Ben Davies: 'Rhaid taflu popeth at y gêm yn erbyn Lloegr'

Wrth i Gymru baratoi i chwarae Lloegr yng Nghwpan y Byd nos Fawrth, dywed yr amddifynnwr Ben Davies y bydd yn rhaid "taflu popeth at y gêm" gan obeithio'r gorau.

Hon fydd gêm olaf Cymru yng Ngrŵp B. Ar hyn o bryd dim ond pwynt sydd gan Gymru wedi iddynt gael gêm gyfartal yn erbyn UDA a cholli o 2-0 yn erbyn Iran.

Mae'n angenrheidiol i Gymru ennill i gael unrhyw obaith i aros yn y bencampwriaeth ac heb os fe fydd hi'n gêm anodd, ychwanegodd Ben Davies.