Neges i bobl ifanc Sir Gâr: 'Dewch 'nôl fan hyn i fyw'
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi annog pobl ifanc i ddod "yn ôl fan hyn i fyw", a hynny wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r ardal yr wythnos hon.
Yn ôl y Cyfrifiad diweddar, bu gostyngiad o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal dros y degawd diwethaf, sef y cwymp mwyaf o holl siroedd Cymru.
Ar faes yr ŵyl ieuenctid yr wythnos hon bydd Cyngor Sir Gâr yn lansio eu strategaeth i hyrwyddo'r iaith, ac mae denu pobl ifanc yn ôl i'r ardal yn rhan o'r strategaeth honno.
Yn ôl ymgynghorydd y Gymraeg, Meirion Prys Jones, pobl ifanc yn symud i ffwrdd i fyw mewn ardaloedd dinesig yw'r her fwyaf sy'n wynebu'r ardal.
Dylid cynnig profiadau "cosmopolitan" yn y sir er mwyn denu pobl ifanc yn ôl i'r ardal, meddai.
"Y broblem fwyaf siŵr o fod yw mewnfudo ac allfudo," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ry'n ni'n gweld pobl yn symud i mewn a phobl ifanc yn bennaf yn symud allan i Gaerdydd ac ymhellach.
"Ond mae trio meddwl am sut mae cynnig profiadau mwy dinesig i bobl ifanc, yn arbennig mewn ardaloedd fel Caerfyrddin a Llandeilo, yn sialens.
"Ac mae angen meddwl am gynnig yr holl elfennau cosmopolitan yna sy'n gwneud dinasoedd yn atyniadol. Pethau fel siopau coffi a bariau gwin."
Mae 39.9% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin bellach yn siarad Cymraeg, yn ôl y Cyfrifiad.
Yn ardal ganolig gogledd ddwyrain y sir sy'n cynnwys Llanymddyfri, cartref Eisteddfod yr Urdd eleni, y canran yw 40.2%.
'Dewch yn ôl fan hyn'
Mae gan y cynghorydd Glynog Davies, sy'n gyfrifol am addysg a'r Gymraeg ar Gyngor Sir Gâr, neges syml i bobl ifanc sydd wedi mudo o'r ardal.
"Dewch yn ôl fan hyn i fyw," meddai. "Mae 'na waith i chi yn Sir Gaerfyrddin.
"Wy'n barod i dderbyn allwn ni ddim cystadlu â'r dinasoedd mawr, ond mae 'na bethau gwerthfawr eraill gyda ni yn Sir Gâr - golygfeydd godidog, y môr, mynyddoedd, cymunedau hyfryd.
"Os ydych chi am setlo lawr yn iawn, beth am fwrw gwreiddiau yn y sir ardderchog sydd gyda ni fan hyn."
I Myfanwy Grug Lewis, sy'n 18 oed ac yn byw yng Nghwm Gwendraeth, mae'r bywyd cymdeithasol sydd gan Gaerdydd i'w gynnig yn un rheswm pam mae hi wedi penderfynu mynd yno i astudio ym mis Medi.
Ond mae'r syniad o symud yn ôl i Sir Gâr rhyw ddiwrnod yn apelio ati.
"Fi wastad wedi meddwl am symud nôl i Sir Gâr fel rhywbeth bydda i'n neud pan fi'n hŷn," meddai.
"Falle yn fy ugeiniau, byddwn i'n licio treulio fy amser mewn lle mwy trefol-dinesig.
"Ond os bydda i yn dychwelyd rhyw ddiwrnod, fydda i ddim yn neud hynna tan fi wedi setlo mwy mewn bywyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2019