Drama'n dod â sgandal Swyddfa'r Post at gynulleidfa newydd

Mae rhaglen ddrama newydd sy'n dilyn hanes cyn is-bostfeistri gafodd eu herlyn ar gam gan Swyddfa'r Post yn hollbwysig er mwyn dangos mawredd y sgandal i gynulleidfa newydd, yn ôl un o'r bobl gafodd ei effeithio.

Fe gafodd Noel Thomas o Ynys Môn ei garcharu ar gam yn 2006 am gadw cyfrifon ffug yn Swyddfa'r Post Gaerwen.

Mae'r rhaglen 'Mr Bates vs The Post Office' ar ITV yn dilyn hanes yr is-bostfeistri wrth iddyn nhw sylwi ar fawredd y sgandal.

Wrth ymateb i gynnwys y gyfres fe ymddiheurodd Swyddfa'r Post unwaith eto i'r rhai a gafodd eu heffeithio.

Yn ôl Mr Thomas o Gaerwen, mae'r rhaglen yn bwysig gan ei bod hi'n cyrraedd cynulleidfa nad oedd, o bosib, wedi clywed am y sgandal.

"Mae'r gwir yn dod allan yndi," meddai wrth Newyddion S4C.

Wrth wylio dywedodd ei fod yn llawn emosiwn: "Yn enwedig pan oedda' nhw'n dangos y mynd i jêl... doedd o ddim yr un fath ag oedd o'n Walton.

"Ond oedda chi'n gweld ffrindiau hefyd mewn ffordd wahanol ac mae'n bwysig iawn wrth ddod â'r neges adra i fwy o bobl."

Wedi brwydr hir, fe ddyfarnodd y Llys Apêl yn 2021 nad oedd Noel Thomas a 38 o is-bostfeistri yn euog.

Er hyn does neb erioed wedi eu herlyn am y sgandal ac mae disgwyl i'r Ymchwiliad Cyhoeddus barhau eleni.

Yr Actor Ifan Huw Dafydd sy'n portreadu Noel Thomas ar y sgrin fach yn y gyfres.

"Oedd stori Noel, lawer lawer ehangach na'r hyn sydd yn y sgript", meddai.

"Fe gollodd ei fusnes yn gyfan gwbl, nage jest y swyddfa bost oedd 'da fe ond siop fach. Roedd e hefyd yn Gynghorydd Sir a cholli'r swydd hynny"."

Mae'n disgrifio Mr Thomas fel arwr wnaeth "sticio 'na a dod trwyddo gyda gwên".

Mae Mr Thomas bellach wedi derbyn rhywfaint o iawndal ond fel nifer a gafodd eu heffeithio mae 'na alw a disgwyl rhagor.

"Mae'r pen llinyn yn y golwg am fod y llinyn wedi mynd yn hirach a hirach..." meddai.

"Rŵan mae rhaid i mi ddweud yn gyhoeddus.. diolch am Alan Bates."

Wrth ymateb i gynnwys y gyfres fe ddywedodd Swyddfa'r Post eu bod yn "ymddiheuro'n fawr i rheini a ddioddefodd yn sgil y sgandal feddalwedd Horizon".

"Rydym yn gwneud bob dim o fewn ei wneud yn iawn ac rydym yn annog unrhyw un sydd wedi eu heffeithio, sydd heb ddod ymlaen eto i wneud felly."