Harding yn teimlo'n 'hyderus' cyn gêm Cymru v Slofenia
Mae ymosodwr Cymru, Natasha Harding yn dweud fod y garfan yn teimlo'n hyderus cyn herio Slofenia ac Estonia dros y dyddiau nesaf.
Mae Cymru wedi ennill y ddwy gêm hyd yma yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2023 - yn erbyn Kazakhstan ac Estonia - ac fe fyddan nhw'n gobeithio ei gwneud hi'n bedair buddugoliaeth erbyn nos Fawrth.
Colli 2-3 yn erbyn Ffrainc wnaeth Slofenia yn eu gêm ddiwethaf, ond fe allen nhw'n hawdd fod wedi cael mwy o'r gêm honno gan i Ffrainc sgorio'r gôl fuddugol o'r smotyn yn y funud olaf.
Yn ôl Harding mae hynny'n dangos eu bod yn dîm da a bod yn rhaid dangos parch tuag atynt.
Bydd Cymru'n herio Slofenia oddi cartref nos Wener cyn croesawu Estonia i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.