Lluniau: Gŵyl Arall, Caernarfon 2018
- Cyhoeddwyd
Rhai o olygfeydd yr ŵyl gelfyddydol yng Nghaernarfon ar benwythnos braf 13-15 Gorffennaf.

Mwynhau o fewn muriau castell Edward y cyntaf!

Y cerddor a'r archaeolegydd Rhys Mwyn a'r dawnsiwr Eddie Ladd gyda dau chwaraewr pêl-droed ifanc ar un o strydoedd y dref

Gwydion Outram oedd enillydd y gystadleuaeth bysgio ar y maes

Roedd yr aelod seneddol Liz Saville-Roberts yn cael ei holi gan Menna Machraeth yng Ngerddi'r Emporiwm

Ai dyma'r diwedd? Un o'r artistiaid oedd yn creu celf o gwmpas y dref

"Sut mae teimladau o genedlaetholdeb yn effeithio arnom yn gorfforol" oedd testun gweithdy Yes Cymru gyda Eddie Ladd

Roedd Arwel Roberts, Emlyn Gomer ac Ifor ap Glyn yn arwain pyb crôl llenyddol o gwmpas y dref nos Wener

Ffordd braf i ddechrau'r dydd, yoga yn yr ardd fore Sadwrn

The Gentle Good a Patrick Rimes yn Galeri nos Wener

Y dorf yn cynhesu ar gyfer y gig yn y castell

Celt yn perfformio yn gig y castell nos Sadwrn

Alun Gaffey oedd yn gorffen y gig yn y castell nos Sadwrn

Gŵyl hapus = trefnwyr hapus
Hefyd o ddiddordeb: