Lluniau: Y Sin Roc Gymraeg 10 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Sut oedd y byd cerddoriaeth yng Nghymru yn edrych 10 mlynedd yn ôl?
Mae'r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn tynnu lluniau o fandiau Cymru ers blynyddoedd ac mae arddangosfa ohonyn nhw i'w gweld yn Galeri, Caernarfon, tan ddiwedd mis Gorffennaf 2018.
Mae arddangosfa SRG10 yn dangos lluniau'r sîn roc Gymraeg 10 mlynedd yn ôl i gyd-fynd â 10 mlwyddiant Gŵyl Arall sy'n digwydd yn y dre ar y penwythnos.
Dyma ddetholiad Iolo o rai o'i ffefrynnau:


Dave Datblygu yng Nghaerfyrddin

Cerys Matthews yng Ngŵyl y Faenol

Radio Luxembourg mewn iard scrap yn Stâd Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon,

Jen Jeniro yn Cibyn, Caernarfon, lle roedd stiwdios teledu Barcud ac yn ddiweddarach Antena

Yr actor Rhys Ifans yn perfformio gyda Y Peth yng ngŵyl Green Man

Gruff Rhys a Lisa Jên yng ngŵyl Green Man

Yr Ods

Elin Fflur yn y Faenol

Maffia Mr Huws

Sian Davies a Ryan Kift

Cowbois Rhos Botwnnog yn Ngŵyl Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog

Mei Gwynedd gyda Sibrydion yng Ngŵyl y Faenol

Geraint Jarman yn Pesda Roc

Genod Droog: Ed Holden, Carwyn Jones a Dyl Mei yn Stiwdio Uned 5, Cibyn

Yucatan
Hefyd o ddiddordeb: