Newid y tymor ysgol yn 'annerbyniol' - undebau
- Cyhoeddwyd
Mae undebau athrawon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "dynnu 'nôl" ei chynigion i ddiwygio'r flwyddyn ysgol.
Mewn llythyr agored at y Gweinidog Addysg maen nhw'n datgan "pryder mawr" ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio'r calendr ysgol.
Ychwanegon nhw "nad yw'r cynigion hyn yn dod o ymchwil perthnasol a diweddar" ac "na fyddant yn cefnogi plant".
Dywedodd y llywodraeth bod cyfle i "ddylunio calendr ysgol sy'n gweithio'n well i athrawon, staff ac yn fwyaf pwysig, dysgwyr".
Beth ydy'r cynllun?
Os yw'r cynllun yn cael sêl bendith, byddai gwyliau haf ysgolion yn cael ei gwtogi i bum wythnos a gwyliau hanner tymor mis Hydref yn cael ei ymestyn i bythefnos.
Byddai'n dod i rym ym mlwyddyn ysgol 2025-26 petai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau wedi dechrau ers 21 Tachwedd ac yn para am 12 wythnos.
Yn ôl Llywodraeth Cymru byddai'r newidiadau'n cefnogi plant mwy difreintiedig ac yn hybu lles disgyblion ac athrawon.
Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, eisioes wedi dweud bod y cynlluniau wedi'u cyflwyno yn sgil pryderon y llywodraeth am effaith gwyliau hir yr haf ar rai disgyblion.
Mae undebau'n dweud bod eu dadleuon yn y llythyr "o blith nifer o ddadleuon yr ydym i gyd wedi'u hailadrodd dro ar ôl tro wrth swyddogion Llywodraeth Cymru ond does neb yn gwrando".
'Camgymeriad difrifol'
Yn y llythyr at y Gweinidog Addysg, mae'r undebau'n dweud "mai cyfyngedig yw'r ymchwil diweddar a pherthnasol i gefnogi'r argymhellion" a'u bod "yn seiliedig ar hen ragfarn anwybodus ynghylch gwyliau'r haf ysgol".
Maen nhw hefyd yn honni "nad oes fawr o awydd ymhlith y cyhoedd am newid o'r fath".
Mae'r llythyr, sydd wedi ei lofnodi gan undebau addysg ac amaeth gan gynnwys NASUWT Cymru, UCAC ac Undeb Amaethwyr Cymru, yn cyfeirio at adroddiad Beaufort a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r undebau'n dweud bod "y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn fodlon â siâp y flwyddyn ysgol gyfredol".
Mae'r llythyr hefyd yn nodi bod "pob un o'r undebau addysg yn cytuno'n llwyr fod y cynigion ar gyfer diwygio y flwyddyn ysgol fel ag y maent yn annerbyniol".
"Mae gwyliau'r haf eisoes ymhlith y byrraf yn Ewrop.
"Nid yw'r rhesymau addysgol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi dros y diwygiadau wedi'u cadarnhau gan ymchwil, gan gynnwys y farn bod yna anfantais i ddysgu plant.
"Byddem yn dadlau y byddai'r newidiadau arfaethedig, mewn gwirionedd, yn gwneud niwed i ddysgwyr uwchradd wrth i wythnos gael ei chymryd o dymor hollbwysig yr hydref a'i throsglwyddo i'r cyfnod tawelach ar ôl arholiadau.
"Mae pob athro uwchradd yn gwybod bod hwn yn gamgymeriad difrifol."
Effaith ar dwristiaeth
Mae'r llythyr hefyd yn cyfeirio at ymateb cynrychiolwyr o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, gan honni y gallai "arwain at rai atyniadau'n cau a swyddi'n cael eu colli".
"Mae llawer o atyniadau yn cymryd dros 45% o'u hincwm blynyddol yn ystod gwyliau'r haf presennol.
"Byddai'r cynnig i ychwanegu wythnos at hanner tymor mis Hydref yn drychineb i lawer, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu fynyddig lle gall y tywydd ar yr adeg honno o'r flwyddyn fod yn ddifrifol.
"Mae'r diwydiant twristiaeth hefyd yn cyflogi llawer o bobl ifanc yn ystod cyfnod gwyliau'r haf.
"Mae'r cyfnod presennol o chwe wythnos yn caniatáu amser i hyfforddi ac ymgysylltu'n briodol â phobl ifanc y mae llawer ohonynt yn profi eu cyfleoedd cyntaf yn y gweithle."
Mae hefyd pryderon am yr effaith ar y diwydiant ffermio a'r Sioe Frenhinol.
Dywedodd y llywodraeth bod cyfle i "ddylunio calendr ysgol sy'n gweithio'n well i athrawon, staff ac yn fwyaf pwysig, dysgwyr - gan roi'r amodau gorau i ffynnu".
"Byddwn yn parhau i drafod gyda rhanddeiliaid, a'r ymgynghoriad - sy'n cau ar 12 Chwefror - sy'n rhoi cyfle i bawb ddweud eu dweud."
Yr amserlen
Tachwedd 2023 - ymgynghoriad yn dechrau ar y cynlluniau;
Gwanwyn 2024 - datganiad gan y Gweinidog Addysg ar yr hyn sy'n digwydd nesaf;
Os yn cymeradwyo'r cynlluniau:
Hydref 2025 - gwyliau hanner tymor o bythefnos;
Haf 2026 - gwyliau haf pum wythnos o hyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022