Prisiau tai Gwynedd yn gostwng 12% - y cwymp blynyddol mwyaf
![tai](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/21fd/live/6e87b150-ec75-11ef-a819-277e390a7a08.jpg)
Ar gyfartaledd mae prisiau tai yng Ngwynedd wedi gostwng mwy na 12%
- Cyhoeddwyd
Mae prisiau tai yng Ngwynedd wedi gostwng mwy na 12% flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ôl ffigyrau newydd.
Dyma'r gostyngiad blynyddol mwyaf mewn unrhyw ranbarth ym mynegai prisiau tai Cymru yn ystod tri mis olaf 2024.
Ym mis Medi 2024, cyflwynodd Cyngor Gwynedd reol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd cynllunio i droi eiddo preswyl yn ail gartref neu lety gwyliau.
Mae'r cyngor yn un o nifer o gynghorau Cymru sy'n codi premiwm treth cyngor o 150% ar eiddo o'r fath.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod mynd i'r afael â'r "prinder tai yng Ngwynedd yn flaenoriaeth allweddol" iddyn nhw.
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
Dywedodd yr ymgynghorydd tai, Sioned Hughes ei bod yn "deg gwneud y gymhariaeth" bod prisiau tai wedi gostwng oherwydd mesurau i fynd i fynd i'r afael ag ail gartrefi.
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd: "Yn sicr, mi fyddech chi'n medru teimlo bod y mesurau sydd wedi dod i fewn wedi dylanwadu ar y ffigyrau yn enwedig yng Ngwynedd a Sir Benfro.
"Mae Gwynedd wedi cyflwyno'r mesurau yma [premiwm treth cyngor o 150%] ers dwy flynedd a falle be 'da chi yn ei weld ydy y farchnad o'r tai lefel uchaf - yr ail gartrefi yna - nifer fawr yn dod i'r farchnad ar yr un pryd ac felly bod gostyngiad wedyn yn y prisiau."
Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag ail gartrefi? Harriet o dîm Cymru Fyw sy'n esbonio mwy
Beth yw'r ystadegau?
Mae pris cyfartalog tai yng Nghymru wedi aros yn weddol gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn, a bellach mae'r ffigwr yn £233,194 yn ôl ffigyrau diweddaraf cymdeithas adeiladu'r Principality.
Roedd yr ail gwymp blynyddol mwyaf mewn prisiau yn Sir Benfro - cwymp o 8.9%.
Mae'r cyngor yno wedi pleidleisio'n ddiweddar i ostwng premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi o 200% i 150%.
Roedd y cynnydd mwyaf flwyddyn ar ôl blwyddyn yn Sir Gaerfyrddin - cynnydd o 9.2%.
Mae'r cyngor yno'n cyflwyno premiwm treth cyngor o 100% ar ail gartrefi o fis Ebrill ymlaen.
Ond nid prisiau'r farchnad sy'n peri pryder i bawb. Mae prosesau prynu a gwerthu'n gallu bod yn heriol iawn, yn ôl rhai.
Mae Gwenan Mair Davies o ardal Crymych, yn Sir Benfro yn berson ifanc sy'n awyddus i symud tŷ, ond yn dweud fod hynny'n anodd.
"Mae wedi bod yn bach o ben tost a bod yn onest, o'n i wastad yn meddwl mai prynu'r tŷ cyntaf fydde'r her a'r sialens, ond yn y misoedd diwethaf, ni 'di profi mai gwerthu'r tŷ cyntaf falle a chamu 'mlaen i'r tŷ nesaf yw'r pen tost.
"Ni 'di dod ar draws rhywle ni 'di dotio arno fe, ond dim ond ar yr ail ymweliad â'r lle nath yr arwerthwyr tai ddweud bod rhai i ni fod mewn rhywbeth sy'n cael ei alw'n proceedable position er mwyn cael rhoi hyd yn oed cynnig ar y tŷ."
![Gwenan Mair Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1800/cpsprodpb/beea/live/5e5a88f0-eab0-11ef-80bb-c173c17a1e53.jpg)
Mae Gwenan Mair Davies yn un o nifer sydd wedi wynebu heriau wrth geisio prynu a gwerthu tŷ
"'Nes i bach o ymchwil, a gweld un ai bod tŷ ni wedi gwerthu a nid jest dim ond hynny, ond bod pwy bynnag sy'n prynu'r tŷ hefyd mewn proceedable position... yr ail beth wedyn bo chi'n prynu tŷ am y tro cyntaf bod morgais mewn lle, neu bod 'da chi arian parod mewn lle yn barod i fynd," ychwanegodd Gwenan Mair Davies.
"Pobl gyffredin yng ngorllewin Cymru - faint o bobl sy'n gallu gwneud hynny? Yn fy marn i, mae'n rhwystredig tu hwnt... mae pobl sydd ag arian mawr tu hwnt i'r ffin o bosib yn dod i brynu'r tai, y bydden ni wedi dwli byw yndo."
Gan fod Ms Davies mor awyddus i symud, mae hi wedi gostwng pris ei thŷ er mwyn ceisio gwerthu ynghynt.
'Galw am dai yn y wlad'
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno mesurau ychwanegol yn ddiweddar er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r hyn y mae nhw'n ddisgrifio fel prinder tai i bobl leol mewn ardaloedd twristaidd poblogaidd.
Mae'r cyngor wedi mwy na dyblu'r tâl treth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwyliau.
Maen nhw hefyd wedi cyflwyno erthygl 4 yn ddiweddar, sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion eiddo gael caniatâd cynllunio i newid y defnydd o gartrefi preswyl i ail gartrefi neu gartrefi gwyliau.
Mae Sion Williams yn arwerthwr tai ym Mhwllheli a dywedodd: "Mae'r farchnad wedi bod yn amrywiol iawn.
"Mae llefydd twristaidd wedi gweld y galw'n disgyn oherwydd y newidiadau yn y rheolau gydag ail dai ac yn y blaen. Tai yn y wlad, mae 'na dal alw da am rheiny i ddeud y gwir.
"Mae lot o newid wedi bod mewn tai sydd â gwaith gwario arnyn nhw. Mae costau deunyddiau a llafur wedi codi gymaint."
![Sion WIlliams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/713/cpsprodpb/6bc1/live/acf58550-eab0-11ef-80bb-c173c17a1e53.jpg)
Mae'r farchnad dai wedi bod yn "amrywiol iawn" yn ddiweddar yn ôl Sion Williams sy'n arwerthwr tai
"Rhaid i rywun gadw mewn ystyriaeth y rheolau trethi ail dai, sydd wedi bod mewn grym rŵan ers dwy flynedd efo'r premiwms 'ma ac mae hynny wedi cael effaith andwyol ar y farchnad," ychwanegodd Sion Williams.
"Mae 'na dal bobl o du allan i'r ardal yn dod yma i fyw, 'di o ddim 'di stopio hynny o bell ffordd, ond mae'r costau o fod yn berchen ar ail dŷ rŵan, hyd yn oed os ydi rhywun yn dewis tŷ sy'n cydymffurfio efo erthygl 4, mae'r costau mor erchyll i rywun, mae'n gofyn bod rhywun yn ennill pres mawr i'w gyfiawnhau o."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod "dros 65% o boblogaeth Gwynedd wedi eu prisio allan o'r farchnad dai" a bod mynd i'r afael â phrinder tai yn "flaenoriaeth allweddol".
Dywedodd y cyngor eu bod wedi cyflwyno erthygl 4 i "gael gwell rheolaeth dros y stoc dai bresennol" a'u bod yn "monitro yr effeithiau'n barhaus".
Ychwanegodd fod peth o'r arian sy'n cael ei godi gan bremiwm treth y cyngor yn cael ei ddefnyddio i alluogi "datblygu cartrefi newydd, creu llety â chymorth i'r rhai sy'n wynebu digartrefedd a grantiau a benthyciadau i helpu pobl leol i sicrhau tai, ymhlith llawer o brosiectau eraill".
![tai](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16d7/live/083160f0-ec74-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Mae Harri Jones yn brif swyddog cwsmeriaid i gwmni'r Principality ac o'r farn bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos fod y farchnad dai yn "troi mewn i farchnad iach".
"Uchafbwynt prisiau tai oedd diwedd 2022, lle welson ni'r pris uchaf o £249,000 ar gyfartaledd, erbyn hyn mae'r pris yn £233,000, a 'da ni wedi gweld ychydig iawn o newid dros y deuddeg mis olaf," meddai.
"Mae'r prisiau wedi bod yn sefydlog rŵan am flwyddyn, mae 'na dwf eithriadol yn nifer y tai gafodd eu gwerthu yn y chwarter olaf - 28% o dwf o gymharu â'r flwyddyn gynt a hwnnw ydy'r lefel uchaf ers tua tair blynedd.
"I ni mae hynny yn arwydd clir bod gofyn am dai. Wrth gwrs fe welson ni doriad yn y base rate yn gynharach y mis yma ac mae hynny'n gwneud morgeisi yn fwy fforddiadwy ac mae disgwyl gweld toriad pellach.
"Mae hynny am wneud hi'n haws i bobl fforddio tai. Y disgwyl yw y gwelwn ni'r farchnad yn troi i un lle mae prisiau yn cynyddu eto, a gobeithio y bydd y twf yna'n raddol - bydd hynny'n beth iach i bawb."
![Mae'r nifer o ail dai sydd ar werth yn Sir Benfro wedi mwy na threblu ar ôl i'w treth cyngor gynyddu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/afd8/live/8b387f50-ed10-11ef-83b8-c34d7c00cdfa.jpg)
Ym mis Medi 2024, roedd nifer yr ail dai oedd ar werth yn Sir Benfro wedi mwy na threblu ar ôl i'w treth cyngor gynyddu
Dywedodd y Ceidwadwr Samuel Kurtz AS, sy'n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro mai un o'r rhesymau mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau i ddelio ag ail gartrefi "yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl lleol brynu tai ond nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd".
Ychwanegodd bod y "system yn rhy anodd i bobl ifanc brynu tai cyntaf nhw a mae'n rhaid i ni feddwl sut allwn ni gael mwy o bobl lleol i brynu tai yn eu hardaloedd ble maen nhw eisiau byw a ble mae swyddi iddyn nhw".
"Mae angen i prisiau ddod lawr ond hefyd mae angen i'r tai fod yn fath o dai mae pobl ifanc eisiau eu prynu ac ar hyn o bryd, y steil o tai, dydyn nhw ddim yn tai ar gyfer pobl ifanc sy'n prynu tai ar eu pen eu hun.
"Os y'n ni'n edrych ar y math o dai sy'n dod o'r farchnad, dydi tai tair, pedair stafell sy'n dod ar y farchnad ddim yn addas i bobl ifanc.
"Beth sydd wedi bod yn broblem yng Nghymru yw bod ni heb adeiladu digon o dai a tai am bobl ifanc - two up two down - tai mae pobl yn gallu fforddio a dyna be sy'n brin yng Nghymru ar hyn o bryd."
'Arwydd cadarnhaol'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros dai, Sian Gwenllian: "Os yw'r newyddion yma'n dangos bod cartrefi yn mynd yn fwy fforddiadwy i bobl leol, yna bydd llawer yn ei groesawu'n gynnes.
"Yn enwedig y 65% o drigolion Gwynedd sy'n cael eu prisio allan o'r farchnad dai lleol, yn enwedig y cenedlaethau o bobl ifanc sydd wedi cael eu gwthio allan o'u cymunedau lleol yn enw ail gartrefi.
"Mae'r system dai yng Nghymru wedi methu cenedlaethau o bobl ifanc, wedi methu'r 11,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw mewn llety dros dro, wedi methu ein cymunedau sy'n ceisio gwarchod y Gymraeg a darparu lle iddi ffynnu.
"Mae'r data hwn yn arwydd cadarnhaol tuag at wireddu manteision y diwygio polisïau tai arloesol a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, gyda'r weledigaeth o greu Cymru decach ar gyfer cenedlaethau iau."
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i gefnogi ein cymunedau i ffynnu yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd"
"Dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno pecyn cytbwys ac arloesol o fesurau i gynyddu'r cyflenwad tai a helpu i fynd i'r afael â heriau sy'n gysylltiedig â meddiannaeth dymhorol.
"Mae hyn yn cynnwys gweithio i ddarparu mwy o gartrefi a sicrhau bod gan bobl fynediad at gartrefi addas a fforddiadwy i'w prynu neu eu rhentu yn eu cymunedau eu hunain.
"Rydym hefyd wedi rhoi mwy o bwerau nag erioed i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi a gosodiadau tymor byr.
"Rydym wedi cynyddu'r premiymau treth cyngor uchaf y gall awdurdodau lleol ddewis eu gosod ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, ac rydym yn eu hannog i ddefnyddio'r refeniw a godir tuag at atebion tai fforddiadwy."