Llyr Gruffydd: 'Na'i ddim cuddio rhag unrhyw heriau'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llyr Gruffydd AS: "Rhaid dysgu gwersi ac adennill hyder"

Llyr Gruffydd fydd arweinydd dros dro Plaid Cymru, wedi i Adam Price gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid.

Ond fydd Mr Gruffydd, sy'n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, ddim yn sefyll yn y ras arweinyddol i ddilyn.

Cafodd y penodiad ei gytuno mewn cyfarfod o ASau'r blaid fore Iau, a bydd angen iddo gael ei gadarnhau gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn.

Daeth ymddiswyddiad Mr Price yn dilyn adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod diwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.

Fe ymddiheurodd Mr Price a chyfaddefodd i'r adroddiad "niweidio" enw da, ymddiriedaeth a hygrededd ei blaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru

Wrth gyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo mewn datganiad nos Fercher, dywedodd Mr Price ei fod wedi bod eisiau ymddiswyddo ynghynt, ond ei fod wedi cael ei berswadio i aros er mwyn gweithio i drwsio'r problemau.

Mae disgwyl i arweinydd parhaol newydd gael ei ddewis erbyn yr haf.

'Adennill hyder'

Yn dilyn ei benodiad dros dro dywedodd Llyr Gruffydd ei fod yn "ddiolchgar i Grŵp Senedd Plaid Cymru am fy enwebu".

Wrth siarad ar Dros Ginio brynawn Iau, dywedodd y bydd gwaddol Adam Price yn "sylweddol" iawn.

"Ond mi oedd yr amgylchiadau, dw i'n credu, wedi cyrraedd pwynt lle'r oedd hi'n anodd iawn iddo fe i barhau yn y rôl," meddai Mr Gruffydd.

"Ac a bod yn deg, Adam wnaeth y penderfyniad ar ddiwedd y dydd ei fod e'n teimlo bod y sefyllfa'n anghynaladwy fel oedd hi ac y bydde hi felly'n well iddo fe ac i'r blaid y bydde fe'n symud i'r naill ochr."

Dywedodd fod angen "adennill hyder, lle mae hyder wedi cael ei golli yn fewnol" er mwyn "cychwyn ar y gwaith o adfer hyder yn allanol".

"Ma' 'na sawl darn o'r jig-so yn eu lle, fydden i'n dadlau. Dy'n ni ddim yn cuddio o faint yr her sydd o'n blaenau ni, mae hwnna yn amlwg yn rhywbeth sy'n mynd i fod yn ganolog i'n ffocws i os ga'i gyfle i gyflawni'r rôl yma."

Disgrifiad,

Dr Elin Royles: Adroddiad yn "dangos difrifoldeb ac ystod y problemau o fewn y blaid"

Dywedodd fod ei ymrwymiad i gytundeb cydweithio'r blaid gyda Llafur Cymru "cyn gryfed ag oedd un Adam a phawb arall yn y grŵp".

"Wrth geisio cychwyn ar y gwaith o gyflawni gymaint o hynny ag sy'n bosib yw creu y platfform cryfaf, mwyaf sefydlog, mwyaf cadarn posib i'r olynydd hir dymor gobeithio," meddai.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi diolch i Adam Price am gydweithio "adeiladol" fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru.

Dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd grŵp y blaid yn San Steffan, fod Mr Price wedi dod yn "wrthdyniad" (distraction) a'i bod hi'n rhy "anodd" bellach i Blaid Cymru fwrw ymlaen dan ei arweinyddiaeth.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Liz Saville-Roberts AS fod Plaid Cymru yn "blaid fach" ac angen "dwylo pawb i helpu i gyflawni newid" ar ôl i'r adroddiad damniol gael ei gyhoeddi.

"Ond yn ystod yr wythnos ar ôl hynny, fe ddaeth hi yn amlwg - fel mae hyn yn digwydd mewn gwleidyddiaeth - bod Adam bellach wedi dod yn distraction ac yn anodd felly i ni fwrw 'mlaen," meddai.

"Felly dyna sut ni wedi cyrraedd lle 'dan ni rŵan."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price gydag arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn rali YesCymru yng Nghaernarfon yn 2019

Ychwanegodd Liz Saville-Roberts ei bod yn dweud hynny "â thristwch mawr" a bod y cyfnod diweddar "wedi dweud arno".

"Rwy yn falch o lawer iawn o'r pethau mae Adam wedi cyflawni a'r gost bersonol iddo fe, mae'n ddyn teulu ac mae hyn wedi dweud arno fo."

Dywedodd yr AS fod yr hyn gyflawnodd Adam Price o ran trafodaeth am annibyniaeth yng Nghymru yn "newid mawr mewn cyfnod bach".

"Ond mae yn amlwg erbyn rŵan bod yn rhaid i ni symud ymlaen," ychwanegodd.

'Siom ond doeth'

Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru yng Ngogledd a De Tref Caerfyrddin, Alun Lenny, fod Adam Price wedi gwneud "penderfyniad doeth".

"Ni yn y gorllewin oedd wedi argymell rhoi enw Adam 'mlaen fel arweinydd, felly ni yn siomedig wrth reswm," dywedodd ar Dros Frecwast.

Disgrifiad,

Alun Lenny: "Yn anffodus mae carfan sydd ddim wedi bod y fwya' cefnogol i Adam Price ers tro byd"

"Dydw i ddim yn gyfarwydd gyda'r trafodaethau fuodd tu fewn i'r blaid dros y dyddiau diwethaf 'ma, ond mae'n siŵr fod pwysau ofnadwy ar Adam a falle er ei les e ei hunan cymaint â dim byd arall, falle bod e wedi cymryd y penderfyniad doeth."

Fe gyfeiriodd hefyd at Jonathan Edwards AS sy'n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan - gafodd ei wahardd o'r blaid ym Mai 2020.

"Dyw pethe ddim wedi bod yn hawdd i Adam ers tro byd, dim ers digwyddiad Jonathan Edwards a dweud y gwir," meddai Mr Lenny.

Beth a phwy nesaf?

Dadansoddiad gohebydd seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr

Gydag Adam Price yn camu o'r neilltu yn syth, y cam cyntaf i'r blaid oedd penodi arweinydd dros dro.

Mi fydd y broses wedyn i ganfod arweinydd parhaol yn dechrau, er mwyn cymryd yr awenau yn yr haf. Ond pwy yw'r cwestiwn mawr?

Mae 'na benderfyniad anodd yn wynebu Rhun ap Iorwerth. Fo yw'r olynydd amlwg, ond mae ei olygon ar San Steffan, a dyw Aelod Seneddol ddim yn cael arwain y blaid.

Mae 'na nifer yn ffafrio Delyth Jewell, aelod Dwyrain De Cymru, ac mae 'na sôn y gallai Mabon ap Gwynfor roi ei enw yn yr het hefyd. Ond ydi'r her wedi dod yn rhy fuan iddyn nhw?

Mae 'na ddewis digon anodd yn wynebu aelodau'r blaid dros yr wythnosau nesaf, a her enfawr yn wynebu'r arweinydd newydd hefyd.

Ni wnaeth Liz Saville-Roberts awgrymu unrhyw enwau posib i olynu Mr Price wrth siarad fore Iau.

Ond fe gyfaddefodd fod her yn wynebu'r arweinydd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe gafodd 82 o argymhellion eu cyflwyno yn yr adroddiad gan gyn-aelod y blaid, Nerys Evans.

"Fedr o ddim bod yn gyfrifoldeb i un person yn unig," meddai Liz Saville-Roberts.

"Mae'n gorfod bod yn waith ar y cyd, mae'n gyfrifoldeb ar y cyd i ni ar draws y blaid ar bob lefel, o ran dewis arweinydd nesaf.

"Yn amlwg mae'n bwysig i aelodaeth y blaid gael cyd-drafod i ba gyfeiriad 'dan ni yn mynd yn y dyfodol."

'Angen adeiladu'r blaid oddi mewn'

Dywedodd Cynog Davies, cyn-AS a chyn Aelod Cynulliad y blaid fod angen i'r arweinydd newydd allu denu aelodau newydd er mwyn trafod syniadau a dyfodol Cymru.

"Y peth sydd yn eithriadol o bwysig nawr yw bod talent aruthrol Adam yn cael ei harneisio o'r newydd at wasanaeth y blaid ac at wasanaeth Cymru," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'n berson o dalent prin iawn, iawn - dim yn aml y'ch chi'n cael y cyfuniad o dalentau sydd gyda chi yn Adam Price."

Dywedodd ei bod yn bwysig i'r blaid, dan arweinyddiaeth newydd, barhau â'r cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru.

"Ar gyfer dyfodol y blaid mae'n rhaid cael arweinydd newydd wrth gwrs - mae'n rhaid i'r person yna fod yn berson gallwch chi ddibynnu arno, mae'n rhaid bod rhuddin cymeriad yn perthyn i'r person yna, ac wrth gwrs y gallu i drosglwyddo neges.

"Ond yn fy marn i beth sydd wedi bod yn eisiau yw proses o adeiladu'r blaid oddi mewn, y broses o ddenu aelodau newydd a gwneud aelodaeth o Blaid Cymru yn beth diddorol, yn beth democrataidd, yn golygu trafod syniadau a dyfodol Cymru mewn ffordd ddeallus."

'Cydweithio adeiladol'

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi diolch i Adam Price am gydweithio "adeiladol" rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru fel rhan o'u cytundeb.

"Mae'r blaenoriaethau hyn sy'n cael eu rhannu yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl ar draws Cymru," meddai.

"Mae'r Cytundeb Cydweithio yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru - nid rhwng unigolion.

"Fe fydd trafodaethau ynghylch y cytundeb o ganlyniad i ddatblygiadau diweddar."