Dathlu gwaith gofalwyr ar ddiwrnod Arwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
"Mae'n byd wedi altro yn llwyr."
Mae Jayne Evans yn rheoli cartref gofal Glyn Nest yng Nghastellnewydd Emlyn ac yn dweud nad yw hi erioed wedi gweld sefyllfa debyg i hyn erioed o'r blaen.
"Ond ry'n ni'n cefnogi'n gilydd ac yn trio 'neud ein gorau i'r 28 sy'n byw 'da ni yma yng Nglyn Nest."
I Jayne Evans a'i thebyg mae'r BBC wedi neilltuo dydd Iau, 7 Mai yn ddiwrnod Arwyr Cymru er mwyn diolch i weithwyr rheng flaen am ofal diflino mewn cyfnod a newidiodd bron dros nos.
'Bywyd wedi newid'
Mae cartref Glyn Nest yn eiddo i enwad y Bedyddwyr ac yn cyflogi 35 o staff.
"Mae bywyd wedi newid lot ac yn sydyn - ond ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y 28 ry'n ni'n edrych ar eu hôl yn iach ond hefyd yn hapus," ychwanegodd Ms Evans.
"Mae'n dawelach 'ma nawr - dim ymwelwyr ond ni wedi gorfod 'neud lot fwy o benderfyniadau fel staff. 'Dyw'r meddyg ddim yn dod mewn fel cynt - ymgynghoriad ar y we ry'n ni'n ei gael nawr ac ni'n gorfod 'neud lot mwy o observations ein hunain.
"Ni wedi dysgu lot am dechnoleg - er mwyn i'r teuluoedd gael siarad neu gweld eu hanwyliaid ond wrth gwrs, wrth edrych ar eu iPads mae nifer o'r trigolion yn dod i wybod mwy am be sy'n digwydd yn y byd.
"Dyw hynny ddim wastad yn beth da a 'na pryd wi'n gorfod gweud 'peidiwch â darllen hwnna - bant mae hynna dim fan hyn' ond does dim syniad 'da rhai o'n cleifion sydd â dementia be sy'n mynd mla'n."
'Cyfnod hir'
Ychwanegodd: "Ni wedi bod dros saith wythnos nawr ac mae'n gyfnod hir. Wrth i'r amser fynd mla'n mae rhai yn llefen mwy a mae'n galetach i bawb.
"Ni'n lwcus mae gardd 'da ni yn y cefn a mae nhw'n mwynhau mynd fanna ond rwy' i hefyd yn meddwl am deuluoedd y bobl 'ma.
"Yn aml pan fi wedi bod bant ar wyliau - wi'n gweld altrad a wi'n siŵr bydd teuluoedd yn gweld gwahaniaeth pan byddan nhw'n dod yma nesaf - pryd bynnag fydd hynny."
Wrth gael ei holi gan Cymru Fyw am brofion dywedodd Jayne Evans nad oedd hynny wedi effeithio ar y staff eto gan nad oes achos o Covid-19 yn y cartref.
"Ond mae'r cyfarpar i gyd yma - mae popeth yn barod," ychwanegodd y rheolwraig.
"Fi wedi trio'r wisg i gyd - a mi o'n i bron â phobi ond os bydd rhaid mi fyddwn, wrth gwrs, yn dilyn y canllawiau - y peth pwysicaf yw peidio colli dim un o'r 28 sydd 'ma.
"Ni fel teulu mawr - pan ma'n nhw'n dod yma gyntaf, fyddai wastad yn dweud 'dyma ddechrau eich bywyd chi, nid diwedd eich bywyd'."
'Y parti mwya' weloch chi erioed'
Eleni ym mis Medi bydd y cartref yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 a "phan fyddwn ni wedi dod mas o'r cyfnod yma, byddwn yn cael y parti mwyaf a weloch chi erioed - fydd 'na ddim budget," ychwanegodd Jayne Evans.
"Ni yn gwisgo masgiau - mae rhan fwyaf yn gwybod pam ond dim pawb a wi'n gweud wrthyn nhw 'gobeithio bod fy llygaid i yn dangos bo fi'n hapus'.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
"Mae colli'r wên yn anodd iddyn nhw rwy'n siŵr. Fi erioed wedi gweld cyfnod fel hwn - ni'n cael ambell gyfnod o norovirus ond dim byd fel hyn.
"Ond mae'n gyfnod lle mae pawb yn cefnogi ei gilydd - ry'n ni fan hyn wedi bod yn lwcus o gefnogaeth y Cyngor Sir [Caerfyrddin] a mae nifer yn y gymuned wedi 'neud masgiau a visors i ni.
"Wi'n ofni bydd pethe fel hyn am rai misoedd eto - ond ni gyd yn cefnogi ein gilydd er mwyn darparu y gofal gorau posib i'n deiliaid - ac yn edrych ymlaen at y parti mawr 'na pan fydd hyn i gyd drosodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2020