Dim Sioe Fawr yn her i les ac iechyd y gymuned wledig
- Cyhoeddwyd
Yn binacl y calendr amaethyddol, mae colli'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni yn mynd i gael effaith nid yn unig ar yr economi, ond ar les ac iechyd y gymuned wledig.
Dyna bryder arweinwyr cymunedol, wrth i unigrwydd ddod yn fwyfwy amlwg yn sgil misoedd o hunan-ynysu i rai, oherwydd y pandemig.
Heb y Sioe Fawr, bydd hon yn wythnos heriol i rai, yn ôl yr Hybarch Eileen Davies, Ymgynghorydd Materion Gwledig yr Eglwys yng Nghymru.
"Dyma'r wythnos lle bydden ni i gyd wedi cael 'chydig o wylie, cyfle i ddod at ein gilydd i gwrdd â ffrindie, bobol ry'n ni ond yn eu gweld falle unwaith y flwyddyn," meddai.
"Fel 'wedodd ffarmwr wrtha'i yn ddiweddar - ni'n codi'n bore, ni'n gweithio, ni'n mynd i gysgu'r nos, a ni'n codi eto bore trannoeth. A'r un yw'r patrwm - s'dim byd 'da ni i edrych ymlaen ar ei gyfer."
Mae hi'n pryderu y gallai hynny effeithio ar iechyd meddwl ffermwyr, gan fod y Sioe yn ddihangfa i gynifer o amaethwyr.
"Rwy'n ofni y bydd hi'n wythnos ddiflas iawn i nifer fawr o bobl," meddai.
Blwyddyn siomedig
Ar fore Llun arferol y sioe, sied y defaid yw cartre'r teulu Brown o Lanpumsaint, Sir Gaerfyrddin.
Maen nhw wedi bod yn cystadlu gyda'u defaid torddu a thorwen yn Llanelwedd ers chwe blynedd, ac i'r chwiorydd Sara a Cerys, mae'n flwyddyn siomedig.
"Wythnos cyn y sioe, ry'n ni allan yn paratoi'r defaid, yn brwsho, golchi a trimio nhw," meddai Cerys. "S'neb yn sylwedoli faint o waith yw e. A nawr bo ni ddim yn ei neud e, ni wir yn colli fe."
"Ni yn colli bod mas ar y ffarm yn 'neud y defaid, achos roedd e'n rhywbeth i edrych ymlaen ato, ac i gael ni mas o'r tŷ," meddai Sara. "Gobeithio y bydd pethe bach mwy normal y flwyddyn nesa'."
Mae Sara hefyd yn poeni am yr effaith ar bobl ifanc.
"Mae'n golled fawr, yn enwedig i'r Ffermwyr Ifanc," ychwanegodd. "Oedd y YPV [Y Pentref Ieuenctid] yn dod ag elw."
A bydd Cerys hefyd yn colli'r cymdeithasu. "Fynna yw gwylie ni fel teulu," meddai, "achos dyna'r unig amser ni'n cael i fwynhau 'da'n gilydd a chymdeithasau. Mae e'n eitha' trist."
I'w mam, Meleri Brown, mae'r sioe yn llawer mwy nag wythnos o gystadlu.
"Mae e'n flynydde nid jest wythnose o baratoi. Ni 'di dechre adeg wyna llynedd, a gweithio mas be' sy'n deilwng i fynd i'r sioe, a datblygu nhw dros y blynydde. A'r pinacl yw'r Sioe Fawr, a gweld be sy'n siwto, ac yna meddwl be sy'n siwto'r beirniad y flwyddyn honno. A ni 'di colli mas ar flwyddyn gyfan o arddangos."
"Mae'r misoedd diwethaf wed bod yn heriol. Mae 'di bod yn galed ar brydie... Ma'r nosweithiau yn mynd lot yn gynt pan ni mas 'da'r defaid yn paratoi. Ac wrth gwrs, ry'n ni'n gwneud hynny fel teulu."
Mae Cymdeithas Y Defaid Torddu a Thorwen yn arfer cwrdd ar nos Lun y sioe.
"Achos bo ni'n dod o bob cwr o Gymru, dyna pryd ni'n cael cyfle i ddod at ein gilydd a chymdeithasu, ond nid eleni," ychwanegodd.
Fe fydd y teulu Brown yn gwylio'r Sioe Rithiol a fydd yn cael ei darlledu ar S4C.
"Fe wnewn ni wylio ond fydd e ddim yr un peth. Ond os fydd y tywydd yn ffein, gobeithio y gall cwpwl ohonon ni gwrdd mewn gardd i gael dathlu."
'Rhyfedd iawn eleni'
Mae Peter Howells yn un o leisiau cyfarwydd y prif gylch, wrth iddo sylwebu yno bob blwyddyn. Gweddill y flwyddyn, mae'n gwerthu cynnyrch amaethyddol.
"Wi yn mwnhau yn enfawr cael mynd i Lanelwedd, er bo' fi'n gorfod 'neud bach o waith yna yn y prynhawniau. Bydd hi'n rhyfedd iawn eleni," meddai.
"Allwn ni byth ag achwyn, achos ma' bobol wedi bod yn sâl a cholli bywyde yn y pandemig, ond mae'n mynd i fod yn golled aruthrol i gefn gwlad Cymru, ar sawl lefel.
"Mae'r sioe yn mynd i fod ar ei cholled yn ariannol, ond hefyd ma' bobol ifanc yn arbennig yn mynd i golli mas, a ma' nhw 'di cael amser caled yn y misoedd diwethaf, heb y clybie ffermwyr ifanc i gymdeithasu. "
Mae Peter Howells yn arfer gweld pobl yn Llanelwedd nad yw'n eu gweld am weddill y flwyddyn ac mae'n e'n poeni hefyd am bobl hŷn.
"Yn rhinwedd fy swydd o ddydd i ddydd, wi'n arfer ymweld â ffermwyr. Da'th hynny i stop a wi'n siŵr bod e'n gallu effeithio ar iechyd meddwl rhai ohonyn nhw.
"Ma'r genhedlaeth ifanca' yn gyfarwydd â'r cyfrynge cymdeithasol. Dwi'n dod i ben â chyfathrebu â nhw, ond ma' lot o'n ffermwyr ni yn eu 60au a 70au, a ddim yn gyfarwydd â chyfrifiaduron, ac felly yn ei ffeindio hi'n anodd i gyfathrebu dros y ffôn yn unig."
Poeni'n fawr
Mae'r Hybarch Eileen Davies hefyd yn sylfaenydd elusen Tir Dewi, sy'n cynnig gwasanaeth cymorth. Mae hi'n poeni y bydd rhai yn digalonni yr wythnos hon, oherwydd y gwacter heb y sioe.
"Ry'n ni 'di gweld mwy a mwy o alwadau yn ddiweddar, a'r galwade hynny gan bobl sy' am gael cyfle i sgwrsio â rhywun, achos bo' nhw'n teimlo bod yr amser wedi bod mor hir. A 'ma llawer un hefyd wedi gorfod hunan-ynysu am fisoedd. Dwi yn poeni'n fawr iawn am y sefyllfa "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2020