Deg delwedd annisgwyl o Gymru yn yr eira

  • Cyhoeddwyd

Daeth eira a rhew dechrau Mawrth 2018 â golygfeydd newydd sbon i lawer ohonon ni:

1. Narnia ar stepen ein drws

Disgrifiad o’r llun,

Golygfa hudolus yng Nghaeau Pontcanna, Caerdydd...nid yn unig yr eira, ond y diffyg pobl!

2. Tu allan, tu mewn

Ffynhonnell y llun, Sion Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Yr eira wedi llwyddo i ddod mewn i arcêd y Stryd Fawr, Caerdydd i greu golygfa hudolus arall

3. Llewpart? Yn ei gynefin? Yng Nghymru?

Ffynhonnell y llun, Sw Mynydd Bae Colwyn
Disgrifiad o’r llun,

O'r diwedd, mae yna eira i Lewpart Eira Sŵ Mynydd Cymru, Bae Colwyn!

4. Angen wêdars yn yr ardd

Disgrifiad o’r llun,

Beth am eistedd wedi diwrnod caled o arddio?

5. Wynebau dieithr yn y cloddiau

Ffynhonnell y llun, Meurig Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r eira wedi ffurfio wyneb dieithr yng ngardd Meurig Davies ym Mhontgoch, ger Aberystwyth

6. Golygfa newydd o'r drws ffrynt

Ffynhonnell y llun, Laura Stephenson
Disgrifiad o’r llun,

Nid yn aml mae trigolion y Barri'n agor y drws ffrynt i'r olygfa yma

7.Sgïo ar y stryd

Disgrifiad o’r llun,

Braf cael y cyfle i sgïo...ar y stryd...ym Mhenarth!

8. Ewyn fel eira

Ffynhonnell y llun, Sally Tolladay
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n edrych fel eira, ond ewyn y môr wedi ei chwythu gan y gwyntoedd cryfion ym Menllech, Ynys Môn ydy hwn

9. Afonydd wedi rhewi

Disgrifiad o’r llun,

Anaml mae trigolion Caerdydd yn gweld Afon Taf wedi rhewi

10. Ceir wedi eu claddu

Ffynhonnell y llun, Jennie Griffiths/Gwasanaeth Tân De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fydd y cwpl yma yn y Bont Faen ddim yn mynd adre yn y car heno