Llais gwraig Jonathan Edwards 'heb ei glywed yn ddigonol'
- Cyhoeddwyd
Ni wnaeth Plaid Cymru ymdrech ddigonol i glywed llais gwraig Jonathan Edwards ar ôl iddo ymosod arni, yn ôl arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts.
Cafodd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei wahardd o'r blaid ar ôl yr ymosodiad ym mis Mai 2020, ond yn ddiweddar cafodd ganiatâd i ail-ymuno.
Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i fod yn AS Plaid Cymru, ond camodd yn ôl dros y penwythnos ar ôl i Emma Edwards ddweud ei bod hi wedi'i siomi gan y penderfyniad.
Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price, wedi galw ar Mr Edwards i roi'r gorau i fod yn AS ac i adael y blaid yn gyfan gwbl.
Ymddiheuriad pellach
Cafodd Mr Edwards ganiatád i ddychwelyd i'r blaid yn gynharach y mis hwn, ar ôl i bwyllgor disgyblu'r blaid dderbyn ei fod wedi "cymryd amser i adlewyrchu ac i ddysgu i ddelio â'i weithredoedd".
Ond mae rhai o fewn y blaid wedi beirniadu hynny, gyda'r cyn-arweinydd Leanne Wood yn dweud fod ymgais i ddangos fod pobl yn gallu edifarhau a newid eu hagwedd wedi arwain y blaid at "wneud camgymeriadau mawr."
Wrth siarad ddydd Llun, dywedodd Liz Saville Roberts: "Os na fydd y dioddefwr yn derbyn ac yn cadarnhau edifeirwch y cyflawnwr, bydd pob safbwynt arall yn amherthnasol.
"Rwyf felly'n croesawu penderfyniad Mr Edwards i gamu'n ôl o grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, penderfyniad y gwnes innau ei annog i'w wneud."
Pan wnaeth hi sylweddoli nad oedd neb yn y blaid wedi cysylltu â Ms Edwards ers y digwyddiad, fe ysgrifennodd ati ym mis Ebrill eleni, ond ni chafodd ateb.
"Mae'n ddrwg gennyf na wnaethom ymdrechion pellach i sicrhau bod llais Ms Edwards yn cael ei glywed yn ystod y broses," ychwanegodd.
"Hoffwn felly ymuno â'n harweinydd Adam Price i ymddiheuro i Ms Edwards. Cytunaf hefyd fod yn rhaid gwneud newidiadau sylfaenol yn awr i'n prosesau disgyblu."
Dim modd diarddel
Yn ôl Mr Edwards, mae rhai o aelodau Plaid Cymru wedi "ymosod yn ddialgar" arno.
Ni ellir ei ddiarddel o'r blaid gan nad yw rheolau mewnol Plaid Cymru yn rhoi'r pŵer i'r arweinyddiaeth wneud hyn.
Dywedodd Mr Edwards, wnaeth dderbyn rhybudd heddlu am y digwyddiad yn 2020, y byddai'n difaru'r weithred "hyd ddiwedd fy oes".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2022
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022