Pam symud Parti Ponty 'o'r cyrion' i ganol y dref?

  • Cyhoeddwyd
jarmanFfynhonnell y llun, Irfon Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Jarman yn perfformio yn yr ŵyl ym Mharc Ynysangharad 2017 - mae hi'n symud i ganol y dref yn 2018

Mae Parti Ponty, gŵyl gerddoriaeth ac adloniant ym Mhontypridd, yn cyrraedd carreg filltir yn 2018 ac yn dathlu 20 mlwyddiant.

Mae'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 14 Gorffennaf, ac am y tro cyntaf mae'n symud o'i leoliad arferol ym Mharc Ynysangharad ar gyrion y dref, i ganol Pontypridd.

Ond pam?

"Yr ateb syml yw am nad ŷ'n ni ym Menter Iaith Rhondda Cynon Taf eisiau i'r Gymraeg fodoli ar y cyrion," esbonia Einir Siôn, prif weithredwr y fenter iaith sy'n trefnu'r ŵyl.

"Dydyn ni ddim eisiau i bobl orfod cymryd cam sydd y tu hwnt i hyder y mwyafrif a chamu oddi ar eu llwybr arferol i ganol byd y Cymry Cymraeg.

"Ry'n ni eisiau cymryd y cam tuag atyn nhw a chwalu'r ffin sy'n bodoli rhwng y Cymry 'di-Gymraeg' a'r rhai sydd wedi cael y fraint o ddysgu'r iaith hynafol, arbennig hon."

Disgrifiad o’r llun,

Gwynebau cyfarwydd? Criw o gyflwynwyr Radio Cymru a Radio Wales yn mwynhau y Parti Ponty cyntaf yn 1998

Dywed Einir fod "teimladau hanesyddol" yn achosi "ofn a diffyg gwybodaeth am yr iaith" yn yr ardal heddiw.

"Dydy neilltuo'r Gymraeg i gilfachau saff ddim yn mynd i newid y teimladau hyn," meddai.

"Felly, rhaid cymryd camau bras a dewr; nid i addysgu'r boblogaeth fel y cyfryw, ond yn hytrach i gynnig mwynhad torfol unedig trwy gyfrwng y Gymraeg gyda breichiau agored i bawb.

"Mae'r ŵyl hon yn ŵyl i bobl y sir a thu hwnt ac yn ymateb yn flynyddol i anghenion a gofynion ei phobl.

"Pwy ŵyr sut bydd yn esblygu. Dewis y bobl yw hynny.

"Dydy hi ddim yn fwriad gennyn ni i ddatblygu clôn o unrhyw ŵyl arall. Mae pobl a busnesau Rhondda Cynon Taf yn barod i agor eu breichiau i holl gynigion a manteision eu hiaith a'u diwylliant."

Annog pobl i wario yn y dref

Mae'r Fenter yn canolbwyntio ar ddarparu'r adloniant ar dri llwyfan yn nhref Pontypridd ac er mwyn annog pobl i ddefnyddio busnesau lleol dydyn nhw ddim yn trefnu arlwywyr na bar eu hunain.

"Rŷ'n ni'n annog ein mynychwyr i wario, bwyta ac yfed ym musnesau'r dref," meddai Einir Siôn.

Ffynhonnell y llun, Tristan Forward
Disgrifiad o’r llun,

Canol tref Pontypridd, cartref newydd Parti Ponty, lle mae'r trefnwyr yn annog pobl i wario ym mariau, siopau a thafarndai'r dref

"Ni sy'n darparu'r adloniant a chaiff y busnesau lleol fasnachu a gweld budd a manteision gweithredu'n Gymraeg.

"Nid gŵyl un diwrnod yn unig yw hon ond penllanw blwyddyn o hyrwyddo, datblygu a darparu cyfleoedd Cymraeg i bobl y sir."

Mae'r bandiau sy'n cymryd rhan yn cynnwys Candelas, Mei Gwynedd, Yr Oria, Fleur de Lys a Ragsy ac mae pentref ieuenctid yno hefyd - yr Ieuenctref - fydd yn cynnwys gweithgareddau cyfrifiadurol, gwyddonol, cerddorol a gemau ffair.

Mae'r ŵyl yn cynnal nifer o weithgareddau ac adloniant teuluol hefyd a gweithgareddau a sgyrsiau wedi eu trefnu yng Nglwb y Bont, clwb Cymraeg Pontypridd.

"Bydd y parti yn dechrau ac yn gorffen yng Nghlwb y Bont gyda Ffenestri yn canu eu clasuron o'r 80au ar y nos Wener ac arlwy anhygoel o gerddoriaeth ar y nos Sadwrn," meddai Einir Siôn.

Disgrifiad o’r llun,

Tyrfaoedd ym Mharc Ynysangharad ar gyfer y Parti Ponty cyntaf yn 1998

"Dewch allan o'ch cilfachau saff a dewch i ymuno yn ein parti stryd gynhwysfawr.

"Pam symud i ganol y dref? Am ei bod yn bryd mynd â'r Gymraeg at bawb, heb ffin, heb feirniadaeth, heb ofynion y tu hwnt i fwynhad ... gyda'n gilydd.

"Mae'r amser wedi dod i symud i ganol ein cymunedau, nid i aros ar y cyrion i fodloni ein hanghenion ein hunain. Mae'n bryd i ni gymryd y camau bras tuag at y Cymry di-Gymraeg yn hytrach na disgwyl iddyn nhw ddod atom ni o hyd."

Am yr holl wybodaeth am yr ŵyl ewch i: www.partiponty.cymru