Oriel Fy Milltir Sgwâr: Dyffryn Peris
- Cyhoeddwyd
Dros y flwyddyn diwethaf mae crwydro o gwmpas y filltir sgwâr wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd i nifer fawr o bobl.
Dyma luniau gan Bryn Jones wrth gerdded llwybrau ardal llechi Dyffryn Peris yn ystod y cyfnod clo diwethaf.
Gwawrio dros Lyn Padarn.
Y llyn yn adlewyrchu pentref Llanberis yn ystod y cyfnod clo - llonydd.
Mae Llanberis yn denu degau o filoedd o dwristiaid bob blwyddyn, ond ar hyn o bryd mae atyniadau fel Amgueddfa Lechi Cymru yn wag.
Dau o hen lwybrau i'r gwaith: grisiau Castell Dolbadarn, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr 800 mlynedd yn ôl, a'r 'zig zag' drwy'r tomennydd llechi i chwarel Dinorwig.
Caewyd Chwarel Dinorwig yn 1969, ond mae digon o lwybrau cerdded mewn rhannau ohoni.
Arwydd o fywyd ym Maracs Môn, lle'r oedd chwarelwyr yn aros yn ystod wythnos waith.
Erbyn hyn mae pwerdy hydro yng nghrombil Elidir Fawr, wrth lan Llyn Peris.
Dwy gamfa yng Nghoed Dinorwig yn dangos bod popeth â'i rinwedd. Tra bod pren yn ysgafn i'w gario, dim ond unwaith sy'n rhaid cludo'r llechen...
... a petai hwn ar bapur, byddai gwaith crefftus un gweithiwr wedi hen ddiflannu.
Arwydd o gynni...
Pentref Brynrefail yn y cysgod, tra bod Pen y Bigil yn mwynhau'r haul ar ddiwedd y dydd.
Swper cyn i olau'r haul ddiflannu.
Yr olygfa tua'r gorllewin - Tre'r Ceiri, Yr Eifl, Mynydd Gwaith a Bae Caernarfon.