet fod yna gynnydd o 47% wedi bod yn nifer y bobl ddigartref yng Ngwynedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod bron i un ymhob 10 o dai'r sir yn ail gartrefi.

Mae llety dros dro yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol i unigolion sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref pan nad oes opsiwn arall.

Yn ôl y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod cabinet tai ac eiddo Cyngor Gwynedd, mae'n "anfoesol" bod rhai yn berchen ar fwy nag un tŷ ar adeg pan mae eraill heb do uwch eu pen.

"'Da ni'n gwario miliynau ar gartrefu pobl leol mewn gwely a brecwast, gwestai," meddai.

"'Da ni ddim yn sôn am bobl sy'n cysgu ar y stryd... 'Da ni'n sôn am bobl sydd jyst yn byw a ddim yn gallu ffeindio tai a fforddio tai."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Craig ab Iago yn dweud ei bod yn "anfoesol" fod gan rai fwy nag un tŷ tra bod eraill yn ddigartref

Ychwanegodd: "Mae gennon ni issue. Mae 'na rai pobl yng Ngwynedd sydd efo ail dŷ tra mae 'na bobl eraill yng Ngwynedd sydd ddim efo tŷ o gwbl.

"Mae hynny, yn fy marn i, yn rhywbeth anfoesol, rhywbeth 'da ni angen datrys."

Ond dywedydd y Cynghorydd ab Iago nad yw'n credu bod cyfiawnhad i godi'r premiwm yn uwch na 150%.

"I'w roi o i fyny i 300%, ti'n cosbi pobl yn fanna a dwi ddim eisiau gwneud hynny, dwi'n erbyn hynny.

"Be' 'da ni'n trio gwneud ydy rhywbeth positif, ddim rhywbeth negyddol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i un ymhob 10 o dai yng Ngwynedd yn ail gartrefi

Un oedd yn gwrthwynebu codi'r premiwm ydy'r cynghorydd annibynnol John Brynmor Hughes, sy'n cynrychioli ward Abersoch gyda Llanengan, sydd â'r nifer ucha' o ail gartrefi drwy'r sir.

Dywedodd: "Dwi'm yn gweld o'n deg. Mae o fatha cau drws y stabal ar ôl i'r ceffylau i gyd redeg allan.

"Mae Abersoch yn arbennig wedi cael ei dyfu ar dwristiaeth. Cyngor Cymraeg sydd wedi rhoi'r hawl i adeiladu'r holl dai yma.

"'Da ni'n dibynnu arnyn nhw, mae pobl fusnes yn dibynnu arnyn nhw, mae pobl Gymraeg yn dibynnu arnyn nhw - yn enwedig yr adeiladwyr, y plymars, y seiri coed, y trydanwyr a'r pubs.

"'Da ni gyd yn dibynnu ar dwristiaeth.

"Fydd pobl efo trade yn mynd o'ma i weithio a fydd hynny'n gwneud mwy o ddrwg i'r iaith Gymraeg na 'da ni'n meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynyddu'r dreth yn niweidio twristiaeth ac yn niweidio busnesau, yn ôl y Cynghorydd John Brynmor Hughes

Mae'r Cynghorydd Hughes yn credu bod ffyrdd gwell o drin y sefyllfa ac mae'n gofyn "pam ddim dweud na chaiff ddim un tŷ droi'n fusnes - bob tŷ yn talu treth?

"Codi'r treth un band i ail dŷ, codi Airbnb i'r band ucha'."

Barn gymysg oedd 'na i'r cynnydd posib yn Abersoch.

Yn ôl Chris Rees, sy'n enedigol o Bwllheli, mae'n rhaid gwneud rhywbeth i daclo'r argyfwng tai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Rees wedi gorfod symud o Lŷn am nad yw'n gallu fforddio byw yno

"Dwi newydd orfod symud o Llannor a mynd i Gaernarfon i fyw," meddai. "Ddim o ran dewis, s'gen i ddim chance o gael rhywbeth rownd ffor'ma.

"Mae rhentiau rownd fama ar y funud, wel mae o drwy'r to. Dwi'n gweithio'n llawn amser a fedra' i ddim fforddio rhentu rownd ffor'ma. So mae'n rhaid i rywbeth newid."

Roedd Enid Griffiths, ar y llaw arall, yn pryderu byddai codi'r dreth yn amharu ar nifer yr ymwelwyr sy'n dod i ardaloedd fel Pen Llŷn.

"Dio'm yn deg, mae 100% yn ddigon," meddai. "Fydd pobl yn gwerthu'n diwedd achos mae bob dim yn mynd yn ddrud tydi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Enid Griffiths yn credu bod treth cyngor o 150% yn ormod, ond ei gŵr Eddie yn dweud y gall perchnogion ail gartrefi ei fforddio

Ond doedd ei gŵr, Eddie Griffiths, ddim yn credu y byddai'r cynnydd yn gwneud llawer o wahaniaeth.

"Os oes ganddyn nhw ddigon o arian i ddod yma ac i dalu arian mawr am eu tai, mae ganddyn nhw ddigon o arian i dalu dipyn bach mwy o dreth," meddai.

Cymdeithas yr Iaith eisiau mwy o gynnydd

Tra'n croesawu unrhyw symud tuag at gynyddu'r dreth ar ail gartrefi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am wneud mwy.

Dywedodd cadeirydd y mudiad, Robat Idris: "Fasa'n well ganddon ni weld y cyngor yn mynd fyny at 300%.

"'Da ni'n gweld bod nhw angen defnyddio'r pwerau sydd ganddyn nhw, a phob cyngor arall, i wella sefyllfa pobl leol i gael tai.

"Ond mae'n broblem yr economi hefyd achos mae cyflog ar gyfartaledd pobl yng Ngwynedd tua degfed rhan o werth eiddo."