'Rhaid creu cyfleoedd i blant yn ystod gwyliau ysgol'

Yn ôl Pennaeth Ysgol Uwchradd ym Mhontypridd, mae'r penderfyniad i beidio torri wythnos oddi ar wyliau haf ysgolion Cymru am y tro yn un "doeth a synhwyrol".

Roedd yna bryder ymhlith undebau addysg y llynedd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion i ddiwygio'r calendr ysgol.

Roedd y cynlluniau'n anelu at ymestyn hanner tymor Hydref 2025 i bythefnos a chwtogi gwyliau'r haf i bum wythnos yn lle chwech o 2026 ymlaen.

Yn dilyn ymgynghoriad, a ddenodd ymateb gan dros 16,000 o bobl, mae'r llywodraeth nawr wedi cyhoeddi na fydd y cynlluniau'n cael eu gweithredu cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, fe fydd yn rhoi amser i ysgolion weithredu'r cwricwlwm newydd a gwella safonau.

Mae'r undebau dysgu wedi croesawu'r cyhoeddiad, er yn parhau i ddadlau nad yw newid y flwyddyn ysgol yn flaenoriaeth.

Roedd Trystan Edwards, Pennaeth Ysgol Garth Olwg ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd, yn rhan o'r panel ymgynghori a edrychodd yn fanylach ar gynigion y llywodraeth.

Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast bod y broses "wedi amlygu cymhlethdodau ynglŷn â llif y flwyddyn ysgol" ac effeithiau posib ar bob math o bethau - o'r amserlen arholiadau a chanlyniadau i'r sector twristiaeth a'r effaith ar ysgolion ger y ffin â Lloegr.

Mae hefyd, meddai, "wedi agor y drws i syniadau mwy creadigol yn y dyfodol", ond bod rhoi saib ar y cynlluniau yn benderfyniad "doeth a synhwyrol".

Soniodd hefyd am effaith gwyliau ysgol hir ar blant sydd o gefndiroedd llai breintiedig neu o deuluoedd di-Gymraeg, a'r angen i greu mwy o gyfleoedd ar eu cyfer pan fo'r ysgolion ar gau.