Ble mae'r bandiau pop Cymraeg?

  • Cyhoeddwyd
candelas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Candelas yn cymryd rhan yn y gyfres 'Pwy Geith y Gig?'

Heno bydd cyfres newydd yn dechrau ar S4C fydd yn ceisio dod o hyd i dalent cerddorol ifanc gyda'r bwriad o greu band newydd.

Bydd 'Pwy Geith y Gig?', dolen allanol yn rhoi'r cyfle i'r band buddugol i gael eu mentora gan bedwar unigolyn adnabyddus yn y sin gerddoriaeth Cymraeg - neu'r Sin Roc Gymraeg (SRG) - a chael perfformio'n fyw mewn gig yn Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint eleni.

Ond o edrych ar y cerddorion sy'n cymryd rhan, mae'n anhebygol y bydd 'boy band' neu 'girl band' pop Cymraeg yn cael ei ffurfio yn sgil y gyfres. Ond pam? Oes yna alw am y fath beth o fewn y SRG?

Amhosib

"Mae bron yn amhosib i Gymru wneud boy neu girl band sydd yn gweithio," meddai Aled Haydn Jones - un o banelwyr y gyfres sioe dalent 'Wawffactor' ar S4C rhwng 2003-2006, ac sydd bellach yn lais cyfarwydd i wrandawyr Radio 1.

"Y peth mwya' am y bandiau Prydeinig yw bod nhw'n cael gymaint o sylw o gwmpas y byd - dim ond y rhai mawr sy'n gweithio.

"Mae gymaint yn dod drwy Radio 1, er enghraifft, sydd methu torri drwodd achos does dim digon o sŵn o'u cwmpas nhw. Heb hwnna mae'n mynd i deimlo bach yn wan falle, hyd yn oed os yw'r gerddoriaeth yn ffantastig.

"Gyda bandiau pop mae o fwy am y sŵn sydd o gwmpas y band a bydd hi'n fwy anodd g'neud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aled Haydn Jones - neu 'BB Aled' fel mae'n cael ei adnabod - yn aelod amlwg o raglen Chris Moyles ar Radio 1

Yn ôl Aled, mae'r sefyllfa ariannol yn rwystr i fandiau pop Cymraeg greu effaith.

"Beth fyddai'n ffantastig bydde band bachgen neu ferch sy'n g'neud cerddoriaeth Cymraeg a Saesneg sy'n mynd o gwmpas y byd," meddai.

"I gael band i weithio mae'n rhaid cael sylw gan America neu Awstralia felly mae'n broblem i fandiau yn Lloegr - ma'n mynd i fod yn hyd yn oed yn fwy anodd yn y Gymraeg. Mae'r ochr farchnata a'r arian yn gymaint pwysicach mewn pop.

"Does jest dim digon o arian i gadw pobl i fynd."

Meganomeg

Mae Rhydian Bowen-Phillips yn gyn-aelod o'r band Mega, sy'n cael eu hystyried fel un o'r boy bands Cymraeg cyntaf.

"Dwi'n meddwl fod 'na ddiffyg pop Cymraeg yn gyffredinol achos pan o'dd Mega o gwmpas dwi'n cofio neud teithiau Ram Jam o gwmpas ysgolion gyda Eden, a wedyn daeth Pheena, TNT, Max-N - ond mae 'na le i boy band arall yn sicr."

Disgrifiad o’r llun,

'Dawnsio ar Ochr y Dibyn' (1998), yw un o ganeuon mwyaf cofiadwy Mega

Ond oes yna ddigon o alw am y fath beth yn y Gymraeg?

"Dwi'n meddwl byse yna alw," meddai Rhydian. "Cyn Mega doedden ni ddim yn siŵr faint o alw oedd 'na am fand yn y Gymraeg ond hyd heddiw mae pobl yn atgoffa fi o Mega! Mae pobl wastad yn cyfaddef eu bod nhw'n gwrando arno ni.

"Gyda'r SRG, mae'r enw ei hun yn cyfuno pawb i roc achos mae'n cynnwys y gair. Nes bo' rhywun yn trio, ti byth yn gwbod os oes 'na alw neu beidio. Mae angen bod yn ddewr.

"Fi'n ffan o fandiau fel Candelas a Sŵnami ac ati ond dwi'n credu bod angen rhywbeth arall i adlewyrchu sin yn hytrach na jest bandiau gitâr - mwy o ddawns, mwy o DJs Cymraeg a phop ac ati."

Lawrlwytho a PRS

Roedd y DJ Bethan Elfyn hefyd yn un o banelwyr y rhaglen 'Wawffactor', ac mae bellach yn ran blaenllaw o ymgyrch Gorwelion, sy'n gynllun i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

"Mae 'na wastad fwlch ar gyfer cerddoriaeth pop, a chantorion ifanc bywiog, gweledol ddeniadol - ond mae angen cwmnïau 'rheoli' i roi'r buddsoddiad cynnar i mewn i'r bandiau yma," meddai Bethan.

"Mae hyn yn brin yng Nghymru beth bynnag. Mae 'na gwmnïau fel Orchard sydd yn trefnu gigs mawr (gigs mewn stadiwm fel Kings of Leon ayyb), ond hefyd yn buddsoddi yn y teithiau efo Pretty Vicious/Into the Ark a bandiau mwy lleol sydd ar y ffordd i bethau mawr. Dwi'n cofio Avanti yn gweithio efo Mega er enghraifft.

"Falle bod llai o bobl eisiau gweithio ar y gwaith adeiladu erbyn hyn, gan fod llai o arian yn y busnes cerddoriaeth yn gyffredinol - mwy o downloads na gwerthiant, llai o daliadau PRS ar gyfer artistiaid Cymraeg, a falle bod popeth yn ormod o risg."

Ffynhonnell y llun, Recordiau Sain/Pheena
Disgrifiad o’r llun,

Mae TNT wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd ond mae Pheena yn dal i berfformio

Bu'r cynhyrchydd cerddoriaeth Rob Reed yn gweithio gyda sawl un o'r bandiau pop Cymraeg, ond dywedodd ei fod, fel sawl un arall, wedi rhoi'r gorau iddi yn dilyn newidiadau i daliadau PRS, dolen allanol.

"Roedd cerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol yn denu llwyth o gynhyrchwyr di-Gymraeg, yng Nghymru a dros y ffin, cyn newidiadau PRS," meddai Rob. "Roedd e'n broffidiol iawn.

"Roedd pobl yn gallu gwneud lot o arian ar un amser. Ond ar ôl i gyfraddau PRS newid, fe adawodd llwyth o gynhyrchwyr a fe wnaeth y safon ostwng - dim oherwydd diffyg talent, ond am fod y bobl 'ma oedd wedi gweithio gyda'r goreuon, yn gadael."

Y dyfodol

Felly ydy cerddoriaeth bop yn cael ei adlewyrchu yn y Sin Roc Gymraeg heddiw?

"Mae pop yn newid ei wedd yn aml, yn enwedig pan chi'n edrych ar Adele ac Ed Sheeran, rhai o'r artistiaid mwya' poblogaidd y sin Saesneg," ychwanegodd Bethan Elfyn.

"Er bod cerddoriaeth gitâr yn cael lot o sylw gan y cyfryngau mae 'na agweddau diddorol ac amrywiol o fewn y sin heddi' - gewch chi ddim band mwy lliwgar a hwyliog na HMS Morris, neu gerddoriaeth mwy sgleiniog ac upbeat na Sŵnami, neu pop â gwên a phersonoliaeth mwy hawddgar na Danielle Lewis, neu DJs mwy hapus a llon na Roughion, neu ganwr mwy llond ei groen na Rhys o Fleur De Lys.

"Mae cerddoriaeth Gymraeg yn le prysur, bywiog, cerddorol beiddgar, ac mae'r bandiau yn denu mwy o bobl i wrando nag erioed o'r blaen. Falle bod y band 'manufactured' fel Little Mix, neu 1D ar goll, ond mae cerddoriaeth wreiddiol Cymru yn ffynnu."

Pwy Geith y Gig? Nos Fercher 13 Ebrill, 5.30, S4C

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol