Oriel: Eich lluniau o'r Sioe Frenhinol dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Yn ystod yr wythnos hon fel arfer, fe fyddai'r Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal, a miloedd o amaethwyr yn tyrru i Lanelwedd i fwynhau'r cystadlu a'r cymdeithasu.
Gan fod y Sioe, fel pob digwyddiad tebyg, wedi ei gohirio oherwydd coronafeirws, mae Shân Cothi yn cynnal Wythnos Sioe Fawr Shân ar BBC Radio Cymru.
Ac mae gwrandawyr y rhaglen wedi bod yn anfon eu lluniau amrywiol o wahanol gategorïau o sioeau'r gorffennol aton ni - o'r moch i'r defaid, y ceffylau i'r courgettes. Dyma ddetholiad o'r lluniau:

Mae Gwenllian Evans sy'n 12 oed o Drefenter yn cystadlu gyda'i defaid Jacob ers pedair blynedd. Dyma Gwenllian gyda'i hwrdd blwydd oed, Gwenerin Arwel.

Cwpan y Frenhines yn dod adre i Mr a Mrs Huw Williams, Glynglas, Porthyrhyd, Llanwrda. Yn 2018 enillodd y teulu gyda hwrdd blwydd y bencampwriaeth yn y categori Defaid Mynydd Cymreig Balwen, gan ail fyw y profiad yn 2019 gyda'r un hwrdd.

Dafad Bluefaced Leicester Tom ac Idwal Jones, Aberhonddu yn y Sioe Frenhinol.

Enlli Pugh ar ei cheffyl.

Mrs C E Owen anfonodd y llun yma, o Sioe Frenhinol 2016.

Gwyn a Shân ag un o geffylau hardd Tîm Gyrru Tristar 2019.

Friars, Diamond Wedding. Pencampwr y Merlod Mynydd Ifanc o dan 3 oed.

Friars, Still My Sunshine. Pencampwr Merlod Mynydd Cymreig 2013.

Cynnyrch Catherine Evans o Sefydliad y Merched, Tregaron.

Clustog gan Sandra Russell o Sefydliad y Merched, Llanddewi Brefi.

Defaid Eirwyn Richards, Cwmcelynen, Ffarmers - Pencampwyr Gwobr Teulu Lloyd.

Defaid Jacob Teulu Harries, Hope Farm, Taliaris.

Idwal Jones a'i fab Tommy Jones Aberhonddu, gyda'u defaid Cymreig.

Tori Thomas a'r ceffyl Penstrumbly Our Latif, yn y Sioe Frenhinol, 2019.

Y diweddar Lilian Evans, teulu Moch Teifi, Aberteifi yn y Sioe Frenhinol.

Mochyn Teifi, Fferm Troedyraer, Aberteifi yn cystadlu yng nghylch y Moch.

Rose ar ei cheffyl, Conan.

Charolais ifanc ar ffarm Rhiwlwyd, Dôlgrân, Pencader. Jason a Nerys Thinas yw'r ffermwyr.

Cardigan a siwmper gan Lavinia Cohn Sherbok o Sefydliad y Merched, Bwlchllan.

Soffia Cynwyl, 14 mlwydd oed o Aberteifi ar ei cheffyl.

Shân Cothi a'i cheffyl Caio yn ennill pencampwr Adran y Veterans yn sioe Wanwyn Celaeron - yn 23 oed bryd hynny, yn 25 nawr!
Hefyd o ddiddordeb: