Cyngor Angharad James i Gareth Bale wrth iddo symud i LA

Dywed Angharad James fod carfan Cymru wedi cael wythnos dda o baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol allweddol yn erbyn Groeg a Slofenia yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Fe gafodd y tîm gêm gyfartal ddi-sgôr gyda Seland Newydd nos Fawrth.

Mae'n bosib hefyd y bydd James yn ennill ei 100fed cap yn y gemau hynny fis Medi, a dywedodd y byddai cyflawni hynny yn "foment wych i fi a fy nheulu".

Un sydd wedi cyrraedd y garreg filltir o 100 o gapiau i Gymru ydy Gareth Bale, ac roedd gan James gyngor iddo ar ei symudiad i'r Unol Daleithiau.

Mae James wedi bod yn chwarae yn yr Unol Daleithiau ers blwyddyn bellach - i North Carolina Courage ac yn fwy diweddar i Orlando Pride.

Ei chyngor hi i Bale felly wrth iddo symud i chwarae dros Los Angeles FC? Digon o eli haul!