£700,000 i droi tri thafarn yng Nghymru'n rai cymunedol
- Cyhoeddwyd
![Cross Inn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11F71/production/_129258537_p0fdnk2d.jpg)
Mae pwyllgor cymunedol wedi derbyn £244,250 er mwyn eu helpu i gadw'r Cross Inn yn Sir Benfro ar agor
Mae mentrau sy'n gobeithio troi tri thafarn yng Nghymru yn rai cymunedol wedi cael gwybod y byddan nhw'n rhannu bron i £700,000 fel rhan o gynllun ffyniant bro.
Bydd prosiectau yng Nghymru yn derbyn cyfanswm o £1.44m fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU, sydd â'r nod o helpu grwpiau cymunedol i "gymryd perchnogaeth o sefydliadau lleol".
Yn Sir Benfro bydd y Cross Inn yng Nhgas-lai yn derbyn £244,250, tra bydd Tafarn Crymych Arms yn derbyn £210,000.
Bydd gwesty'r Radnor Arms ym Maesyfed, Powys yn derbyn £240,000 er mwyn "adnewyddu'r adeilad yn dafarn gymunedol."
Nod grwpiau lleol yw prynu'r tafarndai, sydd un ai wedi cau neu'n wynebu cau, a'u hatgyweirio a'u hailagor fel tafarndai cymunedol.
Gobaith y Cynghorydd Cris Tomos yw y gall y Crymych Arms ailagor mor gynnar â'r haf hwn
Mae'r cynllun yng Nghrymych yn cael ei gydlynu gan y clwb pêl-droed lleol, a gobaith y Cynghorydd Cris Tomos, sydd hefyd ynghlwm â'r fenter, yw y gall ailagor mor gynnar â'r haf hwn.
"O'dd hi'n dipyn o sioc i godi bore 'ma a chael yr e-bost bod cadarnhad o £210,000," meddai ar Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Mae'n golygu dipyn oherwydd o'dd rhaid i ni godi arian cyfatebol - matched funding - o £50% yn erbyn hwn, felly mae'n dda i weld bod pobl leol wedi bwrw ati, casglu'r arian, talu am gyfranddaliadau yn y fenter.
"Nawr y'n ni'n cael yr arian cyfatebol, felly mae'n golygu bo' ni'n medru bwrw 'mlaen i brynu'r dafarn, sydd wedi bod ar gau ers blwyddyn a hanner, a byddwn ni nawr yn edrych i benodi rheolwr.
"Beth sy'n grêt gyda chwmni cydweithredol fel hyn yw mai pobl leol sydd yng ngofal y peth, pobl leol sy'n penderfynu be' sy'n digwydd."
![Crymych Arms](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13A5A/production/_130247408_microsoftteams-image-9.png)
Y gobaith yw defnyddio'r Crymych Arms ar gyfer y clwb pêl-droed ac fel hwb cymunedol
Ychwanegodd y bydd y safle yn ganolfan ar gyfer y clwb pêl-droed, ac mai'r gobaith yw denu rhagor o ddigwyddiadau yno.
"Ni moyn agor e fel tafarn gymunedol y pentref, a hefyd bod e fel hwb i bobl ddod i gynnal digwyddiadau, gwersi Cymraeg, pethau'n ymwneud â datblygu chwaraeon, a lles meddwl.
"Felly mae'n gyffrous, a gobeithio allwn ni gael y lle wedi agor erbyn canol yr haf ar gyfer y tymor pêl-droed y flwyddyn nesaf.
"Ma' rywfaint o waith adnewyddu. Ni'n torri trwyddo ambell i wal, ond [y gobaith yw] ailagor erbyn diwedd mis Awst fel ein bod ni'n gallu masnachu."
Prosiectau eraill
Tri phrosiect arall yng Nghymru fydd hefyd yn derbyn cyllid yw:
Neuadd Les Pendyrus yn Rhondda Cynon Taf, lle gwnaed cyhoeddiad carfan Cwpan y Byd Cymru y llynedd - £200,000
Hwb Cymunedol Tabernacl Treforys yn Abertawe - £250,000
The Fern Partnership er mwyn datblygu cyfleuster i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf - £300,000
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023