Cwestiwn ag ateb: Profion coronafeirws yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Pam mae profi am Covid-19 yn bwysig?
Mae'r profion Covid-19 yn galluogi pobl i gael cadarnhad os ydynt wedi dal yr haint, ac mae hefyd yn darparu gwybodaeth am ymlediad coronafeirws.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Vaughan Gething fod dau brif reswm am y profion: "Lleihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan coronafeirws, a helpu pobl a gweithwyr proffesiynol i fynd yn ôl i'w bywydau arferol."
Pryd ddechreuodd Cymru brofi?
Fe ddigwyddodd y prawf cyntaf ar 29 Ionawr eleni. Profwyd pobl yn dychwelyd gyda symptomau o wledydd oedd wedi eu heffeithio gan coronafeirws yn gyntaf, ac yna pobl oedd mewn ysbytai gyda symptomau. Cynigiwyd profion hefyd i staff rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol, gyda thua un o bob pum prawf yn cael eu cynnal ar weithwyr gofal iechyd.
Faint o bobl sy'n cael eu profi?
Ar 7 Ebrill dywedodd Vaughan Gething fod "mwy na 15,000 o brofion" wedi'u cynnal hyd yma, a bod bron i 75% o'r profion hynny wedi bod yn negyddol.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, fod y gallu yng Nghymru i gynnal 1,300 o brofion y dydd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y nifer yma ar gynnydd.
Ydyn nhw'n profi cymaint o bobl â hynny ar hyn o bryd?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef nad oes digon o brofion wedi digwydd ers lansio gwasanaeth profion gyrru-i-mewn cyntaf Cymru yr wythnos diwethaf.
Yn ei ddiweddariad dyddiol i'r wasg ar ddydd Mawrth 14 Ebrill, dywedodd Mr Gething ei fod yn "poeni nad ydym bob amser yn defnyddio'r holl brofion sydd ar gael," a galwodd ar awdurdodau lleol i gyfeirio mwy o staff critigol i gael eu profi yn y ganolfan brofi gyrru-i-mewn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae'n dilyn beirniadaeth fod y ganolfan honno ar gau ddydd Llun y Pasg oherwydd diffyg galw.
Pryd fydd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cael eu profi?
Erbyn diwedd mis Ebrill dywed Llywodraeth Cymru y bydd 9,000 o brofion yn cael eu cynnal bob dydd.
Mae hyn yn cynnwys 5,000 o brofion gan labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru, a 4,000 o brofion eraill fydd yn cael eu dadansoddi fel rhan o'r drefn brofi ledled y DU.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio labordai preifat, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu rhedeg gan gwmni diagnostig Roche o'r Swistir.
Pa fath o brawf sy'n cael ei ddefnyddio?
Mae profion antigen yn cael eu defnyddio, sy'n cynnwys cymryd swab o'r trwyn neu'r gwddf i chwilio am arwyddion o ddeunydd genetig y firws.
Mae'n cymryd o leiaf 24 awr i gael y canlyniad yn ôl o'r labordy. Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oes prinder peiriannau i gynnal y profion, ac mae'r corff wedi derbyn llawer o gynigion gan labordai i ehangu'r gallu i brofi.
Beth am brofi am imiwnedd pobl rhag yr haint - y prawf gwrthgorff?
Prawf gwaed yw'r prawf gwrthgorff sy'n edrych am arwyddion o imiwnedd, ac mae'n brawf llawer cyflymach i'w gynnal. Gellir ei wneud gyda phigiad pen pin a pheiriant poced bychan.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn chwilio am brawf gwrthgorff dibynadwy ar hyn o bryd.
Mae citiau profi gwrthgyrff eisoes yn cael eu treialu yng Nghymru, ond mae pryder nad yw llawer ar y farchnad yn ddigon dibynadwy.
Gallai canlyniad "ffug gadarnhaol" roi tawelwch meddwl i unigolion allai fod yn beryglus, yn enwedig os ydyn nhw'n weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
Beth sy'n digwydd mewn canolfannau prawf gyrru-i-mewn?
Mae gan Gymru un ganolfan brofi gyrru-i-mewn yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac yn fuan bydd un arall yn agor yn Rodney Parade yng Nghasnewydd. Mae canolfannau profi gyrru-i-mewn yn cael eu sefydlu hefyd yn y gogledd a'r gorllewin.
Mae'r canolfannau'n cael eu hagor fel rhan o'r drefn brofi ledled y DU ac yn defnyddio'r prawf antigen i swabio gweithwyr allweddol am arwyddion o coronafeirws.
Maen nhw'n yn cael eu staffio gan swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhai staff o gwmni Deloitte, sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu'r canolfannau profi newydd.
Pwy sy'n cael ei brofi yn y canolfannau gyrru-i-mewn?
Ni all unrhyw un yrru i gael prawf yn y canolfannau newydd hyn - rhaid derbyn gwahoddiad.
Agorodd y ganolfan yng Nghaerdydd ar 7 Ebrill gyda'r gallu i brofi 200 o bobl y dydd. Rhoddwyd blaenoriaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol oedd yn arddangos symptomau i ddechrau, neu weithwyr oedd yn hunan-ynysu oherwydd bod gan rywun yn eu cartref symptomau.
Bydd gweithwyr hanfodol eraill hefyd yn cael eu gwahodd am brofion, gan gynnwys staff yr heddlu a charchardai, y gwasanaeth tân a phersonél milwrol sy'n cynorthwyo gyda'r ymateb i coronafeirws.
Mae'r holl weithwyr sydd yn derbyn gwahoddiad i fynychu canolfan yn cael eu cyfeirio yno gan eu cyflogwyr a'u hawdurdodau lleol.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020