Cyfrifiad: 11 patrwm difyr yn y data am y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
nain a taid efo plentynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Nain a Taid Caerdydd' - ydy hwn yn un ffenomenon sy'n cael ei ddangos yn ffigyrau'r Cyfrifiad diweddaraf?

Eleni fe gafodd ffigyrau Cyfrifiad 2021 eu cyhoeddi, gan ddangos cwymp cyffredinol ar draws Cymru pan oedd hi'n dod at ganran y siaradwyr Cymraeg.

Ond tu hwnt i'r penawdau mae yna rywfaint o amrywiaeth o fewn y data, gan gynnwys cynnydd yn y nifer oedd yn medru'r iaith mewn pedair o'r 22 sir.

Roedd y ffigyrau hefyd yn awgrymu bod y cwymp yn bennaf oherwydd gostyngiad mawr yn nifer y plant sy'n siarad Cymraeg - gyda chynnydd bychan ymhlith oedolion rhwng 20 a 50 oed (a gostyngiad ymhlith pobl dros 50).

Ond beth am rai o'r manylion ychwanegol y gallech chi fod wedi eu methu am eich ardal chi?

Yn ail ran ymchwiliad arbennig BBC Cymru Fyw i ffigyrau Cyfrifiad 2021, byddwn ni'n edrych ar ambell ardal ble mae 'na batrymau nodweddiadol.

Patrwm cyffredinol

Cyn bwrw golwg ar rai o'r manylion mwy lleol, mae'n werth atgoffa'n hunain o'r sefyllfa genedlaethol.

Dyma oedd y newid ym mhatrwm yr iaith ar draws Cymru - ble mae modd gweld mai'r cwymp sylweddol ymhlith plant oedd y prif reswm am y gostyngiad cyffredinol.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Canran y siaradwyr Cymraeg fesul oedran - gan ddangos gostyngiad yng nghanran y plant ers 2011

Mae'r map isod ar y chwith hefyd yn dangos fod y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru wedi gweld cwymp yng nghanran y siaradwyr, a bod llawer o'r cynnydd i'w weld yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a'r Cymoedd.

Ond dyw'r patrymau hyn ddim yn wir ar gyfer pob rhan o'r wlad - dyma 11 peth diddorol sydd i'w gweld yn y data.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Mapiau'n dangos newid yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021 (glas = dirywiad, melyn = cynnydd), ac ardaloedd yng Nghymru ble mae dros 50% dal yn siarad yr iaith

Cynnydd yn un o bob tair ardal

Er y cwymp cyffredinol ar draws y wlad, fe welodd 33.8% o ardaloedd bach (LSOA) Cymru gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ers y Cyfrifiad diwethaf.

Ond o'r 1,895 o ardaloedd bach ble mae modd cymharu gyda 2011, dim ond 18 ohonynt (llai na 1%) welodd gynnydd nodedig o dros 5%.

Ar y llaw arall fe wnaeth 111 o ardaloedd bach, a hynny ar draws 16 o siroedd, weld cwymp o dros 5%.

Colli cadarnleoedd y gorllewin

Yn 2011 roedd 40% o ardaloedd Sir Gaerfyrddin (44 allan o 110) yn rhai ble roedd dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Bellach mae llai nag un o bob pedwar (27/110) yn rhai ble mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal Llanddewi Brefi yn un o'r rheiny yng Ngheredigion ble mae canran y siaradwyr Cymraeg bellach wedi disgyn o dan 50%

Dyw'r dirywiad ddim wedi bod mor amlwg yng nghadarnleoedd Ceredigion, ble roedd dros hanner (24/44) o ardaloedd y sir gyda mwyafrif yn siarad Cymraeg yn 2011.

Ond mae hynny dal wedi disgyn i 18 allan o 44, sy'n golygu bod llai na hanner y sir bellach yn ardaloedd 'mwyafrif Cymraeg'.

Yr un hen stori ym Môn

Ar un olwg does dim llawer wedi newid pan mae'n dod at yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn, ac mae'n dilyn y patrwm cyffredinol.

Ond o edrych yn fanylach, mae'r cwymp ymhlith pobl 65+ yn llawer uwch na'r disgwyl.

Oni bai bod siaradwyr Cymraeg rywsut wedi marw ar gyfradd uwch, maen nhw un ai wedi symud (Nain a Taid Caerdydd?) neu mae mwy o bobl ddi-Gymraeg hŷn wedi symud i'r ardal ers 2011, gan ostwng y canran.

Ffynhonnell y llun, statiaith.com

Abersoch ar flaen y gad

Bydd hyn yn dod fel rhywfaint o syndod i lawer, yn enwedig o ystyried bod y lle yn aml yn cael ei bortreadu fel yr esiampl amlycaf o ddirywiad yr iaith ym Mhen Llŷn.

Ond yr unig ardal yng Nghymru ble wnaeth canran y siaradwyr Cymraeg gynyddu i dros 50% oedd Llanbedrog ac Abersoch yng Ngwynedd.

Dim ond dwy ardal fwyafrifol arall yng Nghymru (rhywle â dros 50% yn siarad yr iaith) welodd gynnydd o dros 2% - Bangor (Penrhosgarnedd) a'r Felinheli.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gynyddodd canran y Gymraeg yn ardal Abersoch ers 2011, a hynny er i'r ysgol gynradd yno gau'n ddiweddar

Magu teulu yng Ngheredigion?

Ceredigion yw un o ddwy sir yn unig ble mae canran yr oedolion sy'n siarad Cymraeg ar ei uchaf rhwng 30-39 oed (Gwynedd yw'r llall).

Mae'n bosib bod hyn oherwydd bod niferoedd y rheiny yn eu 20au yn is na'r disgwyl, gan fod prifysgolion yn y siroedd gwledig hynny.

Ond gallai hefyd awgrymu bod pobl o'r oed yma, efallai gyda theuluoedd ifanc, yn fwy tebygol o aros neu symud (yn ôl) i'r ardal nag oedden nhw o'r blaen.

Yn 2011 roedd canran siaradwyr Cymraeg y sir ar ei uchaf ymhlith y rheiny dros 80+, ond bellach mae proffil fwy 'ifanc' i'w siaradwyr hi, allai argoeli'n addawol at y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, statiaith.com

O bydded i'r hen iaith barhau?

Yn Sir Gaerfyrddin mae'r demograffeg yn awgrymu bod yr iaith Gymraeg dan y perygl mwyaf.

Hon yw'r unig sir oni bai am Abertawe ble mae'r iaith ar ei chryfaf ymhlith y rheiny dros 75 oed.

Dyw'r cynnydd ymhlith oedrannau ifanc sydd i'w weld mewn siroedd eraill ddim i'w weld fan hyn chwaith, gyda'r niferoedd yn fwy sefydlog.

Felly mae'r patrymau demograffeg eisoes yn awgrymu nad oes disgwyl y bydd cynnydd erbyn 2031, oni bai bod nifer siaradwyr Cymraeg ifanc y sir yn cynyddu'n sylweddol.

Ffynhonnell y llun, statiaith.com

Cynnydd ymhlith plant Abertawe

Er bod cwymp ar draws Cymru o ran plant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg, Abertawe oedd yr unig sir yng Nghymru ble gwelwyd cynnydd.

Yn 2011, canran y rheiny rhwng 3-19 oed oedd yn medru siarad Cymraeg oedd 21.3% - bellach mae wedi cynyddu i 22.1%.

Dangosodd adroddiad diweddar fod galw am addysg Gymraeg yn Abertawe ar gynnydd - felly ai adlewyrchiad o'r twf diweddar yna yw hynny?

Ffynhonnell y llun, statiaith.com

Nain a Taid yng Nghaerdydd?

Caerdydd oedd y sir a welodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, ac o edrych ar y graff mae'n amlwg bod twf yn nifer y bobl rhwng 35-55 oed yn rhan fawr o hynny.

Ond mae 'na hefyd gynnydd gweledol ymhlith y rheiny rhwng 65-80 oed, sydd ddim mor amlwg yng ngweddill Cymru.

A yw hyn yn dystiolaeth bod mwy o Gymry Cymraeg hŷn wedi symud i'r brifddinas yn y degawd diwethaf - o bosib neiniau a theidiau i blant, wyrion ac wyresau sydd eisoes yno?

Ffynhonnell y llun, statiaith.com

Iaith ar waith yn Rhondda Cynon Taf

Mae cynnydd amlwg wedi bod yng nghanran y bobl rhwng 30 a 60 oed sy'n medru siarad Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'n gynyddol amlwg ei bod hi'n iaith i'r ifanc yn y sir.

Mae pobl dan 45 yn llawer mwy tebygol o'i siarad, a'r rheiny yn eu 20au dros deirgwaith yn fwy tebygol o fedru Cymraeg na'r rheiny dros 60.

Ai gweithwyr proffesiynol sydd â swyddi yng Nghaerdydd sy'n gyfrifol am y twf?

O bosib - mae'r ardaloedd Cymreiciaf i gyd yn ne'r sir, o fewn cyrraedd y brifddinas - ond mae pocedi o ardaloedd fwy Cymraeg yn uwch i fyny'r Cymoedd hefyd, fel yn Ynysybwl.

Ffynhonnell y llun, statiaith.com

Glanaman yn gweld cwymp

Mae'r 20 ardal a welodd y cwymp mwyaf i gyd yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Powys a Cheredigion.

Roedd y cwymp mwyaf yng Nglanaman (-11.8%), a threfi a phentrefi eraill ar hyd Dyffryn Aman, Cwm Tawe a Chwm Gwendraeth - Ystalyfera, Ystradgynlais, Cwm-twrch, Brynaman, Gwaun-Cae-Gurwen, Pont-iets, Pontyberem a Cross Hands.

Mae pentrefi eraill yn Sir Gâr fel Brechfa, Trelech a Llangadog hefyd ymhlith y rheiny welodd y cwymp mwyaf, yn ogystal â 'Rhyd-y-fuwch', sef rhan ganol tref Aberteifi yng Ngheredigion.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Glanaman yw'r pentref ble mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng fwyaf

Caerdydd yn arwain y cynnydd

O'r 20 ardal welodd y cynnydd mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, roedd 12 ohonynt yng Nghaerdydd.

Maen nhw'n cynnwys ardal Parc Fictoria (welodd gynnydd o 9.2% a ble mae 34.7% bellach yn siarad Cymraeg) a rhannau o Dreganna, Yr Eglwys Newydd, Llandaf a Llanisien.

Mae tair ardal o Rhondda Cynon Taf sydd ar gyrion y brifddinas hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol - Pontyclun, Brynnau a Threalaw.

Y lleill oedd Aberystwyth (Bronglais) a Llanbedr Pont Steffan (dwy ardal fyfyrwyr, ac felly ble mae'n bosib bod llai o'r di-Gymraeg o gwmpas yng Nghyfrifiad 2021), Coity ger Pen-y-bont, Llanbedrog ac Abersoch ym Mhen Llŷn, a 'Porthyfelin 2' - rhan o dref Caergybi ar Ynys Môn.

Pynciau cysylltiedig