O farw'n fyw? Y cynnydd yn y nifer sy'n siarad Manaweg ar Ynys Manaw
- Cyhoeddwyd
Roedd 2022 yn flwyddyn siomedig i'r Gymraeg o ran ffigyrau'r cyfrifiad diwethaf ond draw ar Ynys Manaw roedd yna arwyddion gobaith i'r iaith Geltaidd frodorol.
Yng nghyfrifiad 2021, dywedodd 2,223 o boblogaeth o 84,069 yr ynys eu bod yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu y Fanaweg.
Mae hynny'n llai na 3% o'r boblogaeth ond yn gynnydd o tua 22% o 2011 pan roedd y nifer yn 1,823.
Cafodd Strategaeth Iaith newydd ei chyhoeddi ar Ynys Manaw yn 2022 hefyd i weithio at gyrraedd nod o ddyblu nifer siaradwyr yr iaith i 5,000 dros y ddegawd nesaf.
Adfywio'r iaith
O ystyried bod yr iaith ar yr erchwyn ddiwedd y ganrif ddiwethaf - ei siaradwr naturiol olaf, Ned Maddrell, wedi marw yn 1974 ac UNESCO yn ei datgan yn iaith farw mor ddiweddar â 2009, er syndod i'r rhai cannoedd oedd yn dal i'w siarad - mae'n dipyn o stori lwyddiant.
Mae wedi digwydd oherwydd ymrwymiad unigolion a phenderfyniad rhai rhieni ifanc oedd wedi dysgu'r iaith, i fynd ati i fagu eu plant yn yr iaith Fanaweg.
Roedd recordiadau gwerthfawr o Ned Maddrell a hynafiaid eraill yn defnyddio'r iaith wedi eu diogelu mewn pryd ac academyddion a mudiadau fel Yn Çheshaght Ghailckagh, Cymdeithas yr Iaith Fanaweg, wedi cynnal y diddordeb cyn i ddeddfwriaeth ymrwymo i roi statws i'r iaith.
O'r aelwyd i fyd addysg
Ar yr aelwyd y cafodd ei chadw'n fyw i bob pwrpas, tan 1992 pan gyflwynwyd gwersi yn yr ysgol.
"Yn 1992 roedd yna alw cyhoeddus i Fanaweg gael ei dysgu mewn ysgolion," eglura Ruth Keggin Gell, swyddog datblygu'r Fanaweg ar Ynys Manaw.
"Felly fe ddigwyddodd o ganlyniad i rieni yn deisebu iddo ddigwydd sy'n wych achos mae'n dangos cefnogaeth y gymuned - roedd rhieni eisiau i'w plant allu dysgu Manaweg yn yr ysgol, felly crëwyd swydd y swyddog iaith i ddechrau pethau."
Fe ddysgodd Ruth ei hun yr iaith fel oedolyn ar ôl teimlo'r angen i ail-afael yn ei hunaniaeth wedi iddi fynd i ffwrdd i'r coleg i Loegr. Ei theitl fel swyddog iaith yw Yn Greinneyder - yr anogwr.
Mae dysgu Manaweg yn yr ysgol yn ddewisol gyda thimau o athrawon crwydrol yn mynd o amgylch ysgolion cynradd ac uwchradd i'w dysgu i'r rhai sydd eisiau'r gwersi.
"Mae'r tîm yn gwneud gwaith arbennig ac yn dysgu dros 2,000 o blant," meddai Ruth.
"Mae yna fwy o ddiddordeb drwy'r amser mewn dysgu Manaweg."
Yr ysgol Fanaweg gyntaf
Yna yn 2001, agorwyd yr ysgol Fanaweg gyntaf, a'r unig un hyd yma, sef Yn Bunscoill Ghaelgagh, yn St John's yng ngorllewin yr ynys. Mae'n cael ei rhedeg bellach gan adran addysg llywodraeth Ynys Manaw.
Un o athrawon yr ysgol yw Adrian Cain. Pan roedd Adrian ei hun yn yn blentyn, prin oedd y Fanaweg oedd i'w chael yn yr ysgolion ac fe ddysgodd o a'i ffrindiau'r iaith drwy gyfarfod pobl oedd yn siarad Manaweg yn dda a dysgu ganddynt.
Mae rŵan yn dysgu'r iaith i'r genhedlaeth nesaf ac wedi siarad ar Radio Cymru am yr ysgol; dechreuodd ddysgu Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl pan fu'n gweithio gyda chwmni Say Something in Welsh i greu fersiwn Fanaweg o'r cwrs dysgu arlein.
"Mae lot o bobl yn siarad Manaweg y dyddiau hyn dwi'n meddwl, mae pethau wedi mynd yn dda iawn," meddai.
"Dwi'n hapus iawn i weithio mewn ysgol Manaweg ac yn hapus iawn i jyst helpu plant gyda Manaweg.
"Pan o'n i yn ifanc, doedd dim llawer yn siarad lot o Fanaweg i ddweud y gwir ond rŵan mae lot o bobl yn siarad, mae lot o blant yn trio dysgu Manaweg.
"Dwi'n gwneud dosbarth bach gyda rhieni sydd eisiau siarad mwy o Fanaweg gyda'r plant, so mae pethau yn mynd yn dda iawn ar hyn o bryd dwi'n meddwl."
Y cyswllt Celtaidd
Fel rhan o'u haddysg mae Adrian yn awyddus i'w ddosbarth gael cysylltiad gyda phlant sy'n siarad ieithoedd Celtaidd eraill ac maent wedi bod ar ymweliad ag ysgol yn Swydd Clare yn Iwerddon.
"Roedd yn ffantastig i'r plant yn y dosbarth glywed iaith oedd tipyn bach fel Manaweg," meddai.
Mae'r Fanaweg yn perthyn i'r un gangen o ieithoedd Celtaidd â'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban. Mae'n perthyn ychydig yn bellach i'r Gymraeg ond mae 'na lawer o eiriau tebyg, fel clust, trwyn, lla, tŷ, ci.
Mae'r dosbarth hefyd yn cysylltu yn rheolaidd dros y we gydag ysgol yng Ngheredigion ac yn chwilio am ysgol yng ngogledd Cymru i fedru trefnu ymweliad.
"Bron pob wythnos, 'dan i'n siarad gydag Ysgol Llannon ac oedd y plant wedi dysgu tamaid bach o Gymraeg so beth am fynd i weld ysgol yng ngogledd Cymru a ffeindio mas mwy am yr iaith, mwy am Gymraeg, yr hanes, y diwylliant. Mae'n bwysig iawn i'r plant dwi'n meddwl. "
Diwylliant i bawb
Drws nesaf i'r Bunscoill mae swyddfeydd Culture Vannin, y sefydliad mae Ruth Keggin Gell yn gweithio iddo.
Mae Culture Vannin yn hybu treftadaeth a diwylliant Ynys Manaw ac wedi ei ariannu yn rhannol gan y llywodraeth. Maen nhw'n gweld yr iaith fel rhan fawr o'r dreftadaeth.
"Rydyn ni'n hyrwyddo'r diwylliant Manaweg a'i wneud yn gyraeddadwy ac yn gynhwysol i gymaint o bobl â phosib lle bynnag maen nhw'n byw yn y byd," meddai Ruth.
"Os ydyn nhw wedi byw yma erioed neu newydd symud drosodd - mae bod yn gynhwysol yn un o werthoedd craidd y sefydliad."
Mae'r plant yn yr ysgolion yn bwysig ond mae'r strategaeth i ddysgu oedolion hefyd yn hollbwysig i gynyddu niferoedd meddai Ruth Keggin Gell.
"Mae'n bwysig cofio am yr oedolion sy'n dysgu hefyd," meddai Ruth, sy'n dysgu dosbarthiadau i oedolion ei hun, "oherwydd mae lot o bobl, fel wnes i, yn dysgu fel oedolion, yn ei ffitio mewn i'w bywydau prysur.
"Dwi'n credu bod pawb yn bwysig, hen neu ifanc; mae pawb yn gwneud eu rhan dros yr iaith."
Mae cyfleoedd i gymdeithasu mewn Manaweg hefyd gyda diwedd Gorffennaf yn amser da i unrhyw un sydd eisiau mynd yno i glywed yr iaith gan fod gŵyl Geltaidd Yn Chruinnaght yn cael ei chynnal yn Peel.
Ddechrau Tachwedd mae gŵyl Cooish yn ddathliad o'r iaith dros yr ynys a hen draddodiad Hop-tu-naa, sy'n cyfateb i'n Calan Gaeaf ni, yn digwydd ar Hydref 31.
Edrych tuag at Gymru
Gyda'u targed eu hunain o 5,000 o siaradwyr maen nhw yn edrych tua Chymru i weld pa strategaethau a chynlluniau sydd ar waith yma.
"Dwi yn credu ein bod ni'n edrych lot tuag at ein cefndyrd Celtaidd," meddai Ruth, a fydd yn ymweld å Chaerdydd cyn hir i ddysgu mwy am weithgareddau dysgu Cymraeg yno.
"Mae'r gefnogaeth i'r iaith yn gyffredinol yn tyfu ac rydyn ni'n ceisio gwneud lot o waith hybu drosti, mae hynny'n bwysig iawn.
"Felly rydw i'n edrych ar beth mae Cymru yn ei wneud gyda'r targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
"Mae'n ddiddorol iawn, ac yn dda gweld sut mae'r iaith yn cael ei defnyddio i fframio pethau yn bositif a cheisio cael pobl yn ôl i siarad Cymraeg sydd heb fod yn ei defnyddio ers sbel, a phobl sy'n ei defnyddio a'i dysgu am y tro cyntaf."
Fe sylwodd hefyd faint o ddylanwad a gafodd ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd ar y diddordeb mewn dysgu'r iaith "Ro'n i'n gallu gweld fod hynny wedi cael impact mawr," meddai.
Oedd hi'n synnu felly clywed bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn y cyfrifiad diwethaf?
"Yn bersonol, o edrych ar beth mae Cymru yn ei wneud, oedd, roedd yn syndod bod y ffigyrau i lawr. Ond rwy'n edrych ar beth mae Cymru yn ei wneud yn gyffredinol ac yn meddwl ei fod yn ffantastig; pethau fel Yr Wyddfa bellach yn enw iawn ar y mynydd - mae hynny'n wych o ran adfer yr enwau Cymraeg ac annog pobl i'w defnyddio.
"Dwi'n credu fod y gwaith hybu mae Cymru yn ei wneud dros yr iaith a'r ffaith bod miloedd o bobl yn dysgu ar wahanol gyrsiau yn wych; gobeithio nad ydy pobl yn colli calon [am ffigyrau'r cyfrifiad].
"Dwi'n gobeithio bod pobl yn gwybod bod pobl o'r tu allan yn dal i edrych ar Gymru ac yn meddwl eu bod yn gwneud job wych."
I unrhyw un sydd wedi ei ysbrydoli gan stori'r Fanaweg, mae Ruth yn eu hannog i fynd i wefan learnmanx.com am fwy o wybodaeth.
Hefyd o ddiddordeb: