'Diffyg ymdrech' Plaid i siarad â gwraig Jonathan Edwards
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts wedi dweud bod yn rhaid i'r blaid "gywiro" ei ffordd o weithredu os ydyn nhw am ddangos eu bod nhw'n "rhoi llais y dioddefwr... yn gyntaf".
Daw ei sylwadau yn dilyn ffrae ynghylch y ffordd y cafodd Jonathan Edwards AS ei adael yn ôl i mewn i'r blaid yn ddiweddar, yn dilyn gwaharddiad ar ôl ymosod ar ei wraig Emma ym mis Mai 2020.
Wrth siarad ar bodlediad WalesCast dywedodd Ms Saville Roberts ei bod hi wedi dod i'r amlwg tua diwedd y broses o adael i Mr Edwards ddychwelyd mai dim ond unwaith yr oedd y blaid wedi cysylltu gydag Emma Edwards ers y digwyddiad, ac nad oedd hynny'n "ddigon".
"Mae'r diffyg ymdrech gan y blaid yn wendid amlwg y mae'n rhaid i ni ei gywiro, a ninnau'n blaid sy'n deud ein bod ni'n rhoi llais y dioddefwr neu'r ddioddefwraig yn gyntaf," meddai.
Er bod Jonathan Edwards wedi dweud ei bod yn edifar am beth ddigwyddodd, ychwanegodd Ms Saville Roberts fod "tystiolaeth y person pwysicaf... yn gwrthddweud hynny".
"Pan gawson ni ddatganiad grymus gan Emma yr wythnos diwethaf roedd hynny'n gwrthddweud y rhesymeg oedd gan y panel disgyblu am dderbyn Jonathan Edwards yn ôl i'r blaid, a hynny yn ei dro yn golygu ei fod o 'nôl yng ngrŵp San Steffan," meddai.
Ers hynny mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw ar Jonathan Edwards i ymddiswyddo fel Aelod Seneddol ar unwaith, tra bod Mr Edwards ei hun wedi dweud na fydd yn ailymuno â grŵp y Blaid yn San Steffan.