'Cyffrous' derbyn arian i ailagor y Crymych Arms

Mae tri thafarn cymunedol ar draws Cymru wedi cael gwybod y byddan nhw'n rhannu bron i £700,000 fel rhan o gynllun ffyniant bro.

Bydd prosiectau yng Nghymru yn derbyn cyfanswm o £1.44m fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU, sydd â'r nod o helpu grwpiau cymunedol i "gymryd perchnogaeth o sefydliadau lleol".

Yn Sir Benfro bydd y Cross Inn yng Nhgas-lai yn derbyn £244,250, tra bydd Tafarn Crymych Arms yn derbyn £210,000.

Mae'r cynllun yng Nghrymych yn cael ei gydlynu gan y clwb pêl-droed lleol, a gobaith y Cynghorydd Cris Tomos, sydd hefyd ynghlwm â'r fenter, yw y gall ailagor mor gynnar â'r haf hwn.

Ychwanegodd ar Dros Frecwast BBC Radio Cymru y bydd y safle yn ganolfan ar gyfer y clwb pêl-droed, ac mai'r gobaith yw denu rhagor o ddigwyddiadau yno.

"Beth sy'n grêt gyda chwmni cydweithredol fel hyn yw mai pobl leol sydd yng ngofal y peth, pobl leol sy'n penderfynu be' sy'n digwydd," meddai.