Pryd ma'r gig?
- Cyhoeddwyd
Cyn dyddiau Facebook, Snapchat, a Twitter, yr unig ffordd i hysbysebu gig, oedd drwy greu poster gafaelgar... o, ac anfon hysbys at Hywel Gwynfryn.
Dewch felly i gofio'r dyddiau da ac i gyfri sawl un o'r gigs fuoch chi ynddyn nhw? Cofiwch dalu sylw arbennig ar bris y tocynnau.

Y band roc Cymraeg cyntaf, yn ôl rhai, yn perfformio yn Neuadd Talybont am bump swllt (sef 25 ceiniog yn arian heddiw)


I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gw'bod, mae Neuadd Drefach Felindre tua pedair milltir o Gastell Newydd Emlyn, a ddim yn le naturiol i gynnal gig... ond roedd y neuadd wastad yn llawn!


Neuadd arall yng nghanol y wlad... un 'chydig yn fwy y tro yma. Pwy oedd yr 'artistiaid enwog eraill' tybed?


Chwyldroadol...gofyn am y pris mynediad mewn ceiniogau! Dim pres papur i'w cael yn Llangernyw?


Delwedd mwyaf eiconig Jarman yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol yn y poster yma i lenwi Pafiliwn Corwen


Syml ond i bwrpas. Daeth Y Cyrff yn un o fandiau mwyaf eiconig y sin roc Gymraeg ond 'dych chi'n cofio Efrydiau Allanol?


Roedd yr Anhrefn yn gwneud pwynt o beidio chwarae yn y canolfannau traddodiadol Cymraeg ac yn canolbwyntio ar dafarndai mewn ardaloedd llai ffasiynol...fel Llanelwy. Oes na' deipos ar y poster?


Rhywbeth anarferol iawn yn y cyfnod. Roedd gigs dwy-ieithog yn cael eu gwawdio gan rai oedd am weld y sin roc Gymraeg yn sefyll ar ei thraed ei hun yn hytrach na dilyn y dylanwad eingl-americanaidd. Wedi dweud hynny mi fydde' nifer yn talu'n dda heddiw i weld Tich Gwilym a Wilko Johnson, dau chwaraewr gitar eiconig, ar yr un llwyfan.


Nôl i'r gorffennol pell eto, at gig i ddathlu'r Nadolig ym Mlaendyffryn, ger Llandysul yn 1981. Mae'r ganolfan erbyn hyn yn gartref hen bobl felly doctor tra wahanol sy'n galw.


Dwylo lan pwy sydd yn cofio Peth'ma, Crwyn Mwyn a'r Sefydliad?


Poster ar gyfer taith y grŵp Ail Symudiad o Aberteifi yn ystod Haf 1982 gyda bandiau mawr y dydd yn perfformio gyda nhw mewn canolfannau dros Gymru gyfan.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2017