Ble mae 'cadarnleoedd' yr iaith ym mhob sir yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

'Seiont 1' yn ne Caernarfon sydd â'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad - tra bod Llanrug gerllaw yn dal i allu hawlio teitl y 'pentref mwyaf Cymraeg'

Ddechrau Rhagfyr cafodd y ffigyrau diweddaraf am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru eu cyhoeddi, gan ddangos cwymp cenedlaethol o 19% i 17.8%.

Ond fel 'dyn ni'n gwybod, mae'r canlyniadau'n amrywio'n sylweddol fesul sir, gyda 64.4% o bobl yng Ngwynedd yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu â dim ond 6.2% ym Mlaenau Gwent.

Ac mae 'na amrywiaeth o fewn y siroedd hynny hefyd. Felly, lle mae 'cadarnleoedd' yr iaith ym mhob ardal bellach?

Yn rhan gyntaf ymchwiliad pellach i rai o ystadegau Cyfrifiad 2021, mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar ba ardaloedd ym mhob awdurdod lleol sydd â'r ganran uchaf o siaradwyr.

Gostyngiad mewn 'cadarnleoedd'

Fel yr ardaloedd fwyaf 'Cymraeg' yn eu siroedd, mae'r rhestr isod yn dangos y llefydd yng ngwahanol rannau'r wlad ble mae'r iaith ar ei chryfaf o fewn y gymuned.

Ond un peth i'w nodi yn yr ystadegau yw bod y cwymp cyffredinol ar draws Cymru hefyd yn cael ei adlewyrchu hyd yn oed yn y 'cadarnleoedd lleol' hyn.

O'r 110 ardal sy'n cael eu rhestru isod (pump fesul sir), fe welodd 72 ohonynt gwymp yng nghanran y siaradwyr, gyda 38, neu tua thraean, yn gweld cynnydd.

Nid yn unig hynny, ond fe welodd dros hanner yr ardaloedd hynny gwymp yng nghanran eu siaradwyr oedd yn fwy na chyfartaledd eu sir, gan awgrymu bod y dirywiad yn digwydd yn gynt na'r disgwyl yno.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Chwith: Map yn dangos canrannau siaradwyr Cymraeg (lliw tywyllach = % uwch); Dde: Map yn dangos ardaloedd ble mae dros 50% o bobl yn ei siarad

Gwelir o'r data bod yna rai trefi a phentrefi sydd ymhlith y llefydd 'Cymreiciaf' yn eu hardal o hyd, ond wedi gweld gostyngiad sylweddol yng nghanran y siaradwyr.

Maen nhw'n cynnwys llefydd fel Llangefni a Rhosllanerchrugog yn y gogledd, Tregaron a Llandysul yn y canolbarth, ac Ystalyfera, Brynaman, Pontarddulais, Pontyberem a Gwaun-Cae-Gurwen yn y de-orllewin.

Mae'r 'cadarnleoedd lleol' sydd wedi llwyddo i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yno yn tueddu i fod o gwmpas Caerdydd, un ai yn y brifddinas ei hun (Treganna a'r Eglwys Newydd) neu mewn llefydd cyfagos fel Penarth, Pontyclun ac Efail Isaf.

Ar y cyfan, mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn dal yn tueddu i fod yn rhannau mwy gogleddol a gorllewinol y wlad, gyda'r 50 uchaf i gyd yng Ngwynedd a Môn.

Ond mae 'na saith sir arall hefyd yn cael eu cynrychioli yn y 10% o ardaloedd sydd â'r canran uchaf (sef o leia 45.4%) - Sir Conwy, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Castell-nedd Port Talbot a Phowys.

Ardal fwyaf Cymraeg bob sir

Dyma'r pump ardal fach LSOA (poblogaeth o rhwng 1,000 a 2,500) gyda'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg, fesul sir yng Nghymru.

Mae'r data yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg ar gyfer pob ardal a enwyd, yn ogystal â'r newid mewn pwynt canran ers Cyfrifiad 2011.

Ynys Môn - 55.8% (-1.4)

  • Llangefni (Cyngar) - 78.6% (-2.2)

  • Gaerwen - 75.2% (-0.6)

  • Llangefni (Tudur) - 74.8% (-5.9)

  • Llanfairpwll (Braint) - 72.8% (-0.4)

  • Llangefni (Cefni) - 72.6% (-7.9)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llangefni ydy'r dref fwyaf Cymraeg ar Ynys Môn o hyd, ond mae niferoedd y siaradwyr wedi gostwng ychydig

Gwynedd - 64.4% (-1)

  • Caernarfon (Seiont 1) - 86.3% (-3.7)

  • Llanrug - 86% (-1.8)

  • Bethel - 85.9% (-1.4)

  • Caernarfon (Peblig) - 84.6% (-2.8)

  • Penygroes - 83% (-3.8)

Conwy - 25.9% (-1.5)

  • Uwchaled - 64.3% (-6.5)

  • Llangernyw - 61.9% (-3.9)

  • Uwch Conwy - 61.8% (+1.1)

  • Llanrwst - 60.7% (-2.8)

  • Llansannan - 59.5% (-3.5)

Sir Ddinbych - 22.5% (-2.1)

  • Llandrillo - 55% (-4.2)

  • Rhuthun (2) - 49.8% (+0.4)

  • Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch - 47.3% (-2.7)

  • Efenechtyd - 47% (-6.7)

  • Dinbych (Isaf 1) - 44.5% (-0.9)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu cynnydd bychan yn ardal canol Rhuthun, ble mae bron i hanner bellach yn medru siarad Cymraeg

Sir y Fflint - 11.6% (-1.6)

  • Yr Wyddgrug (De 2) - 28.1% (-4.4)

  • Yr Wyddgrug (De 1) - 24.2% (-4.4)

  • Treuddyn - 20.7% (-3.7)

  • Trelawnyd a Gwaenysgor - 19.6% (-6.6)

  • Licswm - 18.6% (-2.6)

Wrecsam - 12.2% (-0.7)

  • Dyffryn Ceiriog - 29.9% (-1.3)

  • Rhosllanerchrugog (Ponciau 3) - 25.7% (-4.9)

  • Rhosllanerchrugog (Ponciau 1) - 22.1% (-5.3)

  • Rhosllanerchrugog (Pant) - 21.7% (-4.9)

  • Rhosllanerchrugog (Ponciau 2) - 20.6% (-5.9)

Powys - 16.4% (-2.2)

  • Glantwymyn - 55.5% (-2.3)

  • Machynlleth - 47.4% (-4.2)

  • Llanbrynmair & Banwy - 44.8% (-7.5)

  • Llanrhaeadr-ym-Mochnant - 40.4% (-1.7)

  • Cwm-twrch - 37.2% (-9)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Machynlleth a'r ardaloedd cyfagos yw'r rhai sydd â'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg ym Mhowys

Ceredigion - 45.3% (-2)

  • Aberaeron - 59% (-0.9)

  • Tregaron - 58.7% (-8.2)

  • Ystwyth - 57.2% (-1.1)

  • Llandysul - 56.9% (-6.6)

  • Penparc - 55.5% (-4.9)

Sir Benfro - 17.2% (-2)

  • Crymych (1) - 58.6% (-3.9)

  • Crymych (2) - 56.3% (-2)

  • Clydau - 50.4% (-5.5)

  • Dinas Cross - 46.9% (-2.8)

  • Cilgerran - 46.6% (-5.1)

Sir Gaerfyrddin - 39.9% (-4)

  • Brynaman - 62.2% (-9.6)

  • Pontyberem (1) - 61.4% (-4.4)

  • Drefach (Gorslas 1) - 61.1% (-6.1)

  • Y Tymbl - 60.5% (-8.1)

  • Pontyberem (2) - 60% (-8.8)

Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Dregaron eleni - a hynny yn dilyn degawd ble hi wedi colli ei lle fel tref fwyaf Cymraeg Ceredigion

Abertawe - 11.2% (-0.2)

  • Mawr - 31% (-7.3)

  • Pontarddulais (1) - 28.2% (-7)

  • Pontarddulais (3) - 26.8% (-6.1)

  • Pontarddulais (2) - 26.5% (-6.1)

  • Clydach (2) - 24.5% (-2)

Castell-nedd Port Talbot - 13.5% (-1.8)

  • Cwmllynfell - 53.6% (-5.2)

  • Gwaun-Cae-Gurwen (1) - 51.9% (-8.1)

  • Brynaman Isaf - 51.1% (-9.7)

  • Gwaun-Cae-Gurwen (2) - 41.9% (-8.8)

  • Ystalyfera (2) - 38.3% (-9)

Pen-y-bont ar Ogwr - 9.2% (-0.5)

  • Gorllewin Maesteg (1) - 14% (-2)

  • Gorllewin Maesteg (2) - 13.9% (+1.5)

  • Pontycymer (1) - 13.5% (+1.9)

  • Llangynwyd (1) - 14.8% (-1)

  • Coity - 14.7% (+7.2)

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cwmllynfell, ar y ffin gyda Sir Gâr, yn bentref yng Nghastell-nedd Port Talbot ble mae dros 50% yn siarad Cymraeg

Bro Morgannwg - 11.5% (+0.7)

  • Y Bont-faen (2) - 15.7% (+2.3)

  • Y Barri (Baruc 4) - 15.6% (+1)

  • Y Rhws (2) - 14.9% (+4.1)

  • Y Barri (Baruc 1) - 14.9% (+1.1)

  • Penarth (3) - 14.6% (+2.2)

Rhondda Cynon Taf - 12.4% (+0.1)

  • Meisgyn (Pontyclun 2) - 26.9% (+6.9)

  • Pentre'r Eglwys (3) - 26% (+3.2)

  • Efail Isaf - 25.2% (+4)

  • Pentre'r Eglwys (2) - 21.4% (+0.1)

  • Ynysybwl (3) - 21.3% (+1.6)

Merthyr Tudful - 8.9% (+0)

  • Treharris (1) - 14% (+0.2)

  • Merthyr (Twynyrodyn) - 13.1% (+2.8)

  • Aberfan - 12.2% (+1.7*)

  • Ynysowen - 12% (+3.4)

  • Cyfarthfa (1) - 11.6% (-2)

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Meisgyn, pentref ger Pontyclun a'r M4, yw'r lle mwyaf 'Cymraeg' yn Rhondda Cynon Taf gyda dros chwarter y trigolion yn medru'r iaith

Caerffili - 10.5% (-0.7)

  • Abertridwr (1) - 18.1% (+2.7)

  • Caerffili (Morgan Jones 4) - 17.1% (+2.3)

  • Ystrad Mynach (3) - 16.7% (+2)

  • Ystrad Mynach (1) - 16.1% (+3)

  • Caerffili (Morgan Jones 3) - 15.9% (+1.4)

Blaenau Gwent - 6.2% (-1.6)

  • Y Blaenau (3) - 8.96% (-1.3)

  • Tredegar (Sirhowy 1) - 8.57% (-1.3)

  • Tredegar (Sirhowy 4) - 8.26% (+0.4)

  • Brynmawr (1) - 7.92% (-1)

  • Glyn Ebwy (Beaufort 3) - 7.58% (-0.3)

Torfaen - 8.2% (-1.6)

  • Varteg (Abersychan 1) - 14.5% (+2.6)

  • Blaenafon (1) - 11.1% (-1)

  • Garndiffaith (Abersychan 2) - 10.6% (-2.6)

  • Abersychan (3) - 10.6% (+0.2)

  • Pont-y-pŵl (Panteg 4) - 10.5% (+1.2)

Ffynhonnell y llun, John Lord
Disgrifiad o’r llun,

Ardal Parc Fictoria, Caerdydd welodd y cynnydd uchaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg drwy Gymru - bellach mae dros draean o'i thrigolion yn siarad yr iaith

Sir Fynwy - 8.7% (-1.2)

  • Magwyr (The Elms) - 11.4% (-2.8)

  • Cil-y-coed (1) - 11.1% (-1.5)

  • Gofilon - 10.5% (+2.2)

  • Goetre Fawr (1) - 10.5% (-1.4)

  • Gwndy a Magwyr (1) - 10.4% (-1)

Casnewydd - 7.5% (-1.8)

  • St Julian's (5) - 11.3% (+0.8)

  • Parc Tredegar (2) - 10.8% (+1.1)

  • St Julians's (6) - 10.3% (-0.7)

  • Allt-yr-yn (4) - 10.3% (+0.9)

  • Dyffryn - 10.2% (+1)

Caerdydd - 12.2% (+1.1)

  • Parc Fictoria (Treganna 6) - 34.7% (+9.2)

  • Yr Eglwys Newydd (1) - 30.5% (+4.5)

  • Parc Thompson (Treganna 7) - 28.1% (+5.9)

  • Treganna (5) - 27.3% (+8.2)

  • Treganna (8) - 27.1% (+8.9)

*amcangyfrifiad oherwydd newid i ffiniau

Pynciau cysylltiedig