Cwpan y Byd 2022: Rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn Doha

  • Cyhoeddwyd
First Minister Mark Drakeford with the giant bucket hat in DohaFfynhonnell y llun, Bronwyn Weatherby | PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r het fwced fawr yn Doha

Bydd dirprwyaeth o Gymru yn ymweld â Qatar ym mis Ionawr gan bod FA Cymru am "helpu i wneud y byd yn lle gwell", yn ôl eu prif weithredwr.

Dywedodd Noel Mooney y bydd y tîm yn parhau i fynd i'r afael â materion dadleuol yn y wlad.

Roedd yn siarad wrth i het fwced anferth Cymru gael ei dadorchuddio yn Doha - mae Cymru yn rhan o gystadleuaeth Cwpan Pêl-droed y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a llysgenhadon chwaraeon Cymru - Jess Fishlock a Colin Jackson - hefyd yn bresennol.

Ffynhonnell y llun, Bronwyn Weatherby | PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Llysgenhadon chwaraeon Cymru, Jess Fishlock a Colin Jackson, yn arddangos baner Cymru

Mae disgwyl i dros 2,500 o gefnogwyr Cymru fod yng ngêm Cymru yn erbyn UDA nos Lun.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth, Rhys a Morgan O'Shea ymhlith y teithwyr a oedd yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd fore Sul

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan ap Llyfnwy a'i fab Guto hefyd ymhlith y cefnogwyr sydd ar eu ffordd

Mae Qatar wedi cael ei beirniadu am y ffordd mae'n trin gweithwyr mudol, a'i hagweddau tuag at fenywod a phobl LHDTQ+.

Dywedodd Mr Mooney fod Qatar eisiau"arwain ar yr holl faterion hyn" a bod cymorth wedi'i roi yn ystod y misoedd diwethaf i helpu teuluoedd gweithwyr ac at ddatblygu canolfan i weithwyr mudol.

Ychwanegodd y byddai Cymru'n chwarae ei rhan drwy UEFA gan ddweud: "I fod yn glir, fe fyddwn ni nôl yma ym mis Ionawr.

"Fyddwn i ddim just yn pacio ein pabell ar ddiwedd y twrnamaint a mynd adref i Gymru - rydym am helpu i wneud y byd yn lle gwell."

"Mae'r tîm yn hyderus am eu grŵp yng Nghwpan y Byd," ychwanegodd, "mae gennym ni dîm da iawn ond mae mwy i'r gystadleuaeth na phêl-droed ar lawer ystyr.

"Nid dim ond y chwaraewyr sydd ar lwyfan y byd ond y diwylliant a'r iaith hefyd.

"Mae'r geiriau 'Gorau Chwarae, Cyd Chwarae' ar yr het fwced a chafodd y Gymraeg ei chlywed mewn cynhadledd i'r wasg am y tro cyntaf erioed ddoe," meddai.

"Mae'n teimlo fel bod Gŵyl Cymru yn digwydd."

Ffynhonnell y llun, Adam Davy | PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru yn ymarfer ddydd Sadwrn

I'r prif weinidog, mae'n bwysicach bod yn Qatar na pheidio bod.

Mae ei ymweliad â Chwpan y Byd wedi ennyn beirniadaeth, ond dywedodd: "Bydd yr het fwced yn cael ei gweld gan filoedd ar filoedd o bobl o bob rhan o'r byd yn ystod yr wythnosau nesaf ac mae'n symbol o'r ffaith bod Cymru yma - rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni fel cenedl fechan.

"Bydd Cwpan y Byd yn cyflwyno Cymru i gartrefi ar draws y byd - llawer ohonynt erioed wedi clywed am Gymru o'r blaen.

"Felly mae'n gyfle anhygoel i egluro i bobl pwy ydyn ni fel cenedl - a'n bod ni'n genedl sy'n credu bod hawliau dynol yn bwysig."

Disgrifiad,

'Mae'n prysuro yn Doha'

'Ddim am roi pwysau ar y chwaraewyr'

Fe gyrhaeddodd Mr Drakeford nos Sadwrn a dywedodd nad oedd wedi gweld unrhyw beth a oedd yn achosi pryder hyd yn hyn ond ychwanegodd: "Mae yna bryderon ac amheuon sy'n rhaid eu cymryd o ddifrif.

"Yn y diwedd, fe wnaethon ni benderfynu bod ein presenoldeb yma yn bwysicach."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Doha yn fan poblogaidd i deithio iddo fore Sul o Faes Awyr Caerdydd

Ychwanegodd: "Pan welwch chi faner Cymru yn chwifio gyda'r 31 arall, a'r gwledydd hynny i gyd yn cael eu cynrychioli, mae'n bwysig ein bod ni yma hefyd."

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi trefnu nifer o gyfarfodydd gyda "phwysigion yn y diwydiant busnes" ac y byddai'n meithrin "perthynas ddiwylliannol o bwys" yn ystod ei ymweliad deuddydd.

Pan ofynnwyd iddo pa fanteision sydd yna yn sgil ymweliadau fel hyn gan ddirprwyaethau ar ran y llywodraeth dywedodd nad ydyn nhw byth yn hysbys ar y pryd ond ar ôl bod yn Japan er enghraifft yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2019 roedd yna gyfleoedd masnachol ac "archebion yn dod i gwmnïau Cymreig".

Dywedodd y byddai'r £2m sy'n cael ei wario ar hyrwyddo Cymru yn Qatar yn talu ar ei ganfed a bod y cyfan yn rhoi sylw amlwg i Gymru.

"Mae'r het fwced," meddai, "nid yn unig yn waith celf ond yn un ymarferol iawn hefyd."

"Os ydych chi ym Maes Awyr Heathrow ac ar goll ac yn gweld het fwced," meddai gan gellwair, "dilynwch hi a gallwch fod yn sicr y byddwch yn y pen draw yn Doha."

Bydd y prif weinidog yn cyfarfod â charfan Cymru yn ddiweddarach ddydd Sul.

"Ni fyddaf yn rhoi unrhyw bwysau arnynt o gwbl," meddai.

"Rydych chi yma i chwarae pêl-droed ac i freuddwydio i fynd ymhellach, os gallwch chi, ond bod yma yw'r peth pwysicaf - mae'n gamp enfawr - a gobeithio y bydd ysbryd y tîm yn eich cynnal."