Be' nesa' ar ôl perfformiad ‘hynod siomedig’ Cymru?
- Cyhoeddwyd
![Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/833E/production/_127789533_gettyimages-1444453677.jpg)
Mae'n rhaid i Gymru nawr drechu Lloegr os am unrhyw obaith o gyrraedd rownd 16 olaf Cwpan y Byd
Mae golwr Cymru Danny Ward wedi dweud bod yn rhaid i'r garfan roi eu perfformiad sâl yn erbyn Iran "tu ôl i ni" a chanolbwyntio ar y gêm sydd ganddyn nhw'n weddill.
Bydd yn rhaid i dîm Rob Page nawr drechu Lloegr yn eu gêm olaf yng Ngrŵp B os am unrhyw obaith o gyrraedd rownd 16 olaf Cwpan y Byd.
Ond ychydig iawn o'r cefnogwyr allan yn Qatar sy'n teimlo gobaith y gallai hynny ddigwydd, o ystyried perfformiadau'r ddwy gêm gyntaf.
Felly beth sydd wedi mynd o'i le yn y twrnament, yn eu tyb nhw? A ble mae Cymru'n mynd nesaf?
![Cefnogwyr Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6BCE/production/_127789572_gettyimages-1245078866.jpg)
Roedd y golled o 2-0 yn erbyn Iran yn dorcalonnus i gefnogwyr, oedd yn disgwyl gwell
Mae Sion Pithouse o Gaerdydd wedi bod yn Doha i wylio dwy gêm gyntaf Cymru gyda'i deulu a'i ffrindiau.
Dywedodd bod cwestiynau i'w gofyn am dactegau'r rheolwr Rob Page, a steil "araf" y tîm o chwarae.
Ond ychwanegodd bod rhai o berfformiadau'r chwaraewyr eu hunain hefyd yn "warthus".
"Oni bai am y penalty 'naeth e sgorio, roedd Bale yn edrych yn flinedig, ddim yn 'neud lot o redeg," meddai.
"Mae'n trio dweud wrth chwaraewyr eraill beth i wneud ond ddim yn cyflawni lot ei hunan.
"Felly i ni fel ffans, mae'n drist i weld - os oedd e'n unrhyw chwaraewr arall bydde fe wedi cael ei gymryd off hanner amser."
![Sion Pithouse (chwith) gyda'i gefnder Tom Hibbs a'i frawd Joe Pithouse](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C862/production/_127789215_1.jpg)
Sion Pithouse (chwith) gyda'i gefnder Tom Hibbs a'i frawd Joe Pithouse
Mae Les Redwood o Bort Talbot yn un arall sy'n cwestiynu a yw Page wedi bod yn rhy ffyddlon i sêr y gorffennol ar draul rhai addawol y dyfodol.
"Fi'n gwybod bod e wedi sticio gyda'r chwaraewyr 'naeth gael ni yna," meddai.
"Ond mae angen iddo fe feddwl sut 'naeth y rheiny gyrraedd fanno yn y lle cynta' - [John] Toshack yn rhoi cyfle iddyn nhw flynyddoedd yn ôl.
"Roedd e'n gyfle i Page wneud hynny."
![Amanda a Les Redwood o Bort Talbot](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/09C2/production/_127789420_3.jpg)
Mae Amanda a Les Redwood o Bort Talbot yn cwestiynu rhai o benderfyniadau Rob Page
Ychwanegodd ei wraig, Amanda, nad oedd hi'n teimlo bod y tîm wedi "deall ei gilydd" ar y cae.
"Roedd Page hefyd yn ddistaw - bydden i 'di hoffi gweld e'n mynegi ei hun fwy," meddai.
"Ond roedd popeth yn dawel a fflat."
'Yn erbyn ni o'r cychwyn'
Mae Lois Williams o Fethesda yn un arall sy'n teimlo ei bod hi'n bryd i drawsnewid y garfan, a symud rhai o'r chwaraewyr hŷn ymlaen.
Ond mae'n teimlo fod amodau'r ail gêm yn enwedig wedi bod "yn erbyn ni o'r cychwyn".
"Roedden ni'n chwarae Iran sydd basically ar stepen ddrws Qatar, miloedd o ffans, a kick off 13:00 - roedd o'n ideal iddyn nhw," meddai.
![Lois Williams a'i chariad Imran Rassid yng ngêm Cymru v UDA](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13E5A/production/_127789418_2.jpg)
Lois Williams a'i chariad Imran Rassid yng ngêm Cymru v UDA
Nid y chwaraewyr yn unig oedd ddim wedi perfformio ar eu gorau yn y gwres llethol canol dydd hwnnw, meddai Les Redwood.
"Do'n i ddim yn meddwl bod y cefnogwyr yna heddiw o gwbl - 'naeth e gymryd 40 munud cyn iddyn nhw ddechrau canu," meddai.
"Galle fe fod yn ffactor alcohol - roedd pawb yn sobor.
"Pan mae pawb wedi cael diod maen nhw'n mynegi eu hunain, mae bach mwy o ganu.
"Mae hynny wedi helpu'r tîm yn y gorffennol, a falle bod e'n ffactor fach."
![Cefnogwyr Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/351E/production/_127789531_gettyimages-1245085920.jpg)
Roedd beirniadaeth hefyd o ddiffyg awyrgylch ymysg cefnogwyr Cymru yn erbyn Iran
Barn Les, fel llawer o'r cefnogwyr eraill, ydy bod "dim gobaith" bellach fod Cymru'n cyrraedd y rownd nesaf.
I hynny ddigwydd byddai'n rhaid curo Lloegr, a gobeithio bod UDA ac Iran yn cael gêm gyfartal.
'Mynd amdani'
Ond o fewn y garfan, "wrth gwrs" bod teimlad y gallai hynny ddigwydd.
"Neu beth fyddai'r pwynt i ni fod yma yn y lle cyntaf?" meddai Danny Ward, sy'n debygol nawr o ddechrau yn erbyn Lloegr wedi cerdyn coch Wayne Hennessey.
"Mae'n rhaid i ni gymryd ein moddion, doedden ni ddim cystal [yn erbyn Iran] â'r safon 'dan ni wedi ei osod yn ddiweddar.
"Ond fe wnawn ni roi cynllun at ei gilydd yn erbyn hogia' Lloegr, mynd amdani a gweld beth allwn ni wneud."
![Danny Ward](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/57E2/production/_127789422_gettyimages-1245079036.jpg)
Mae Danny Ward yn debygol o ddechrau yn erbyn Lloegr wedi cerdyn coch Wayne Hennessey
Er mai dim ond un gêm arall mae Sion Pithouse yn disgwyl gweld Cymru'n chwarae yn y twrnament, mae'n ceisio edrych ar yr ochr bositif hefyd.
"O fewn munud i eistedd lawr ar ôl colli i Iran, ro'n i'n teimlo mor uffernol, mor drist, o'n i actually isio crio," meddai.
"Ond o'n i'n trio dweud wrth fy hunan, 'ti 'di cael profiad mae ffans eraill byth 'di cael - jyst edmygu hynny'.
"Byddai'n edrych 'nôl a meddwl 'fi 'di cael amser grêt gyda teulu fi a ffrindiau fi yng Nghwpan y Byd'."
![Cymru Fyw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/22EF/production/_127334980_d1242b80-3163-4b22-8e31-d6419b30c103.jpg)
![Cymru Fyw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/15787/production/_127334978_50ba8a64-b0d1-4be7-a0ba-36aaf44b3891.jpg)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2022