Adrodd ei hanes yn brofiad 'cathartig' i Noel Thomas

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bydd llyfr 'Llythyr Noel' yn cofnodi atgofion y cyn-bostfeistr Noel Thomas

Mae'r broses o adrodd ei hanes yn ei eiriau ei hun wedi bod yn brofiad "cathartig" i gyn-bostfeistr a gafodd ei garcharu ar gam.

Dyna farn awdur llyfr newydd yn edrych ar fywyd Noel Thomas, gan gynnwys ei gyfnod "hunllefus" dan glo.

Fe garcharwyd y cyn-gynghorydd sir yn 2006 am gadw cyfrifon ffug yn Swyddfa'r Post Gaerwen.

Mynnodd ei fod yn ddieuog, gan honni mai nam ar system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post, Horizon, oedd ar fai.

Yn dilyn brwydr o dros 16 mlynedd cafodd yr euogfarnau yn erbyn Mr Thomas a 38 o is-bostfeistri eraill eu dileu gan y Llys Apêl yn 2021.

Ffynhonnell y llun, Aled Job
Disgrifiad o’r llun,

Mae Noel Thomas (chwith) wedi bod yn gweithio ar ei lyfr newydd ers misoedd gyda chymorth ei ferch, Sian, a'r awdur cysgodol, Aled Gwyn Job

Gyda dros 700 o bobl wedi eu herlyn o ganlyniad i'r system ddiffygiol rhwng 2000 a 2014, mae wedi ei ddisgrifio fel y camweinyddiad o gyfiawnder mwyaf erioed yn hanes Prydain.

Bellach wedi adfer ei enw da yn llawn, ond yn benderfynol nad yw'r frwydr drosodd eto, dywedodd Noel Thomas mai ei obaith yw y bydd y llyfr yn helpu eraill mewn sefyllfa anodd.

'Stori Dafydd a Goliath'

Gyda bwriad i gyhoeddi 'Llythyr Noel' fis Ebrill, mae'n ffrwyth llafur bron i flwyddyn o gyfarfodydd rheolaidd rhwng Mr Thomas, aelodau o'i deulu a'r awdur Aled Gwyn Job.

Yng nghanolfan M-Sbarc Gaerwen, lle maen nhw wedi bod yn ymgynnull, dywedodd Aled Gwyn Job wrth Cymru Fyw: "Hanes Dafydd a Goliath sydd wrth galon y stori yma ac sydd wedi apelio ata' i yn fwy na dim.

"Gafodd Dafydd ei alw i chwarae rôl yn trechu cawr. Doedd Dafydd ddim yn disgwyl cael ei alw i'r rôl yna, oedd yn syndod mawr iddo a dwi'n meddwl fod hynny'n wir am hanes Noel hefyd.

"Doedd o'm yn disgwyl y bydda fo ar flaen y gad yn herio cawr mawr sefydliad y Post Brenhinol, ond roedd Noel ymhlith y cohort cyntaf i gael eu dal i fyny yn yr hanes, ac mae ei hanes o wedi bod yn esiampl i bawb arall."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Gwyn Job fod y broses o ysgrifennu'r llyfr "wedi bod yn rhyw fath o therapi i Noel"

Gyda'r llyfr yn edrych ar fywyd Noel Thomas cyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ychwanegodd: "Mae'r ymchwiliad dal yn mynd yn ei flaen ac mae 'na bethau newydd yn dod i'r golwg yn ddyddiol.

"Mae 'na bethau ychwanegol 'dan ni wedi'i gynnwys yn y llyfr tydi pobl ddim wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen - mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol yn lleol.

"'Da ni'n lwcus fod Noel a Sian [ei ferch] yn ffigyrau mor adnabyddus ac mae pawb yn eu 'nabod nhw, ac mae 'na gymaint wedi bod yn holi pryd mae'r llyfr yn barod."

Gyda disgwyl fersiwn Saesneg yn y dyfodol, ychwanegodd Mr Job: "Mae'r [broses] wedi bod yn rhyw fath o therapi i Noel i gael rhannu hefo fi, o bosib, rhai pethau dydi o heb rannu hefo'r teulu oherwydd mod i'n dod i fewn o'r tu allan.

"Dwi'n meddwl fod o wedi bod yn broses cathartig iawn iddo fo gael dweud yr hanes yn iawn am y tro cyntaf oherwydd mae 'na gymaint o bethau mae o wedi disgwyl iddo gael eu dweud a fod hwn yn gyfrwng iddo am y tro cyntaf."

Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas yn cael ei arwain i'r carchar yn 2006

Yn ôl Noel Thomas, bydd adrodd ei hanes yn llawn yn "cyflawni lot" wrth iddo barhau i brosesu'r 17 mlynedd diwethaf.

Ond yn ogystal â'i brofiadau gyda Swyddfa'r Post, roedd mwy o dorcalon i'r teulu wrth iddyn nhw golli eu mab hynaf, Arfon, yn 51 oed ar ôl salwch byr.

"Mae'n hanes go hir o fy mhlentyndod ym Malltraeth cyn dod yn bostmon ac yna postfeistr, ac mae pawb yn gwybod be ddigwyddodd wedyn," meddai.

"Mae [rhoi fy ngeiriau lawr mewn print] wedi helpu a dwi'n gobeithio fod y stori'n dod allan yn helpu pobl eraill.

"I fod yn onest yr amser gwaethaf oedd y tair blynedd gyntaf a dod o'r carchar, yn 'nabod gymaint o bobl.

"Roedd rhai ar eich hochor chi ac eraill ddim, ond 'da chi'n disgwyl hynny mewn lle bychain."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Eira a Noel Thomas, sy'n dathlu 54 mlynedd o briodas ddydd Sul, ar achlysur dathlu eu priodas aur

Ychwanegodd: "Mae [cael y stori mewn ddu a gwyn] yn cyflawni lot. Mae'n cyflawni lot i'r teulu achos mae wedi bod yna am flynyddoedd.

"Dwi wedi cadw lot i fi'n hun ac mae o'n ffordd o gael o allan rŵan.

"Oeddwn i'n cerdded lot, mynd i lefydd er mwyn cael rhyw o awr o dawelwch a meddwl a dweud wrth eich hun 'Pam?', a ddim mymryn nes i'r lan.

"Mae'n bwysig fod nhw'n cael gwybod - mae 'na lawer o bobl arall yr un fath."

Disgrifiad o’r llun,

Sian Thomas: "Mi gymrith flynyddoedd i gael drosto fo'n iawn"

Yn ôl merch Noel, Sian Thomas, mae'n "dipyn o stori", ond ei fod hefyd yn bwysig gweld yr hanes yn cael ei adrodd yn y Gymraeg.

"Dwi 'di bod drwy hyn i gyd hefo Dad. Yr unig le fues i ddim hefo fo oedd y carchar," meddai.

"Mae fy mywyd i, ers 16 mlynedd, wedi bod ar hold yn trio dal job, helpu nhw a gwneud gwaith twrna oherwydd s'gen fy nhad druan ddim clem sut i ddefnyddio e-bost ac ati.

"Fyswn i'n gwneud yr un peth eto gan ein bod fel teulu yn gwybod [y gwir]."

A hithau wedi darllen peth o'r llyfr eisoes, ychwanegodd: "Mae'n emosiynol ofnadwy i ni fel teulu, a fydd rhai pethau mae pobl yn chwerthin amdanynt a rhai fydd pobl yn crio."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas a Sian tu allan i'r llys yn Llundain ar ôl i'w euogfarn gael ei dileu yn 2021

Serch hynny, roedd Sian yn argyhoeddedig fod y frwydr yn bell o fod ar ben.

"Ti dal mewn rollercoaster, da ni'n dal i gwffio Swyddfa'r Post," meddai.

"Ti'n teimlo dy fod yn ennill ond yr eiliad nesa' ti'n ôl eto. Mae wedi bod yn broses anodd rhwng colli fy mrawd a phob dim, a doedd o ddim lawr hefo ni yn Llundain [pan gafodd yr euogfarn ei dileu].

"'Dan ni'n ffodus fod ni wedi cael teulu a ffrindiau i helpu ond mi gymrith flynyddoedd i gael drosto fo'n iawn gan fod yr inquiry dal yn mynd yn ei flaen.

"Mae'r llyfr, iddo fo, yn gyfle i gau pen y mwdwl ar yr holl broses achos be aeth o drwodd... mae wedi bod yn hunllef iddo fo.

"Mae o wedi ffeindio pleser yn cerdded, ond diolch i'r nefoedd fod o'n ddyn cryf."