Cynnal Gŵyl Arall Caernarfon am y 10fed gwaith
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 50 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws Caernarfon y penwythnos yma wrth i Gŵyl Arall gael ei chynnal am y 10fed gwaith.
Cafodd yr ŵyl gyntaf ei chynnal yn 2009 pan gafodd un o'r trefnwyr, Nici Beech, ei hysbrydoli gan ddigwyddiad tebyg yn Nhalacharn.
Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y dref dros y penwythnos, gan gynnwys yn y castell, Clwb Canol Dre, Galeri a Stryd y Plas.
Mae'r arlwy eleni'n cynnwys digwyddiadau cerddorol, celfyddydol a llenyddol.
Mae'r rhain yn cynnwys Ffotofarathon, sef cystadleuaeth ffotograffiaeth sy'n agored i bawb, a'r Pyb Crôl Lenyddol yng nghwmni beirdd lleol.
Bydd dros 15 o fandiau yn perfformio yn y castell hefyd, gan gynnwys Celt, Adwaith, Los Blancos a Candelas.
Dywedodd Ms Beech: "Mae'r Ŵyl bellach yn enwog am ei llu o ddigwyddiadau amrywiol, difyr ac unigryw a bydd gŵyl eleni yn ddim gwahanol.
"I rai, bydd cyfle i gael ffics o gerddoriaeth mewn awyrgylch hamddenol.
"I eraill, bydd yn gyfle i ymgolli mewn sgyrsiau, teithiau a chelf gan amrywiaeth o feirdd, llenorion, haneswyr ac artistiaid."
Mae mwy o wybodaeth i'w gael ar wefan Gŵyl Arall, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2017