Cyfoeth Naturiol Cymru: Dim digon o arian i amddiffyn pawb rhag llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Menyw yn gwthi ei chi mewn cwch

Nid oes digon o gyllid i greu amddiffynfeydd llifogydd ym mhob rhan o Gymru, er bod angen mwy, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Daw hyn wrth i'r corff gyhoeddi eu cynllun Rheoli Perygl Llifogydd, sy'n nodi blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ar gyfer y chwe blynedd nesaf.

Maen nhw'n galw am fuddsoddi mewn systemau presennol a'u gwella, gan gynnwys yr holl amddiffynfeydd llifogydd a systemau rhybuddio.

"Yn lle dweud, ma' isie' gwneud hefyd," meddai un a fu'n gweithio yn ystod llifogydd mawr Caerfyrddin yn 1987, er mwyn rhwystro "mynd trwyddo beth aethon ni trwyddo".

1 o bob 8 tŷ mewn perygl

Yng Nghymru, mae 245,118 o dai mewn perygl o lifogydd, neu tua un o bob wyth o gartrefi.

Ond yn ôl patrymau newid hinsawdd, mae'n debygol i'r ffigwr yma gynyddu.

Disgrifiad,

"'Da chi ddim yn gallu amddiffyn pob tŷ... pob cymuned," meddai'r ymgynghorydd amgylcheddol annibynnol Tim Jones

I Fionna Ashman o Sir Gaerfyrddin, mae glaw cyson yn ei chadw'n effro dros nos "yn gofidio", ar ôl dioddef llifogydd dro ar ôl tro.

Mae'r perchennog noddfa anifeiliaid yn Nhrimsaran yn dweud bod byw gyda'r risg yn "annioddefol".

Ychydig wythnosau'n ôl bu'n rhaid iddi yrru ei mam adref mewn cwch, ac mae hefyd wedi defnyddio'r cwch fynd â chŵn at filfeddyg.

Dywedodd ei bod yn "deffro yn y bore wedi ofni" ac "wedi methu bwyta" oherwydd y straen.

"Dwi'n effro yn ystod y nos pan mae'n bwrw'n drwm, i weld bod y car yn iawn, ac o bosib ei symud i fyny'r stryd," meddai.

"Dwi'n gwirio bod y ceffylau wedi eu cau yn saff yn y cae ac nad yw'r giât wedi agor. Dwi'n gwirio bod y cŵn yn iawn ac nad oes dŵr yn eu hamgylchynu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fionna Ashman ei bod yn byw "hunllef"

Dywedodd y byddai'n symud tŷ petai'n gallu fforddio, ond nad oes ganddi'r arian.

"Dwi'n poeni am y dyfodol. Mae byw fan hyn yn annioddefol.

"Dy' ni methu cael gwasanaethau i gyrraedd y safle. Dy' ni methu cael post. Dy' ni methu cael gwared â'n sbwriel.

"Dy' ni methu mynd at y doctor neu'r chemist. Dwi ddim yn gwybod be' fydde'n digwydd petai angen ambiwlans arnom ni."

Dywedodd nad oedd yr awdurdodau'n mynd i wneud gwaith i'w hamddiffyn, a'i bod yn gorfod byw'r "hunllef yma nes ein bod ni'n cael ein gorfodi i adael".

"Ond ble alla i fynd? Does gen i ddim yr arian."

Dywedodd Rheolwr Gweithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru, Huwel Manley, ei bod hi'n debygol i ni weld "mwy o ddŵr, a ni wedi gweld hwnna yn barod eleni" yn sgil cynhesu byd eang.

Dywedodd: "Ni wedi gweld pedwar storm o fewn mis, sydd wedi achosi tipyn o ddifrod.

"Ma'n rhaid i ni fel cymdeithas fod yn fwy parod i ateb y galw o ran y risg mae llifogydd yn creu i gymdeithas yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, James Harries/CNC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adeiladu mwy o amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adeiladu mwy o amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws Cymru, gan gynnwys yn Rhydaman, ardal sydd â risg llifogydd dros y 100 mlynedd nesaf.

Bydd y cynllun yn lleihau perygl llifogydd i 349 o dai yn y dref yn ystod digwyddiad llifogydd eithafol.

Mae'r prosiect yn Rhydaman yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ar gost o £4.1m.

Ond yn ôl Mr Manley nid oes digon o arian i godi amddiffynfeydd newydd ym mhobman.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huwel Manley bod angen i bobl fod yn ymwybodol o'r risgiau yn eu hardaloedd

"Yn anffodus dyw e ddim yn bosib amddiffyn pob cymuned rhag llifogydd. Dyna un o'r heriau sydd gyda ni fel cymdeithas.

"Mae'n rhaid i ni benderfynu beth yw blaenoriaethau pres cyhoeddus."

Mae waliau amddiffyn tebyg wedi eu codi ger Llyn Tegid yn y Bala, Casnewydd, Llanfair Talhaearn yng Nghonwy a Llwynypia yn Rhondda Cynon Taf.

Mae disgwyl codi rhagor yn Aberaeron, Porthmadog, Pwllheli, Dwyran ac Aberdulais.

Sut allwch chi baratoi am lifogydd?

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae angen i gymunedau baratoi eu hunain ar gyfer llifogydd.

Mae hynny'n cynnwys "gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o risg lle maen nhw'n byw, paratoi os bod rhaid symud o'r tŷ a mynd â dogfennau gyda nhw, neu bethau mor syml â symud ceir," meddai Mr Manley.

Mae modd gwirio beth yw'r risg llifogydd i'ch côd post ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.

Atgofion 1987 yn peri gofid

Disgrifiad o’r llun,

Caerfyrddin dan ddŵr yn ystod llifogydd mawr 1987

Yn 1987 roedd siopau, tai a rheilffyrdd yn Sir Gaerfyrddin dan ddŵr oherwydd llifogydd difrifol.

Bu Arwel Fowler yn ymateb i'r llifogydd yn ei rôl fel swyddog tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y pryd.

Dywedodd: "Mae dau elyn gyda chi - tân a dŵr - a chi ffaelu rheoli tân a chi ffaelu rheoli dŵr. Ond chi'n 'neud eich gorau glas ar y pryd i helpu pobl.

"Mae'n rhaid i ni fod yn barod i pan mae rhywbeth yn mynd i ddigwydd achos mynd i ddigwydd mae e eto. Pryd? Ni ddim yn gwybod.

"Yn 1987 bu farw pedwar o bobl mewn damwain trên ar Afon Tywi oherwydd y llifogydd difrifol ger Llandeilo."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arwel Fowler yn gweithio fel swyddog tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod llifogydd Sir Gaerfyrddin 1987

Yn ôl Mr Fowler mae angen rhagor o weithredu er mwyn sicrhau fod y fath drasiedi ddim yn digwydd eto.

"Mae'n dda clywed bod dadl yn mynd ymlaen ar hyn o bryd.

"Ond yn lle dweud, ma' isie' gwneud hefyd i 'neud yn siŵr bod e ddim yn dinistrio cartrefi.

"A bo' ni ddim yn mynd trwyddo beth aethon ni trwyddo yn '87."

Pynciau cysylltiedig