Rheolau llymach ar ail dai a llety gwyliau yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi cefnogi cynllun i’w gwneud yn orfodol i sicrhau caniatâd cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.
Gyda'r bwriad o geisio rheoli effaith ail gartrefi ar gymunedau yn y sir, fe gefnogodd y cabinet y cynllun yn unfrydol i newid y broses gynllunio, sy’n cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, o 1 Medi 2024.
Fe gafodd awdurdodau ledled Cymru ragor o bwerau gan y llywodraeth i reoli'r nifer o ail gartrefi yn Hydref 2022, a Gwynedd fydd y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd hynny.
Ond mae 'na wrthwynebiad i’r cynllun hefyd, gyda rhai yn dweud y bydd eu tai yn werth llai o arian os fyddan nhw eisiau gwerthu.
Ni fydd y penderfyniad yn effeithio ar gymunedau o fewn ardal Parc Cenedlaethol Eryri, ond mae awdurdod y parc yn ymgynghori ar gyflwyno mesurau tebyg o fewn ffiniau’r parc.
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023
Mae'r newid yn golygu y bydd gan yr awdurdod yr hawl i fynnu fod perchnogion eiddo yn cael caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Ond ni fyddai angen caniatâd i droi ail gartref neu lety gwyliau yn brif annedd.
Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd brynhawn Mawrth yn dilyn proses ymgynghori.
Ond er bod Erthygl 4 yn cael ei gefnogi gan rai, mae hefyd wedi denu beirniadaeth.
Mae gwrthwynebwyr wedi codi arian i ddechrau her gyfreithiol, ac mae’n bosib y gall y gwaith papur gael ei gyflwyno cyn gynted â ddydd Mawrth.
Dywedodd y cynghorydd Dafydd Meurig, sy'n gyfrifol am bortffolio amgylchedd y cyngor, fod 65% o drigolion Gwynedd wedi’u prisio allan o’r farchnad dai.
“‘Da ni gyd yn gwybod fod problem tai yma ers blynyddoedd lawer, mae’n argyfwng.”
Ychwanegodd fod dros 2,000 o geisiadau ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, sy’n cynrychioli 4,500 o unigolion, a bod 800 wedi cofrestru gyda’r cynllun Tai Teg i geisio sicrhau tŷ fforddiadwy.
Fe wnaeth proses ymgynghori ddenu bron i 4,000 o ymatebion o blaid ac yn erbyn y mesurau.
Yn ôl y cynghorydd, Dilwyn Morgan roedd rhai ymatebion yn dangos “diffyg dealltwriaeth o’r pwnc”.
Roedd rhai, fel rhan o’r ymgynghoriad, wedi honni fod y mesurau yn “mynd yn groes i hawliau dynol”, ond dywedodd swyddogion ei fod yn ymgais i “reoli ein stoc dai sy'n diflannu'n flynyddol”.
Dywedodd y swyddog cynllunio, Gareth Jones, mai’r bwriad oedd “gwarchod cymunedau Gwynedd” a “diwallu anghenion tai pobl leol”, ond mai nid y bwriad oedd “atal datblygu’n lleol”.
Roedd swyddogion hefyd yn hyderus na fyddai’r mesurau yn cael effaith andwyol ar allu pobl i sicrhau morgeisi, gan ddweud dim tystiolaeth wedi dod i law i gefnogi ofnau o’r fath.
Clywodd cynghorwyr for mesurau Erthygl 4 eisoes wedi’u defnyddio yn Lloegr i reoli defnydd Tai Aml Feddiannaeth (HMO’s), a doedd dim tystiolaeth o effaith andwyol ar argaeledd morgeisi yno ychwaith.
Mae cartrefi i bobl leol a’r farchnad tai haf wedi bod yn bwnc llosg yng Ngwynedd ers blynyddoedd.
Mae Mared Llywelyn, cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, o blaid gweld pobl yn gorfod cael caniatâd cynllunio os am newid defnydd tŷ yn ail gartref neu'n llety gwyliau.
"Mae o’n mynd i fod yn un arf arall i allu lliniaru’r broblem," meddai.
"'Da ni wedi gweld y cynnydd yn y premiwm treth cyngor - 'di hynny ar ei ben ei hun ddim yn ddigon.
"Mi oedden ni'n galw o’r cychwyn am roi cap ar yr ail dai, a mae erthygl pedwar yn un ffordd o ganiatáu i ni allu gwneud hynny.
"Dwi wedi sylwi bod 'na lot mwy o dai ar werth rŵan oherwydd y cynnydd yn y premiwm treth cyngor.
"Yn amlwg mae prisiau tai yn dal yn rhy uchel i bobl leol fedru fforddio nhw.
"Mae hynny yn mynd i gymryd blynyddoedd siŵr o fod i allu gweld ei effaith o."
Ychwanegodd Ms Llywelyn fod "tensiwn" rhwng pobl leol a pherchnogion ail gartrefi a llety gwyliau.
"Mae’r argyfwng [tai] dal r'un fath ers tair neu bedair blynedd.
"Mae 65% o bobl Gwynedd yn methu fforddio tai yn lleol a dwi’n meddwl bod hynny yn adrodd cyfrolau, a mi ydan ni’n cael ein gwthio i’r ymylon.
"Ella 'sa rhai o’r bobl o’r ochr arall yn dweud bod nhw'n cael eu gwthio o'ma gan Erthygl 4 neu’r treth cyngor, ond be' am y bobl leol sy’n byw 'ma?
"Mae’n anodd... mae 'na densiwn yn lleol yn sicr rhwng pobl leol a'r bobl sydd piau ail dai a busnesau yma.
"Mae o’n bwnc anodd ond mae’n rhaid i ni weithredu i reoli’r broblem yma neu mi fydd ein cymunedau ni yn cael eu colli am byth - ein hiaith a phob dim sy’n annwyl i ni yma."
Ond nid pawb sy'n gefnogol o'r cynlluniau, a'r cynghorydd John Brynmor Hughes - sy’n cynrychioli Abersoch a Llanengan ar Gyngor Gwynedd - ydy un o'r rheiny.
Mae o'n teimlo ei bod hi bellach yn "rhy hwyr" am gynllun o'r fath, ac y byddai'n cael effaith negyddol ar brisiau tai pobl leol.
"'Da ni wedi gollwng y ceffylau, dim o’r stabl, dim o’r coral ond o’r prairie - mae’n rhy hwyr bellach," meddai.
"Mae Abersoch wedi cael cynlluniau i godi tai haf, a dyna be ydy o - pentref tai haf o bentref bach pysgota.
"Dwi’n wrthwynebus [o Erthygl 4]. Dio’m yn mynd i effeithio'r rheiny sydd wedi cael caniatâd, wedi bod yn gosod tai neu Airbnb yn barod.
"Mae’r wraig wedi ei magu a byw yn y tŷ 'ma erioed, a dywedwch bod ni isio gwerthu, mae'n gostwng pris y tŷ yn enfawr, a dim jyst i ni.
"Pobl ifanc lleol sydd efo morgais. Beth sydd yn digwydd pan maen nhw’n ail-wneud y morgais?
"Ydyn nhw’n mynd i gael un ydy’r cwestiwn mawr - ella bydd ganddyn nhw negative equity."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd6 Mawrth