'Mae pawb yn Israel yn 'nabod pobl sydd wedi marw'

"Mae pob un yn Israel yn 'nabod pobl sydd wedi marw, neu sydd yn ddigartref ar hyn o bryd".

Mae Yuval Inbar yn 22 oed ac yn byw yn ninas Jerwsalem yn Israel.

Fe benderfynodd hi adael ei chartref a mynd i aros gyda'i theulu yn Tel Aviv oherwydd y gwrthdaro diweddar rhwng Israel a Gaza.

Cafodd o leiaf 1,400 o bobl eu lladd yn Israel mewn cyfres o ymosodiadau gan Hamas ar 7 Hydref.

Mae Llywodraeth Israel wedi bod yn ymateb i'r ymosodiadau hynny gydag ymosodiadau awyr ar Lain Gaza, a'r gred yw bod tua 2,750 o bobl wedi marw yn Gaza erbyn hyn, a dros filiwn o bobl yn ddigartref.

Mae'r ymdrechion diplomyddol rhyngwladol yn dwysau i geisio atal y gwrthdaro rhwng Israel a Hamas rhag lledaenu yn y Dwyrain Canol.

Yn ogystal, mae galwadau cynyddol i ganiatáu i bobl Gaza ffoi i'r Aifft cyn bod byddin Israel yn dechrau ymgyrch filwrol ddisgwyliedig ar y tir.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Ms Yuval: "Mae'r funerals wedi dechrau, mae rhai pob dydd.

"Mae dau o bobl o fy mhentref i wedi cael eu llofruddio... mae mor ofnadwy... mae mor drist."

Dywedodd Ms Inbar ei bod hi wedi gwylio'r sefyllfa yn datblygu ar y teledu: "Mae'n sefyllfa mor ofnadwy, yn fwy ofnadwy nag oedden ni wedi meddwl. Roedd pobl yn eu tai yn ffilmio'r terfysgwyr.

"Mae fy ffrindiau yn byw ger Gaza mewn kibbutz. Mae missile wedi cwympo ar dŷ fy ffrind."

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried Hamas fel grŵp terfysgol.