Oriel: Y straeon tu ôl i luniau Arwyn ‘Herald’

  • Cyhoeddwyd
Bryn Fôn yn cael ei hebrwng gan ddau heddwasFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Ar ôl gweithio fel ffotograffydd i bapurau newydd gogledd Cymru am 45 mlynedd mae Arwyn Roberts wedi dogfennu'r degawdau diwethaf - o'r difri' i'r digri'.

Ag yntau wedi rhoi'r gorau i'w swydd gyda'r Caernarfon and Denbigh Herald a'r Daily Post, dyma'i ddewis o'r lluniau sy'n crisialu ei gyfnod ar y papurau - a'r stori tu ôl i'r llun.

Meibion Glyndŵr

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi bod yn lwcus ofnadwy i gael byw a thynnu lluniau mewn cyfnod cyffrous. Roedd cymaint o bethau yn digwydd.

Mae hwn ar ben y Lôn Wen, wrth Rhosgadfan, yn '86, ond dwi'n cofio unwaith cael galwad ffôn yn dweud bod tŷ haf ar dân yn Fachwen.

I fyny â fi - ro'n i yna cyn y frigâd dân a'r heddlu. Dw i ddim yn gwybod pwy ffoniodd, a lle gafon nhw'n rhif i - ond gesh i bach o drafferth ar ôl hynny.

Bob tro roedd ffôn y tŷ yn canu roedd rhyw clics yn mynd off ac os o'n i'n dod adra gyda'r nos roedd 'na gar Sierra Cosworth yn dod i fyny pentre' a pharcio ddim yn bell o'r tŷ.

Sierra Cosworth?! Doedd neb yn fama efo Sierra heb sôn am Sierra Cosworth.

Arestio Bryn Fôn

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr actor a'r canwr Bryn Fôn ei ryddhau ar ôl ei gyhuddo ar gam yn 1990 o fod yn rhan o'r ymgyrch llosgi tai haf

Gesh i alwad ffôn i fynd lawr i Ddolgellau dydd Mercher a nesh i ddim symud o'r lle tan 10 o'r gloch nos Wener - heb newid dillad a heb folchi na dim byd.

Roeddan ni wedi parcio ein ceir tu allan i le'r heddlu, ac roeddan ni tu allan i fanna drwy'r amser wedyn efo myfyrwyr oedd yno i gefnogi Bryn Fôn yn dod â chips i ni.

Nos Iau, roedd 'na bach o gyffro. Roedd o'n cael ei symud - a dw i'n meddwl mai hwn ydi'r llun ohono'n mynd i lys Dolgellau am un o'r gloch y bore, iddyn nhw gael caniatâd i'w gadw i mewn am hirach.

Doedd neb yn gwybod be' oedd am ddigwydd nesa', felly doedda' ni methu symud.

Grŵp 'dawnsio' gwahanol

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Wna i byth anghofio hwn. Doedd rhywbeth fel hyn erioed 'di digwydd yng Nghaernarfon o'r blaen ac roedda' nhw'n ciwio o'r Majestic, heibio Capel y Dre a heibio'r llyfrgell - welish i erioed ddim byd tebyg a wela i byth eto chwaith.

Yr unig ddynion yna oedd fi, pedwar bownsar, cameraman a chyflwynydd Heno. Roedd y grŵp yn hwyr yn cyrraedd a dw i'n cofio un o'r bownsars yn deud: 'Dwi'm yn gwybod os ydi nhw am droi fyny - os 'di nhw ddim, dwi ddim yn mynd i mewn i fanna i ddeud wrth rhain'.

Roedd yr atmosffer yn wallgo' llwyr. Dyma fi'n mynd fewn a sgen i ddim cywilydd deud ro'n i mor ofnus, nesh i fynd tu ôl i ddesg y DJ a chau'r drws - a thynnu lluniau o fanno. Roedd pobl wedi bod yn twt-twtian am y peth, ond roedd mamau, neiniau a'u plant wedi mynd yno.

Claddu miliwnydd

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Mae hwn yn mynd nôl i '91. Angladd boi oedd yn filiwnydd ac yn byw yn America, Jack Evans oedd ei enw fo - hogyn o Borthmadog. Gafodd o ei crematio yn America a chladdu ei lwch ym mynwent Porthmadog, a'i ddymuniad o oedd fflio jazz band go iawn yr holl ffordd o New Orleans i Borthmadog.

Roedd cart a cheffyl yn cario'r llwch ac roedd o fatha carnifal yn mynd drwy'r stryd a'r lle yn llawn dop o bobl.

Roedd o'n anhygoel, wna i byth anghofio hynny. Dyna dwi'n licio am y job. Ti'n cael profiadau fasa ti byth yn cael fel arall.

Dwi'n licio'r llun yma - y dyn yma sy'n arwain yr orymdaith ac mae o'n edrych fyny i'r awyr a'r het ar ei galon.

Tip-off

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts / Daily Post

Roedd hwn yn 2017. Ro'n i wedi cael tip-off ac esh i am dro i fynwent Llanfaglan, o flaen y Foryd. Pwy oedd yno ond criw o'r cyngor.

"Be' 'da chi'n 'neud?" medda fi. "O, tacluso'r wal," medda nhw. "O ia," medda fi, "ym mis Rhagfyr?!" A dyma un o'r cyngor yn deud "Ti'n gwybod dwyt?"

Er bo' fi ddim yn gwybod nesh i ddeud "yndw"… a dyma nhw'n dweud "paid â deud wrth neb - ti'n dod yma fory?" Felly trwy beidio dweud bod fi ddim yn gwybod o'n i wedi cael mwy o wybodaeth a nesh i fynd yno'r diwrnod wedyn.

Pwy weli di yn y llun efo cefnau atoch chi… y boi top hat… hwnna ydi brawd Lord Snowdon. Y ddynes efo bag rownd ei chanol - merch Princess Margaret ydi hi, a'r gŵr â'i gefn ata chdi yn y pen un un ydi'r Lord Snowdon presennol.

Felly hwn ydi angladd Lord Snowdon a doedd neb yn gwybod amdano fo heblaw amdana fi.

Coron Fach i'r Tywysog

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Roedd Charles wedi dod i Gaernarfon ac yn cerdded i lawr Palace Street ac aeth o i mewn i'r Goron Fach a phawb yn ei ddilyn o i mewn wrth gwrs.

Achos mod i'n hogyn lleol, ro'n i 'di mynd rownd ffordd arall a 'di mynd trwy'r toilet ac ati a chyrraedd y bar ffordd hollol groes i bawb arall.

Roedda' nhw'n nabod fi achos mod i 'di tynnu llun Charles sawl gwaith o'r blaen, felly roedda' nhw'n gwybod pwy o'n i a gadael fi yna a gesh i lun ohono fo'n cael ei wisgi gan Al Wern. Mae pawb arall yn cael eu gwasgu ochr arall - ro'n i'n lwcus.

Be' oedd yn ddifyr oedd ei fod o 'di mynd i mewn i dafarn o'r enw y Goron Fach, achos tydi o ddim cweit yn frenin nachdi - un bach ydi o de, Tywysog.

O 'Steddfod i 'Steddfod

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi gwneud pob un Urdd ers 1982 ym Moduan, a dw i wedi gwneud pob un Eisteddfod Genedlaethol ers Caernarfon yn 1979. Dw i'n gobeithio gwneud mwy hefyd fel ffrilans pan fyddan nhw'n dechrau eto.

Mae 'na lwyth sy'n canu heddiw, a dw i'n cofio nhw'n blant bach yn tyfu fyny, ac maen nhw rŵan yn gantorion o fri. Mae rhywun yn cael pleser o weld rhywun yn blaguro a chyrraedd safon uchel - pobl fel Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion, Steffan Lloyd Owen.

Dw i wedi tynnu llun Bryn Terfel sawl gwaith ers pan roedd o yn yr ysgol. Hwn ydi'r llun ola' o Bryn yn cystadlu mewn 'Steddfod am y tro diwetha' - yn 'Steddfod Bro Madog yn 1987.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Arwyn Roberts ei urddo yn 2005 am chwarter canrif o wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol a 30 mlynedd o wasanaeth i newyddiaduraeth. Ei fam a'i gyfneither sy'n dathlu gydag o.

Llun hanesyddol

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Hwn ydi'r llun cynta' o bedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru yn mynd i mewn i'r Senedd efo'i gilydd ar ôl i Cynog, Ieuan, Dafydd ac Elfyn gael eu hethol. Dim ond tri oedd wedi bod cyn hynny. Es i lawr efo nhw ar y trên o Fangor, efo llwyth o gefnogwyr.

Roedd hwn o flaen y porth sy'n mynd mewn i Dŷ'r Cyffredin - ond cyn hyn roeddan nhw i gyd tua 500 llath i ffwrdd yn tynnu lluniau. Am bod y Welsh Nationalists i mewn roedd cyfryngau Llundain efo diddordeb doedd.

Roedd Dafydd Wigley yn chwilio amdana i - ro'n i'n nabod Dafydd ers y cyfnod cynnar - a dyma fi'n gweiddi ac mi welodd Dafydd fi a thynnu'r lleill efo fo a mynd o flaen y giât yma. Y peth nesa' dyma tua 20 ffotograffydd yn rhedeg lawr a fi'n cael fy ngwasgu yn erbyn y ffens a dwi'n cofio un yn deud "how have you got four MPs to move down there for you?"

Cymry yda ni 'de.

Arweinwyr gwlad

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi tynnu llun bob un Prif Weinidog o Callaghan i Gordon Brown.

Dyna'r unig dro i mi gyfarfod Margaret Thatcher - roedd hi'n agor Ysbyty Gwynedd yn 1987. Doedd yna ddim croeso iddi nes mlaen wedyn nagoedd.

Dw i'n cofio hi'n dod i mewn a sefyll wrth y gwely a symud ei phen yn araf deg fel bod pawb yn cael y llun.

Damwain RAF 1993

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tri o bobl ifanc wedi i'r hofrennydd fynd i drafferthion a phlymio i Lyn Padarn

Ym Mhwllheli o'n i, yn '93, dyma fi'n cael galwad ffôn - 'ei di fyny i Lanberis, Ben Llyn? Mae 'na ddamwain'.

Off a fi a meddwl bod damwain car neu lori - tan gyrhaeddais i a dyma be oedd 'di digwydd.

Ro'n i yna am dri diwrnod. Roedd yn ofnadwy o drist. Yr un peth sy'n sefyll yn y co' ydi pan ddaethon nhw â'r sgerbwd hofrennydd allan o'r llyn, fasa ti wedi clywed pin yn disgyn - doedd neb yn deud dim byd a phobl ddim yn gwybod be' i ddweud.

Streic Fawr y Blaenau

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Streic Llechwedd - roedd y chwareli i gyd ar streic nôl yn '86. Un o'r streics mwya' ar ôl Chwarel Penrhyn.

Dw i'n cofio'r chwareli i gyd wedi cau a dim byd yn mynd mewn nac allan. Roedd hi'n gyfnod hir iawn a'r unig beth dw i'n cofio ydi pobl yn dod o ardal glowyr y de ac yn dod â pharseli bwyd i fyny i'r siopa yn Blaenau.

Asiffeta!

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi tynnu lot o luniau o'r rhain dros y blynyddoedd. Hwn ydi'r ffilm Dolig wnaethon nhw ar Stryd Llyn, Caernarfon.

Dim ots lle roedda ti'n mynd adeg hynny roedd George, Mr Picton neu Sandra yn rhywle - mewn carnifal neu rywbeth.

Be' dw i'n licio am y llun ydi'r hogyn bach yn sbecian drwy'r goeden i sbïo arnyn nhw, mae o'n briliant. Mae pethau tu cefn i'r llun yn aml yn fwy difyr.

Hollywood yn dod i Borthmadog

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi cynnwys hwn achos mae 'na gymaint o ffilmiau cenedlaethol wedi eu gwneud o gwmpas yr ardal.

Hwn oedd premier y ffilm First Knight - a'r carped coch yn Colosseum Porthmadog. Roedd o wedi ei ffilmio yn Llanberis, Trawsfynydd a bob man, a hwn yn dod â glamour i Borthmadog.

Friction Dynamics

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Ro'n i yno o'r diwrnod cynta', yn cerdded efo nhw pan gafon nhw eu cau yn y giât.

Nesh i lwyth o waith yn y cyfnod efo nhw yno, ac yn yr achos llys yn Lerpwl. Wna i fyth byth anghofio'r rali gatho nhw yng Nghaernarfon - welish i ddim byd mo'i thebyg yn y dre. Daeth pawb i Gaernarfon i'w cefnogi nhw. Nesh i ac Ian Edwards a Trystan Pritchard gyhoeddi llyfr am yr hanes wedyn.

Byd arall

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts/Daily Post

Dyma un o'r llunia' diwethaf i fi dynnu i'r Daily Post. Dechrau'r flwyddyn yma oedd hi a'r ciw a'r holl draffig ar ochr y Wyddfa tra roedd bob man arall wedi cau oherwydd Covid.

Gafodd y llun yma ei rannu ar hyd gwefannau cymdeithasol ar draws y byd achos roedd pobl yn dangos hwn efo lluniau eraill o Milan, Barcelona a Paris yn wag - ac Eryri yn llawn.

Mae pethau wedi newid. Ar y dechrau, roedda ti'n tynnu llun a sychu negs efo sychwr gwallt ac roedd hi'n bump diwrnod nes i bobl weld y llun [mewn papur wythnosol fel yr Herald].

Ond roedd miliynau o bobl wedi gweld y llun yma o fewn oriau.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig