Cwtogi gwyliau haf ysgolion Cymru i bum wythnos?
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwyliau haf ysgolion Cymru gael ei gwtogi i bum wythnos petai cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cael eu cymeradwyo.
Os yw'r cynllun yn cael sêl bendith byddai'n dod i rym ym mlwyddyn ysgol 2025-26 a byddai gwyliau hanner tymor mis Hydref yn cael ei ymestyn i bythefnos.
Yn ôl Llywodraeth Cymru byddai'r newidiadau'n cefnogi plant mwy difreintiedig ac yn hybu lles disgyblion ac athrawon.
Ond mae un undeb addysg wedi disgrifio'r cynlluniau fel "camgymeriad a siom".
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn dechrau ar 21 Tachwedd ac yn para am 12 wythnos.
'Angen ailystyried'
Daw'r cynlluniau wedi gwaith ymchwil y llynedd ar strwythur y flwyddyn ysgol yng Nghymru.
Yn ôl y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, maen nhw wedi'u cyflwyno yn sgil pryderon y llywodraeth am effaith gwyliau hir yr haf ar rai o ddisgyblion Cymru.
Ond mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn dweud eu bod yn bryderus am y cynlluniau.
Yn ôl Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, dyw'r llywodraeth ddim wedi ystyried holl effeithiau'r newidiadau.
Dywedodd: "Ni'n siomedig iawn gyda'r cyhoeddiad hwn. Does dim ymgynghori wedi bod gyda'r undebau.
"Mae yna sawl problem posib gyda'r newidiadau yma. Mae staffio yn anodd yn y sector fel mae hi, ac mi all hyn waethygu'r sefyllfa.
"Hefyd, mae wythnos o wyliau ychwanegol yn nhymor yr Hydref yn golygu wythnos yn llai o ddysgu i blant cyn arholiadau hollbwysig yr haf.
"Mi allai hynny gael effaith andwyol ar ein disgyblion ni yng Nghymru. Mae angen i'r llywodraeth ailystyried y cynlluniau yma."
Tymor yr hydref yn 'hir a heriol'
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Jeremy Miles y byddai'r cynllun yn lleddfu'r pwysau ar ysgolion yn ystod tymor yr hydref.
"Ni'n siarad gyda rhieni yn aml ac yn clywed wrthyn nhw eu bod nhw'n awyddus i weld gwyliau mwy cyson ar draws y flwyddyn ysgol," meddai.
"Ry'n ni'n gwybod, er enghraifft, o fynd i ysgolion a siarad gydag athrawon, bod y tymor hwn - tymor yr hydref - yn gallu bod yn hir ac yn heriol.
"Mae ymddygiad disgyblion yn gallu mynd yn waeth ac mae blinder yn dod mewn gydag athrawon.
"Felly bydd cyflwyno pythefnos o doriad yn yr hydref o 2025 yn helpu gyda hynny."
Mae'r cynlluniau wedi cael ymateb cymysg gan rai o rieni plant Ysgol Pen Barras yn Rhuthun, Sir Ddinbych.
Yn ôl Ceri Goldstone mae sicrhau gofal i'w phlant dros wyliau'r haf yn gallu bod yn heriol.
Dywedodd: "Mae'n waith caled ffeindio gofal plant yn ystod yr haf.
"Mae chwe wythnos yn hir ac mae'n gostus talu am ofal am ddau o blant am gyfnod mor hir."
Cytuno mae Arwel Williams gan ddweud: "Ni'n paratoi i'r un bach ddechrau yn yr ysgol flwyddyn nesaf ac mae'r sgwrs am ofal plant dros yr haf wedi codi trafferthion i fi a fy ngwraig yn barod.
"Ni'n gweithio'n llawn amser a dim ond hyn a hyn o wyliau sydd gyda ni. Felly byddai gwyliau haf byrrach yn help."
Ond yn ôl Aled Evans, rhiant arall yn yr ysgol, mae'r haf yn gyfle da i blant ac athrawon ymlacio.
Dywedodd: "Dwi'n gallu gweld pa mor flinedig mae'r plant ar ddiwedd flwyddyn ac mae gwyliau'r haf yn rhoi'r cyfle yna iddyn nhw wir ymlacio.
"Mae'n rhan bwysig o baratoi at y flwyddyn nesaf."
O dan gynlluniau'r llywodraeth byddai'r gwyliau haf yn dechrau wythnos yn hwyrach.
Mae rhai o ffermwyr Cymru yn pryderu am yr effaith y gall hynny gael ar eu gallu nhw i fynd â'u plant i'r Sioe Frenhinol.
"Dwi'n mwynhau cystadlu ac mae'r sioe yn rhan bwysig iawn o'r calendr ffermio. Byddwn i wedi bod yn drist colli'r sioe oherwydd ysgol," meddai Teleri Edwards, sy'n ffermio ym Mryneglwys.
Cytuno mae Alison Tomos gan ategu: "Yn ddiweddar roedd y sioe tu allan i'r gwyliau haf a dwi'n gwybod am sawl teulu oedd wedi penderfynu tynnu eu plant nhw allan o'r ysgol i fynd.
"Dyma gyfle ffermwyr i gael gwyliau a chymdeithasu. Byddai colli wythnos o wyliau'r haf yn achosi trafferth mawr i deuluoedd cefn gwlad."
Yn ymateb i'r pryderon am golli'r Sioe Fawr, dywedodd Jeremy Miles y byddai hynny yn "cael ei drafod".
Dadansoddiad Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru, Bethan Lewis
Pam bwrw 'mlaen gyda newid y flwyddyn ysgol pan fod cymaint o heriau eraill ym myd addysg?
Dyna'r cwestiwn mae undebau addysg yn gofyn, gan gyfeirio at ymchwil sydd wedi awgrymu nad yw hyn yn bwnc llosg i'r cyhoedd.
Mae'r llywodraeth yn mynnu bod yna dystiolaeth bod plant yn cwympo'n ôl yn addysgiadol dros y gwyliau haf hir a bod yr effaith i'w gweld yn gliriach ar blant mwy difreintiedig.
Yn wleidyddol, mae'r addewid i edrych ar batrymau tymhorau ysgol yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Ac mae'n debyg bod diwygio trefn sydd mewn lle ers rhyw 150 o flynyddoedd yn rhywbeth mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn bersonol yn gryf o'i blaid.
Yn ystod yr ymgynghoriad mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar y posibilrwydd o newidiadau pellach yn y dyfodol - alla weld gwyliau'r haf yn gostwng i bedair wythnos.
Byddai hynny'n cynnwys ychwanegu wythnos at wyliau hanner tymor mis Mai.
Mae sicrhau bod gwyliau'r gwanwyn hanner ffordd drwy'r tymor hefyd yn rhan o'r cynllun - ar hyn o bryd mae'r dyddiadau yn ddibynnol ar y Pasg ac o wneud hynny bydd hyd y tymhorau yn fwy cyfartal.
Mae newid dyddiau canlyniadau TGAU a Safon Uwch i'r un wythnos hefyd yn cael ei ystyried.
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y gallai gwyliau hir yr haf fod yn "straen gwirioneddol".
"Mae teuluoedd yn cael trafferth dod o hyd i ofal plant dros y chwe wythnos, ac mae eraill yn cael trafferth gyda'r costau ychwanegol a ddaw yn sgil hafau hir.
"Rydym hefyd yn gwybod mai ein dysgwyr mwyaf difreintiedig sy'n dioddef fwyaf o golledion dysgu wedi haf hir".
Yr amserlen
Tachwedd 2023 - ymgynghoriad yn dechrau ar y cynlluniau;
Gwanwyn 2024 - datganiad gan y Gweinidog Addysg ar yr hyn sy'n digwydd nesaf;
Os yn cymeradwyo'r cynlluniau:
Hydref 2025 - gwyliau pythefnos hanner tymor o bythefnos;
Haf 2026 - gwyliau haf pum wythnos o hyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021