Angharad James yn edrych ymlaen at herio Estonia

Bydd tîm Cymru'n gobeithio adeiladu ar y dechrau da gafwyd yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd y Merched wrth herio Estonia ddydd Mawrth.

Mae carfan Gemma Grainger wedi cychwyn am Pärnu wedi iddyn nhw guro Kazakhstan yn y gêm agoriadol yng Ngrŵp I o 6-0 yn Llanelli nos Wener.

Cymru yw'r ffefrynnau yn erbyn Estonia wedi iddyn nhw golli gartref o 4-0 yn erbyn Slofenia yn eu gêm agoriadol nhw.

Y gobaith yn y pen draw yw cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed yn Awstralia a Seland Newydd yn 2023.

Cyn cychwyn am Estonia, bu Angharad James yn dweud wrth BBC sut y mae Gemma Grainger wedi newid pethau ers cymryd yr awenau fel prif hyfforddwr.

Bydd y gic gyntaf yn erbyn Estonia am 18:00, a gallwch ddilyn y cyfan yma ar BBC Cymru Fyw.