Trafferth i deithwyr yn dilyn rhew dros nos yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd nifer o deithwyr broblemau fore Mercher yn sgil y tywydd oer dros nos.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod "sawl adroddiad" o ddamweiniau oherwydd amodau rhewllyd.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru dylid disgwyl "amodau gyrru peryglus" mewn mannau yn y dwyrain, yn enwedig yn Sir y Fflint.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y ffyrdd yn "rhewllyd iawn", gan alw ar yrwyr i gymryd gofal.
Roedd rhybudd melyn am rew mewn grym tan 11:00 fore Mercher.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd oedi i deithwyr ar yr A465 yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful, ar yr M4 ym Mhenllergaer ac Y Pîl, ac ar yr A40 yng Nghaerfyrddin fore Mercher.
Cafodd ffordd yr A470 ei chau yn Aberhonddu oherwydd eira hefyd.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod amodau gyrru yn anodd mewn sawl man, yn enwedig yn ardal Treffynnon, Sir y Fflint ac ar yr A55.
Dywedodd Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, Ysgol y Berwyn yn Y Bala a Choleg Y Drenewydd na fyddan nhw'n agor heddiw oherwydd problemau'n ymwneud â'r tywydd.
Yn Sir Ddinbych mae ysgolion Betws Gwerfil Goch a Thremeirchion wedi cau, yn ogystal ag ysgolion Bro Aled, Llannefydd a Phencae yn Sir Conwy.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd, mae'n bosib i'r rhew amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y wlad a bod angen i bobl gymryd gofal wrth gerdded a seiclo.
Roedd disgwyl i'r rhew effeithio ar rannau mewndirol yn hytrach na'r arfordir ac mae disgwyl cawodydd gaeafol yn ogystal.
Roedd y rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Loegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban hefyd.