Llifogydd: 'Da chi ddim yn gallu amddiffyn pob tŷ'
Nid oes digon o gyllid i greu amddiffynfeydd llifogydd ym mhob rhan o Gymru, er bod angen mwy, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Daw hyn wrth i'r corff gyhoeddi eu cynllun Rheoli Perygl Llifogydd, sy'n nodi blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ar gyfer y chwe blynedd nesaf.
Maen nhw'n galw am fuddsoddi mewn systemau presennol a'u gwella, gan gynnwys yr holl amddiffynfeydd llifogydd a systemau rhybuddio.
Yng Nghymru, mae 245,118 o dai mewn perygl o lifogydd, neu tua un o bob wyth o gartrefi.
Ond yn ôl patrymau newid hinsawdd, mae'n debygol i'r ffigwr yma gynyddu.
Dywedodd Tim Jones, sy'n ymgynghorydd amgylcheddol annibynnol, ar raglen Dros Frecwast: "'Da chi ddim yn gallu amddiffyn pob tŷ, 'da chi ddim yn gallu amddiffyn pob cymuned, oherwydd dydy'r pres cyhoeddus ddim yn ddiwaelod."