'Peidio digalonni' am y Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth

Nos Fercher cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin, er mwyn trafod sut i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg ym mhentrefi Cwm Gwendraeth.

Er bod yr iaith yn gryf yn yr ardal, gyda 60% yn ei siarad yn ôl Cyfrifiad 2021, mae hynny 8% yn is nag yn 2011.

Bu'r cynghorydd cymuned a'r prifardd Aneirin Karadog yn trafod y mater ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Ma' 60% dal yn ffigwr go gryf ond efallai ar y dibyn," meddai.

"Felly mae'n fater o beidio digalonni, a thrio bod yn weithredol ac yn gadarnhaol am beth allwn ni 'neud i gael y bobl sydd yn medru'r iaith i fod ishe parhau i'w defnyddio hi.

"Gydag Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar, mae 'na fwrlwm o Gymreictod wedi bod.

"Ond ry'n ni yn ffindio unwaith mae'r plant yn gadael [ysgolion] Pontyberem a Bancffosfelen i fynd i ysgol Maes y Gwendraeth, yn anffodus mae 'na don o Seisnigrwydd yn rhan o fywyd yr ysgol uwchradd yna.

"Dwi'n meddwl bod hynny wedi dod i'r amlwg neithiwr, gyda rhai rhieni yn mynegi hynny er gwaethaf ymdrechion cymaint o staff gweithgar yn yr ysgol uwchradd honno."

Mae'r gymuned yn ceisio mynd i'r afael â'r mater trwy glybiau a mudiadau cymdeithasol, gydag Aneirin ei hun yn hyfforddi tîm pêl-droed leol.

"Wrth ymwneud a chlwb pêl-droed Bancffosfelen, yn hyfforddi'r tîm merched dan 12, ni'n arwain popeth yn Gymraeg," meddai.

"Ni'n neud pethau yn ddwyieithog hefyd, ond os y'n ni'n arwain gweithgaredd yn y Gymraeg, mae'r ymateb yn dod yn Gymraeg ac yn naturiol heb feddwl."