Cyfrifiad 2021: Pam bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg?

  • Cyhoeddwyd
Dr Cynog Prys a Dr Rhian HodgesFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges

Beth yw'r rhesymau am y gostyngiad yn niferoedd siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad 2021 a beth yw'r camau nesaf posib i gynyddu'r nifer sy'n siarad yr iaith?

Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges o Brifysgol Bangor sy'n dadansoddi'r canlyniadau gan ystyried addysg Gymraeg a'r llygedyn o oleuni yn y ffigyrau.

Mae Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges yn ddarlithwyr cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r ddau yn arbenigo mewn polisi iaith a chynllunio ieithyddol.

Byddai cyhoeddi canlyniadau'r Gymraeg yn y cyfrifiad wedi bod yn ddarllen anodd i Lywodraeth Cymru a phawb arall sydd ynghlwm ag adfywio iaith yng Nghymru. Wedi'r cwbl, roedd pawb yn chwilio i weld os oedd twf am fod yn 2021 yn y niferoedd a'r ganran o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig wrth edrych tuag at darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Ond gostyngiad ac nid cynnydd a welwyd yn y niferoedd a'r ganran o siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad 2021.

Dadansoddi'r cyfrifiad

Mae cryn dipyn wedi ei ysgrifennu yn barod wrth i newyddiadurwyr, gwleidyddion, mudiadau ymgyrchu a chynllunwyr ieithyddol Cymru ddadansoddi canlyniadau'r cyfrifiad.

Mae nifer o sylwebyddion wedi cyfeirio at y broblem gynhenid a geir o fewn y cyfrifiad, sef mai hunan adrodd sgiliau ieithyddol ydyw, ag y gall hynny ddylanwadu ar y data. Mae eraill yn pwysleisio'r dylanwad deuol a welwyd rhwng y twf yn y boblogaeth yn gyffredinol (fyny 1.4% ers 2011) , a'r cwymp a welwyd yn y nifer o blant oed ysgol yng Nghymru yn 2021.

Yn ogystal, gwelir nifer yn cyfeirio at ddylanwadau economaidd sydd yn milwriaethu yn erbyn parhad cymunedau Cymraeg, gan gynnwys cyflogau isel y fro Gymraeg a phrisiau tai anfforddiadwy, a dylanwad hynny ar fewnfudo ac allfudo.

Er hynny, mae'n bosib dadlau mai un o brif benawdau cyfrifiad 2021 oedd y cwymp a welwyd o 6% mewn faint o blant 5 - 15 oedd yn siarad Cymraeg. Tra bod y pandemig byd-eang Covid 19 yn rhan o esboniad posib am y gostyngiad yma, a'r modd yr ymyrrodd hyn ar addysg yng Nghymru am dros flwyddyn, mae'r canlyniad nodedig hwn yn rhoi'r cyfle i ni roi'r system addysg ei hun yng Nghymru o dan y chwyddwydr.

Addysg Gymraeg

Wrth ystyried enghreifftiau rhyngwladol o wladwriaethau yn ymyrryd mewn modd bositif i adfer ac adfywio iaith, mae enghraifft y Gymraeg yn aml yn cael ei nodi. Mae'r system addysg yng Nghymru yn aml yn derbyn y clod am atal y dirywiad yn y Gymraeg a welwyd yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf.

Wedi'r cwbl, mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol ers 1988, mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu'n amlwg, gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i'w canfod ledled y wlad. Mae cwricwlwm newydd i addysg yng Nghymru eisoes ar y gweill a Bil Addysg y Gymraeg ar y ffordd.

Mae ganddo ni feithrinfeydd Cymraeg a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n cynnig llwybr i ddatblygu sgiliau siaradwyr Cymraeg o'r crud i'r coleg. Gwelir strategaethau iaith niferus, S4C ac Radio Cymru, a thechnolegau iaith sydd yn sicrhau troedle yn y byd digidol modern.

Yn fyr, mae'r Gymraeg, a siaradwyr Cymraeg, mewn sefyllfa gymharol freintiedig, o'i gymharu â mwyafrif o ieithoedd lleiafrifol y byd. Pam felly y gwelwyd ostyngiad yn niferoedd siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad 2021?

O'r arddegau i fyd gwaith

Fel nodwyd eisoes, un o'r canlyniadau a gafodd mwyaf o sylw yng nghyfrifiad 2021 oedd y cwymp mewn faint o blant 5 - 15 oed oedd yn siarad Cymraeg. Yn sicr, mae angen edrych yn fanwl iawn ar hyn a datblygu strategaeth er mwyn gallu ymateb i anghenion sy'n codi.

Wedi'r cwbl, mae'r genhedlaeth hon wedi methu allan ar gymaint yn barod, a does neb am eu gweld yn methu allan ar y Gymraeg. Er hynny, gellir dadlau mai nid hwn oedd y canlyniad mwyaf arwyddocaol wrth i ni ystyried y dyhead hwn i gynyddu y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Yn hytrach, mae'n bosib dadlau bod y data ar gyfer y grŵp oed nesaf i fyny, sef oedolion ifanc, yr un mor bwysig, os nad yn fwy pwysig byth.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrifiad 2021

Mae'r siart uchod yn dangos bod cwymp sylweddol i'w weld yn y niferoedd o bobl ifanc ac oedolion ifanc sydd yn siarad Cymraeg. Gwelwyd hyn yn 2011 ac eto eleni yn 2021.

Mae'r data yn awgrymu ein bod ni'n colli hanner ein siaradwyr Cymraeg mewn cyfnod gymharol fyr, wrth i bobl ifanc adael y system addysg. Mae'n debygol iawn fod mewnfudo ac allfudo yn un ffactor sydd ar waith yma, wrth i siaradwyr Cymraeg ifanc symud o Gymru i chwilio am waith, ac unigolion o du allan i Gymru symud i Gymru i fyw.

Er hynny, mae'n debyg bod yna ffactor arall ar waith yma hefyd, sef nad yw siaradwyr newydd o'r Gymraeg (rheini sydd wedi dysgu siarad Cymraeg yn y system addysg), yn parhau fel siaradwyr Cymraeg wedi iddynt adael yr ysgol.

Mae'r ddwy ffactor uchod yn golygu nad yw'r cynnydd yn niferoedd o siaradwyr Cymraeg a grëwyd o fewn y system addysg yn gynnydd hir dymor bob tro. Tra bod mynd i'r afael âr ddwy ffactor uchod yn allweddol, hoffwn ganolbwyntio yma ar yr ail ffactor, sef cynnal a datblygu sgiliau iaith oedolion ifanc, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.

Rydym yn gwybod o arolygon defnydd iaith Llywodraeth Cymru nad yw unigolion sydd ddim yn gwbl rhugl eu Cymraeg yn gwneud defnydd helaeth ohoni. Mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â'r angen i sicrhau bod plant ysgolion Cymru yn derbyn digon o Gymraeg yn y system addysg (a thu hwnt) i sicrhau eu bod yn siaradwyr Cymraeg hirdymor.

Yn wir, yn ôl cyfrifiad 2021, 34.3% o siaradwyr Cymraeg oedran ysgol 3-15 oed yn unig sy'n gallu siarad Cymraeg a'r her yw cynyddu'r nifer yma'n sylweddol. Os yw Llywodraeth Cymru am daro ei tharged o filiwn o siaradwyr, bydd angen cynyddu'r ganran hon yn sylweddol, a'u cadw wrth iddynt adael y system addysg.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfrifiad wedi'i ddisgrifio fel y "prawf cyntaf" i gynllun Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru

Bydd parhau i ddatblygu y cwricwlwm newydd i Gymru yn allweddol i hyn gan sicrhau cyfleoedd ehangach i bawb ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond hefyd, rhaid datblygu sfferau defnydd iaith eraill ar gyfer oedolion ifanc a hŷn, ble mae defnydd o'r Gymraeg yn parhau i fod yn rhan naturiol o fywydau dyddiol unigolion.

Yn ganolog i hyn mae datblygu'r defnydd o Gymraeg yn y gweithle, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith bod deddfwriaeth iaith bresennol yn galw am weithwyr i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd o fewn y sector gyhoeddus. Rhaid datblygu llwybrau dilyniant clir i siaradwyr Cymraeg o'r ysgol i addysg uwch i'r gweithle Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrifiad 2021

Llygedyn o oleuni

Ynghanol y penawdau negyddol a'r data cyfoethog sydd i'w ganfod yn y cyfrifiad, mae ambell lygedyn o oleuni a chanlyniad i'w groesawu. Mae'n bwysig tynnu sylw at rhain hefyd.

Er bod y ganran o siaradwyr Cymraeg yn gostwng ar ôl oed addysg statudol, roedd cynnydd i'w gweld yn y ganran o siaradwyr Cymraeg 16-18 mlwydd oed ac 20 - 44 mlwydd oed. Mae hyn yn ganlyniad hynod nodedig sy'n awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud wrth ddal gafael ar siaradwyr Cymraeg.

A yw'r llygedyn bach yma o oleuni yn awgrymu bod strategaethau iaith a deddfwriaeth iaith yn cychwyn dwyn ffrwyth? Bydd angen adeiladu ar y llwyddiant bach yma os oes unrhyw obaith o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Os yw Llywodraeth Cymru am daro'r miliwn bydd rhaid cynyddu faint o blant 3 - 4 a 5 -15 sydd yn dysgu Cymraeg o fewn y system addysg, a bydd rhaid sicrhau ein bod yn eu cynnal wrth iddynt adael y system addysg.

Pynciau cysylltiedig