Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023: Cymru 6-0 Kazakhstan

  • Cyhoeddwyd
Aelodau tîm Cymru'n dathlu gôl Natasha Harding i wneud y sgôr yn 2-0Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau tîm Cymru'n dathlu gôl Natasha Harding i wneud y sgôr yn 2-0

Mae merched Cymru wedi cael dechrau gwych i'w hymgyrch yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023 wedi buddugoliaeth hawdd dros Kazakhstan nos Wener.

6-0 oedd y sgôr terfynol ar ddiwedd gêm gystadleuol gyntaf y tîm cenedlaethol ers penodi Gemma Grainger yn rheolwr - a'u gêm gystadleuol gyntaf o flaen torf ers dechrau'r pandemig.

Ac roedd yna goliau o safon uchel iawn i ddidannu'r dorf ym Mharc y Scarlets Llanelli, gan gynnwys dwy gan ymosodwr Brighton, Kayleigh Green a goliau rhyngwladol cyntaf i Gemma Evans a Ceri Holland .

Fe ddechreuodd y tîm yn dda gyda sawl ergyd ar darged, gan gynnwys peniad nerthol o agos gan Gemma Evans oedd angen arbediad gwych i'w hatal ar y lein gan golwr Kazakhstan, Irina Saratovtseva.

Roedd Cymru'n haeddu mynd ar y blaen wedi 16 o funudau trwy ergydiad campus Green - o jest tu allan i gornel chwith y cwrt cosbi ar draws y gôl i dop cornel dde'r rhwyd.

Roedd ergydiad droed chwith Natasha Harding, a ddyblodd fantais Cymru wedi hanner awr o chwarae, lawn cystal wrth iddi anelu'r bêl yn bendant tu mewn i'r postyn pellach.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Kayleigh Green yn dathlu sgorio gôl gyntaf Cymru

Roedd patrwm tebyg i'r chwarae wedi'r egwyl - Cymru'n ymosod a Kazakhstan yn amddiffyn.

Ond er cystal oedd safon goliau'r hanner cyntaf roedd gwell i ddod gan y cefnwr chwith, Rachel Rowe, oedd yn llawn egni ac yn cystadlu am y bêl ymhob rhan o'r cae.

Fe gysylltodd â phás gan Jess Fishlock gan ergydio'n wych o 30 llath, a doedd dim gobaith i'r golwr atal Cymru rhag ymestyn y bwlch i 3-0 wedi 54 o funudau.

Bu bron i Fishlock rwydo ei hun, cyn i Green sgorio'i hail gôl o'r noson gyda pheniad o chroesiad gan Rowe wedi 70 o funudau.

Daeth Fishlock yn agos at sgorio gôl arall a fyddai wedi bod yn un cofiadwy oni bai am arbediad da gan y golwr.

Ym munudau ychwanegol y gêm fe rwydodd yr amddiffynnwr Gemma Evans ei gôl gyntaf dros ei gwlad, cyn i Ceri Holland wneud yr un peth ddau funud yn ddiweddarach.

Yng ngemau eraill Grŵp I ddydd Gwener fe roddodd Ffrainc gweir i Wlad Groeg (0-10) ar eu tomen eu hunain, ac roedd yna fuddugoliaeth gyfforddus oddi cartref hefyd i Slofenia yn erbyn Estonia (0-4)

Estonia yw gwrthwynebwyr nesaf Cymru nos Fawrth, 21 Medi yn Pärnu.