Dileu euogfarnau yn erbyn cyn is-bostfeistri
- Cyhoeddwyd
Mae euogfarnau yn erbyn pedwar cyn is-bostfeistr o Gymru wedi cael eu dileu yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol.
Roedd Noel Thomas, Damien Peter Owen, Lorraine Williams a Pamela Lock ymhlith cannoedd gafodd eu cyhuddo ar gam gan Swyddfa'r Post o ddwyn, twyll a chadw cyfrifon ffug.
Ond mewn gwirionedd, nam gyda system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post - Horizon - oedd yn gyfrifol am anghysonderau mawr yng nghyfrifon nifer o swyddfeydd post.
Dros 14 mlynedd, rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn a chafodd nifer eu carcharu.
Rhaglen materion cyfoes BBC Cymru, Taro 9, oedd y cyntaf i gysylltu achosion drwy Gymru a Lloegr, gan godi'r llen ar un o'r sgandalau mwyaf o ran camweinyddu cyfiawnder mewn hanes diweddar.
Cafodd Noel Thomas o Gaerwen, Ynys Môn, ei garcharu am naw mis yn 2006 am gyfrifo ffug ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.
Yn y llys, fe ollyngodd Swyddfa'r Post y cyhuddiad o ddwyn ac ar gyngor cyfreithiol fe blediodd Mr Thomas yn euog i gadw cyfrifon ffug gan obeithio osgoi carchar.
Ond cafodd ei ddedfrydu i naw mis yn y carchar a'i wneud yn fethdalwr.
Ddydd Gwener, fel 38 o gyn is-bostfeistri eraill, cafodd enw da Mr Thomas ei adfer yn y llys yn Llundain.
Ar ddiwrnod emosiynol, dywedodd Mr Thomas ei fod wedi mynd i'r llys i "glirio'n enw".
Yn flaenorol, roedd Swyddfa'r Post wedi setlo achos ym mis Rhagfyr 2019 gyda 555 o hawlwyr.
Fe gafwyd achos iawndal gan y cyn is-bostfeistri yn erbyn Swyddfa'r Post ac fe gytunon nhw i dalu £58m.
Ond ni wnaethon nhw dderbyn atebolrwydd ac er bod iawndal wedi'i dalu, aeth y mwyafrif helaeth tuag at gostau cyfreithiol.
Dywedodd Swyddfa'r Post mewn datganiad cyn y dyfarniad eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i'r postfeistri sydd wedi eu heffeithio gan ein methiannau hanesyddol".
Does neb o Swyddfa'r Post na Fujitsu, oedd yn berchen ar raglen gyfrifiadurol Horizon, wedi eu dwyn i gyfrif am y methiannau.
Mae ymchwiliad wedi ei sefydlu fydd yn "creu cofnod clir o fethiannau Horizon ac asesu pa wersi sydd wedi eu dysgu gan Swyddfa'r Post". Mae disgwyl i'r ymchwiliad gyhoeddi ei ganfyddiadau yn yr haf.
Wedi penderfyniad hanesyddol y llys ddydd Gwener, mae'n debygol y bydd y cyn is-bostfeistri yn dwyn achos sifil o'r newydd yn erbyn Swyddfa'r Post, gan alw am swm sylweddol am niwed achoswyd iddyn nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013