Bywyd mewn lluniau: Y gitarydd Rhys Parry

  • Cyhoeddwyd
CiFfynhonnell y llun, Rhys Parry

Mae Rhys Parry yn wyneb cyfarwydd yn y byd celfyddydol ers blynyddoedd fel gitarydd bandiau Bryn Fôn - ond mae ganddo ddiddordeb mawr hefyd mewn ffotograffiaeth.

Gyda'r holl gigs wedi eu canslo oherwydd y cyfnod clo mae wedi cael cyfle i arbrofi gyda phortreadau a thirluniau o gwmpas ei gartref ym Methesda.

Tynal Tywyll

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Hwn ydi'r Tynal Tywyll wnaeth y grŵp enwi eu hunain ar ei ôl nôl yn yr 80au.

"Mae hwn ar fore hydref yn amlwg, a ro'n i jest yn hoffi'r ffordd mae lliwiau'r dail yn cario ymlaen drwy'r twnnel efo lliw'r golau. Dwi'n mynd drwy'r twnnel yma wrth seiclo i'r gwaith bob dydd, mae'n arbennig o dda - mae'n golygu ti ddim yn gorfod mynd i fyny'r allt, ond mynd syth drwy'r mynydd yn lle."

Wil Tân

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Dwi wedi cyfansoddi dipyn o ganeuon ar albwm Wil Tân ac yn chwarae gitâr arno, a wnaeth y cwmni recordiau ofyn i mi dynnu lluniau ar gyfer ei CD.

"Roedd mab Wil wedi cael tynnu ei lun ar gyfer y CD gyntaf felly wnaeth Wil ddeud bod yn rhaid iddo gael ei ferch ar hwn. Be' dwi'n licio am hwn ydi bod y ddau ohonyn nhw'n cerdded yn union efo'i gilydd a'u traed yr union 'run fath - tad a merch.

"Mae'r ci fel bod o'n edrych arnyn nhw ac yn meddwl yr un peth. Nes i ddim sylwi tan nes 'mlaen pan wnaethon ni weld y llun."

Afon Caseg a'r Elen

Ffynhonnell y llun, RHYS PARRY

"Roedd hwn ddechrau Chwefror eleni pan oedd hi'n oer iawn a bob man wedi rhewi. Mae hwn yn long exposure i gael yr effaith efo'r dŵr.

"Ges i fraw o weld y rhew ar y cerrig. Fel arfer mae rhywun yn gweld llunia' fel hynny o Wlad yr Iâ. Ti byth yn gwybod be' ti am weld - dyna sy'n ei gadw'n sialens a'i wneud yn ddifyr."

Hunan-bortread

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Nesh i chwarae o gwmpas efo flashes efo hwn - un o'r ochr ac wedyn defnyddio snoot - fel rhywbeth ti'n rhoi ar y flash i'r golau fynd i un lle, sef ar fy mysedd a chanol y gitâr fan yma.

"Nesh i astudio cerdd ym Manceinion, ac wedi bod mewn bands ers yn ysgol. Un noson ro'n i adra efo'r teulu yn Wyddgrug a gesh i alwad i helpu allan mewn gig Sobin a'r Smaeliaid yn Rhyl.

"Nesh i sightreadio'r gig, roedd hynny tua Dolig 88-89, ac wedyn mis Ebrill wnaethon nhw ofyn i fi eto i wneud un arall, a 'chydig wedyn wnaeth Bryn ofyn i fi fod yn y band.

"Ro'n i'n rhan o fand y Noson Lawen am 11 mlynedd ac yn gwneud lot o gyfresi teledu - fel Tecwyn y Tractor. Mae'n ddoniol pan dwi'n siarad efo rhai o'r myfyrwyr sy'n dod o gefndir di-Gymraeg. Does dim cefndir o fandiau Cymraeg - ond maen nhw i gyd yn gwybod am Tecwyn y Tractor."

Afon Lloer

Ffynhonnell y llun, RHYS PARRY

"Mae hwn yn lleoliad ti'n gweld yn aml ar social media rŵan. Ti'n edrych ar Instagram ac mae ffotograffiaeth wedi mynd yn rili poblogaidd - mae bron fel bod yna checklist o lefydd ti'n gorfod eu cael. Mae o'n gyfuniad o bobl yn gweld y lleoliadau ar social media, ond hefyd mae 'na wefan sy'n rhoi gwahanol leoliadau ar draws Prydain sy'n llefydd da am luniau.

"Nesh i fynd i dynnu llun y goeden wrth Lyn Padarn yn ystod locdown - lleoliad arall poblogaidd. Ro'n i wedi deffro'n gynnar felly nesh i feddwl 'nai biciad draw cyn bod neb arall yno'. Roedd hi tua chwech yn y bore, a pan nesh i gyrraedd roedd llond minibus o ryw Camera Club o Fanceinion yno efo'u cameras a tripods.

"Fel arfer dwi'n mynd i lefydd gwahanol, ond efo'r llun yma nesh i orffen gwaith ac roedd gen i awydd mynd allan a ti ddim yn gorfod cerdded yn bell iawn i gael y llun. Pan nesh i gyrraedd roedd 'na rywun arall yna yn barod yn tynnu llun felly nes i fynd i fyny 'chydig uwch i gael yr un yma."

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry
Disgrifiad o’r llun,

Un funud fach... mae Rhys Parry, sydd wedi chwarae gyda bandiau Bryn Fôn ers 30 mlynedd, yn hoffi cerdded mynyddoedd ardal Dyffryn Ogwen

Sali

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Mae hwn yn un nes i dynnu yn fy living room yng nghanol locdown. Fy mhartner ydi Sali a wnaethon ni feddwl yn lle gwylio teledu gyda'r nos fyddwn i'n cael go ar wneud rhywbeth fel hyn.

"Adeg locdown roedd gen i fwy o amser i dynnu lluniau. Roedd yr haf i fod yn llawn o gigs efo Bryn (Fôn), ond wrth gwrs wnaeth y rheiny i gyd gael eu canslo. Ond dwi'n lwcus - dwi'n gweithio yng Ngholeg Menai yn dysgu Technoleg Cerdd ac wedi gallu dysgu o bell drwy'r cyfnod.

"Goleuo Rembrandt maen nhw'n galw hwn ar ôl yr arlunydd - golau o'r dde fel bod triongl o olau ar ochr chwith y wyneb."

Carnedd Dafydd

Ffynhonnell y llun, RHYS PARRY

"Gafodd y llun yma ei dynnu o faes parcio Plas Ffrancon - canolfan hamdden Bethesda mis Ionawr.

"Ro'n i'n mynd am dro yn ystod y locdown, nesh i weld y golau a thynnu'r llun. Tydi o ddim y gorau o ran composition ond nesh i zoomio reit i mewn a thynnu cymaint o luniau a phosib yn y ffenest o tua 10 munud pan oedd o'r lliw yna."

Foel Ganol

Ffynhonnell y llun, RHYS PARRY

"Ro'n i wedi mynd i Mynydd Llandygai i drio cael llun o'r mynyddoedd yn binc, debyg i'r un o'r Carneddau. Roedd yna niwl ac wedyn toriad yn y cymylau - a'r golau yma'n dod drwodd.

"Lwcus ro'n i efo'r telephoto. Yn y diwedd ches i ddim y llun ro'n i wedi gobeithio ei gael - doedd y mynyddoedd ddim digon pinc - ond ges i hwn.

"Mae'n un o'r rheiny lle ti'n mynd yn gobeithio i gael un peth, ond ti'n cael rhywbeth arall yn y diwedd."

Siôn

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Ci Sali ydi Siôn. Rescue dog oedd o, ci defaid oedd wedi methu ar ddwy ffarm. Roedden nhw wedi trio ei hyfforddi fo ond er ei fod o'n dda iawn yn mynd ar ôl y defaid - dim i'w brathu, mae o'n gi annwyl iawn - ond mynd ar eu holau nhw, doedd o methu dod 'nôl.

"Ddaeth Sali ar ei draws o mewn rescue centre a disgyn mewn cariad efo fo. Ond ddywedodd nhw 'mae un peth rhaid i ni ddweud - 'da ni'n meddwl ei fod o'n fyddar'. Aeth hi i ffwrdd i feddwl am y peth a gwneud ymchwil ar sut i fagu ci byddar, a mynd nôl a dweud ei bod hi am ei gymryd o.

"Pan aeth hi â fo adra roedd o'n clywed ac yn deall bob dim. Doedd o ddim yn fyddar - ddim yn deall Saesneg oedd o. Roedd o wedi cael ei fagu ar ffermydd Cymraeg wrth gwrs - ond Saesneg oedd iaith y rescue centre.

"Efo'r llun yma dwi wedi defnyddio'r telephoto, ac efo shutter speed cyflym iawn, sy'n ei rewi fo a dal y drops o ddŵr."

Enfys Llanddwyn

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Mae hwn yn un o'r rheiny pan mae'r tywydd yn newid fesul munud bron, o haul sy'n hollol lachar i gymylau tywyll iawn - ac wedyn yr enfys anhygoel yma.

"Ro'n i wedi methu cael llun o enfys gyfan i'r chwith o'r llun yma - doedd y lens iawn ddim gen i a doeddwn i methu cael yr enfys i gyd yn y llun. Ond wedyn gesh i hwn."

Llanddwyn

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Fan yma oedd bythynnod ceidwaid y goleudy - ac unwaith eto, yn un o'r diwrnodau hynny pan ti'n cael bob math o dywydd mewn awr - haul braf ac wedyn hint o awyr ddu a'r cymylau yn y cefndir.

"Efo hwn nes i feddwl y byddai o'n well fel llun du a gwyn. Gwneud hynny ydw i wedyn yn Photoshop.

"Dwi wedi bod yn euog yn y gorffennol o or-ddefnyddio Photoshop pan oeddwn i'n dysgu, ond dwi'n trio peidio rŵan ac yn licio'r lluniau yn naturiol. Less is more."

Sweet Charity

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Roedd hwn ar gyfer stwff hyrwyddo sioe performing arts Coleg Menai, wnaeth ddim digwydd yn y diwedd oherwydd locdown. Roedd criw yn eu hail flwyddyn yn rhan o'r peth fel rhan o'u prosiect diwedd blwyddyn ac yn cyfarwyddo'r photo shoot.

"Roedd rhaid gwneud yn siŵr bod y dawnsiwr yn edrych fel petai hi'n dawnsio - bod siâp ei chorff fel tasa hi'n perfformio.

"Maen nhw wrthi'n ymarfer ar gyfer un arall mis Mai a dyna fydd un o'r sioeau cyntaf i gael ei wneud yn Pontio, a bydd y sioe yn cael ei ffrydio."

Pen yr Ole Wen

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Dwi'n licio'r llun yma achos mae o'n ddifyr yn y blaendir ac yn y pelldir.

"Mae hwn gyda'r nos wrth iddi fachlud. Efo tirlun, ti'n trio cael yr awr euraidd ac mae hwn yn reit agos ati, ond mae'n anodd yn fan yma achos mae gen ti lot o fynyddoedd a bryniau sy'n taflu cysgodion.

"Fydda i'n trio cadw golwg ar yr amser ac amser y flwyddyn er mwyn cael y golau iawn - a gadael digon amser i ddod 'nôl lawr. Mae posib cael ap ar dy ffôn sy'n gweithio'r pethau yma allan i ti.

"Tro diwethaf nes i fynd fyny nes i ddim cael y llun ro'n i wedi gobeithio ei gael ond ges i brofiad arall, un cha' i ddim eto mae'n siŵr.

"Wythnos cyn i ni agor y ffiniau ar ôl y cyfnod clo oedd hi, ac fel arfer pan ti'n mynd fyny fan yma mae gen ti un llinell ddi-dor o bobl yn mynd fyny - ond pan nes i fynd fyny dim ond pedwar nes i weld yr holl ffordd, i gyd yn Gymraeg."

Pentre

Ffynhonnell y llun, RHYS PARRY

"Dwi'n mynd ffordd yma'n aml ar y beic, i fyny Dyffryn Ogwen, a dwi wedi dotio ar y tŷ ers blynyddoedd a meddwl basa fo'n lle rili cŵl i fyw. Dwi'n licio mood y llun yma - sef y math o dywydd ti'n cael tua 80% o'r amser yn Eryri, doom and gloom ond dwi wrth fy modd efo fo.

"Dwi'n licio hwn hefyd achos pan nes i roi o ar social media roedd eithaf lot o ymateb gan bobl leol, pobl yn cofio bod yno pan yn blant, pobl yn cofio pwy oedd yn byw yno neu'n perthyn iddyn nhw, ac roedd yn neis cael clywed am gysylltiadau efo'r lle doeddwn i ddim yn gwybod amdanyn nhw."

Jen

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry

"Roedd Jen yn fyfyriwr yn Coleg Menai ac roedd hi'n brilliant yn sgwennu a pherfformio ei chaneuon ei hun - roedd hi'n rili da.

"Roedd hwn yn rhan o'i phrosiect - sef llun promo iddi hi roi ar ei CD neu albwm.

"Mae tri flash fan yma - un arni hi a dau tu ôl iddi hi i edrych fel stage lights. Mae hi wedi graddio erbyn hyn ond dwi'n siŵr ei bod hi'n dal i sgwennu caneuon - mae hi'r math yna o berson, yn ei wneud bob dydd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig