Ymadwiad Adam Price 'ddim yn syndod yn sgil y sïon'

Mae'r adroddiad damniol sydd wedi arwain at ymddiswyddiad Adam Price fe arweinydd Plaid Cymru yn "dangos difrifoldeb ac ystod y problemau o fewn y blaid", yn ôl un arbenigwr.

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru dywedodd Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth fod ymadwiad Mr Price "ddim yn syndod yn y diwedd yn sgil y math o sïon oedd wedi bod".

Daeth ei ymddiswyddiad yn dilyn adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod diwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.

Llyr Gruffydd fydd arweinydd y blaid dros dro, nes y bydd arweinydd parhaol yn cael eu dewis.