Lluniau: Golygfeydd gaeafol fis Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi syrthio dros nos yn rhai o ardaloedd uchaf Cymru gyda rhew wedi achosi trafferthion ar rai ffyrdd a rhai ysgolion wedi cau.
Dyma ichi rai lluniau trawiadol o'r golygfeydd gaeafol dros y wlad.

Awyr las a haen o eira uwchben Treharris

Y wawr yn torri dros lynnoedd Glaslyn a Llydaw ar lethrau'r Wyddfa

Eira a barrug yn y bore bach yng nghymoedd de Cymru

Golwg ddramatig ar Ben Yr Ole Wen o Lyn Ogwen

Golygfa dros Lyn Pen-ffordd-goch, Blaenafon

Eira'n addurno'r stryd yn Y Tymbl ger Pwll Du

Panorama dros Frynmawr yn yr eira

Sgeintiad o eira ar Fryniau Clwyd

Modfeddi o eira ar safle Hostel Ieuenctid Bannau Brycheiniog, ond mae'n edrych yn glyd yn y cytiau pren!

Aran Benllyn yn wyn uwchben Llyn Tegid, Y Bala
Gallwch anfon eich lluniau chi atom drwy Twitter @BBCCymruFyw neu dros e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb: