Gwraig Jonathan Edwards AS 'wedi'i siomi' ar ôl iddo ddychwelyd i Blaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig y gwleidydd Jonathan Edwards wedi dweud ei bod hi wedi'i "siomi" ei fod wedi ei adfer yn llwyr fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru.
Cafodd Mr Edwards ganiatâd ddydd Mercher i ail-ymuno gyda grŵp y blaid yn San Steffan, yn dilyn cyngor cyfreithiol i'r blaid a ffrae ynghylch a ddylai aros yn annibynnol.
Dywedodd ei wraig, Emma Edwards, wrth BBC Cymru bod y penderfyniad yn anfon neges "nad yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys".
Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n "ystyried yn ofalus y goblygiadau" yn sgil datganiad Emma Edwards, ac "unrhyw weithredu a allai fod angen" o ganlyniad.
Mae Mr Edwards wedi gwrthod gwneud sylw.
'Ddim yn derbyn cyfrifoldeb'
Dywedodd Emma Edwards ei bod hi bellach yn difaru datganiad a gyhoeddwyd ar ei rhan yn sgil digwyddiad yn 2020.
Mae'n dweud i'r datganiad gael ei ddrafftio gan swyddog y wasg Mr Edwards.
Dywedodd iddi briodi ei gŵr ym mis Tachwedd 2012. Maen nhw yn y broses o ysgaru.
"Ym mis Mai 2020 fe wnes i ffonio'r heddlu ar ôl i'm gŵr ymosod arnaf yn ein cartref," meddai.
Wedi hynny, fe dderbyniodd Mr Edwards rybudd gan yr heddlu.
Dywedodd ei wraig ar y pryd ei bod hi mewn sioc, ddim eisiau derbyn yr hyn oedd wedi digwydd ac yn gobeithio y gallen nhw gymodi.
"Er bod Jonathan wedi mynychu cwrs cam-drin domestig ar-lein, nid oedd yn derbyn cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd, gan leihau'r digwyddiad," meddai.
"Roedd hyn yn golygu na fyddai unrhyw gymodi. Efallai fy mod yn naïf i feddwl y gallai fod."
'Y gwirionedd wedi ei gamliwio'
Dywedodd fod y datganiad a gyhoeddwyd ar y pryd, yn dweud ei bod yn derbyn ymddiheuriad ei gŵr, wedi'i sgwennu ar ei rhan "a dywedwyd wrthyf mai dyna fyddai'r ffordd orau i'w hatal rhag bod yn stori".
"Rwy'n difaru nawr dweud y geiriau hynny gan eu bod wedi cael eu defnyddio i esgusodi gweithred Jonathan," meddai.
"Rwyf wedi dysgu ers hynny ei fod yn cyflwyno ei hun fel y dioddefwr yn hyn i gyd a dyna pam rydw i nawr yn ceisio cywiro hynny.
"Rwyf wedi cael fy arswydo ac yn siomedig bod y blaid yr oeddwn yn aelod ohoni tan yn ddiweddar wedi derbyn rhywun sydd wedi cam-drin yn ddomestig i'w cynrychioli fel AS.
"Mae hyn yn danfon neges nad yw merched o bwys ac nid yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys. Roeddwn bob amser yn credu bod Plaid Cymru yn well na hyn.
"Hyd yn hyn, rwyf wedi cadw'n ddistaw. Nid wyf yn berson gwleidyddol ac nid wyf yn chwilio am gyhoeddusrwydd... Ni allaf sefyll o'r neilltu tra bod y gwirionedd yn cael ei gamliwio."
Mewn ymateb nos Wener, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Plaid Cymru'n credu bod rhaid gwrando ar leisiau dioddefwyr trais ddomestig, ac mae'r blaid yn ystyried yn ofalus y goblygiadau yn sgil datganiad cyhoeddus Emma Edwards, ac unrhyw weithredu a allai fod angen o ganlyniad i hynny."
Wrth ymateb i'r ffaith bod Jonathan Edwards wedi cael ailymuno â'r grŵp seneddol, dywedodd prif weithredwr elusen cydraddoldeb rhyw, Chwarae Teg, fod hyn yn esiampl arall o ddioddefwr "ddim yn cael eu hystyried".
"Mae perygl gwirioneddol y bydd yn hyn yn annog menywod i beidio dod ymlaen yn y dyfodol, allai gael goblygiadau erchyll," meddai Cerys Furlong.
"Mae'n rhaid i'n gwleidyddiaeth ni fod yn amgylchedd ble mae menywod yn saff a ble 'dyn ni'n cael gwared ar drais, aflonyddu a cham-drin."
Ychwanegodd y dylai Plaid Cymru "feddwl eto" ynghylch eu penderfyniad, ond bod casineb tuag at fenywod yn broblem oedd yn galw am weithredu ar draws "yr holl bleidiau gwleidyddol".
Rhaniadau o fewn Plaid Cymru
Mae rhaniadau o fewn y blaid wedi dod yn amlwg ar ôl i banel disgyblu roi caniatâd iddo ail-ymuno â'r blaid fis Gorffennaf.
Ar y pryd, wnaeth mwyafrif pwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid ddweud na ddylai'r AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gael ymuno gyda grŵp Plaid Cymru yn San Steffan.
Ddydd Mercher dywedodd y blaid eu bod wedi adfer Mr Edwards fel AS, gan ddod â'i gyfnod fel aelod annibynnol o Dŷ'r Cyffredin i ben, yn dilyn yr hyn a ddisgrifiodd fel "cyngor gweithdrefnol".
Cafodd BBC Cymru wybod bod y blaid wedi cael cyngor y byddai'n "anghyfreithlon" i Mr Edwards gael ei gadw allan o'r grŵp yn San Steffan.
Gwrthododd Jonathan Edwards wneud sylw, ond cyhoeddodd ddatganiad ddydd Mercher yn dweud ei fod yn difaru ei ymddygiad.
Dywedodd: "Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o fyfyrio dwfn lle cofrestrais ar gwrs ymwybyddiaeth trais domestig sydd wedi fy helpu i ddeall yr effaith a gafodd fy ngweithredoedd ar eraill."
Galw am is-etholiad
Dywedodd Plaid yr wythnos hon y byddai'n adolygu ei phrosesau i weld pa wersi y gellir eu dysgu.
"Yn ogystal, byddwn hefyd yn comisiynu adolygiad annibynnol i adnabod y camau sydd eu hangen er mwyn i'r blaid fod yn wirioneddol rydd o ddiwylliant o gasineb at fenywod, ac i hyrwyddo, amddiffyn ac ymestyn cyfranogiad menywod ym Mhlaid Cymru ac mewn gwleidyddiaeth yn ehangach mewn modd rhagweithiol ac ystyrlon," meddai.
Yn y cyfamser, mae Grŵp Llafur Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi galw ar Jonathan Edwards "i ymddiswyddo'n syth".
Mewn neges ar Twitter, dywedodd y grŵp y dylid cynnal is-etholiad "i ganiatáu i'r bobl benderfynu pwy maen nhw'n dymuno i'w cynrychioli yn y Senedd".
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod "angen pleidiau gwleidyddol sy'n cymryd lleisiau a hawliau dioddefwyr o ddifri ac, os yw uwch aelodau'r blaid ddim yn meddwl mai dyna'r achos nawr, mae'n amlwg bod yna fater sydd ymhell o gael ei ddatrys sy'n madru'n ddwfn o fewn Plaid Cymru."
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, "nad yw'n dderbyniol" bod Mr Edwards wedi cael ail-ymuno, ac "os yw Plaid Cymru ac Adam Price wir eisiau taclo trais yn erbyn menywod rhaid tynnu'r chwip ar unwaith".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020