Adam Price yn galw ar Jonathan Edwards i ymddiswyddo 'ar unwaith'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai AS wnaeth ymosod ar ei wraig ymddiswyddo a gadael Plaid Cymru, yn ôl arweinydd y Blaid, Adam Price.
Cafodd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei wahardd o'r Blaid ar ôl yr ymosodiad ond yn ddiweddar, cafodd ganiatâd i ail-ymuno.
Ond, ddydd Sadwrn, fe ddywedodd Mr Edwards na fydd yn dychwelyd i grŵp y Blaid yn San Steffan gan gyhuddo uwch aelodau o "ymosod yn ddialgar" arno a pheidio ei ddiogelu.
Dywedodd ei wraig Emma Edwards bod penderfyniad y Blaid i adael iddo ail-ymuno yn anfon neges "nad yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys".
'Poen wedi ei achosi'
Dywedodd Adam Price y byddai'n hoffi "diolch i Emma Edwards am siarad [ddydd Gwener] ac iddi ddeall bod ei llais wedi cael ei glywed.
"Hoffwn i hefyd gynnig fy ymddiheuriad iddi hi a'r holl oroeswyr trais domestig am y boen y mae hyn wedi ei achosi."
Fe alwodd ar Jonathan Edwards i "adael y blaid" ddydd Sadwrn.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales fore Sul, dywedodd Adam Price nad oedd yn "cydymffufio â gwerthoedd y blaid" i Mr Edwards barhau fel Aelod Seneddol Plaid Cymru nag ychwaith fel aelod o'r blaid.
"Mae'n rhoi'r neges anghywir i oroeswyr trais domestig yng Nghymru.
"Dw i wedi dweud hefyd fy mod yn credu y dylai ymddiswyddo fel AS gan nad ydw i'n credu ei fod yn bosib iddo barhau yn y safle honno yn enwedig ar ôl y datganid clir a dewr gan Emma Edwards.
"Dyw hi ddim yn bosib i ni fel plaid wleidyddol i gadw unrhyw hygrededd yn nhermau'r hyn ry'n ni'n ei ddweud ac yn credu mewn cysylltiad â thrais domestig os na wnawn ni nawr weithredu."
Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Edwards bod rhai o aelodau Plaid Cymru wedi "ymosod yn ddialgar" arno.
"Trwy gydol y cyfnod hwn dw i wedi cydymffurfio â'r blaid a'u gofynion.
"Dw i erioed wedi gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus am fy mywyd personol nag am sut oedd y blaid yn delio gyda fy achos.
Dywedodd iddo deimlo "ein bod mewn amgylchedd peryglus iawn pan nad oes lle i unrhyw un yn y sffer gyhoeddus i siarad yn onest am y camgymeriadau y maen nhw'n gwneud".
Fe gyhuddodd "rhai gwleidyddion o gamddefnyddio eu pŵer" i ymosod arno'n wleidyddol.
Fe feirniadodd y Blaid am fethu a'i "ddiogelu" wrth i "fy mywyd personol a phroffesiynol dorri'n deilchion".
Ychwanegodd Mr Edwards ei fod yn "cymryd cyfrifoldeb llawn am y weithred wnaeth arwain at fy arestio a'r rhybudd heddlu ddaeth o ganlyniad. Fe wna i ddifaru hynny hyd ddiwedd fy oes."
Dywedodd ei wraig, Emma Edwards ei bod "wedi ei ffieiddio ac wedi siomi" fod Jonathan Edwards wedi ad-ennill ei chwip yr wythnos hon, ar ôl i Blaid Cymru dderbyn cyngor cyfreithiol.
Fe ychwanegodd Mr Edwards yn ei ddatganiad ei fod wedi cael "dwy flynedd o adlewyrchu dwys" a'i fod wedi bod ar gwrs ymwybyddiaeth trais domestig.
Dywedodd bod "perthnasau'n gallu bod yn gymhleth iawn".
Mae'r ddau yn y broses o ysgaru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022