Arwyddion Cymraeg - ond tu allan i Gymru!
- Cyhoeddwyd

Arwydd Cymraeg da - ond ar Ynys Manaw
Archfarchnad ar Ynys Manaw yw'r diweddaraf i ddrysu rhwng yr ieithoedd Celtaidd ar ôl iddyn nhw osod arwydd dwyieithog - mewn Saesneg a Chymraeg yn lle Manaweg.
Cafodd llun o'r arwydd ei drydar, dolen allanol gan Adrian Cain, swyddog datblygu'r iaith Fanaweg ar Ynys Manaw, a dywedodd ei bod yn wych gweld y siop yn cefnogi'r Gymraeg - ond efallai y byddai'n braf gweld ychydig o Gaeleg Manaw hefyd!
"Mae eitha' tipyn o arwyddion mewn Manaweg ar yr Ynys," meddai Mr Cain wrth Cymru Fyw, "ond 'dyw'r rhan fwyaf o siopau sydd â'u canolfan yn y DU ddim fel petaen nhw'n ymwybodol o'r iaith.
"Maen nhw fel arfer yn trin yr Ynys fel rhan o ogledd orllewin Lloegr - sy'n ei gwneud hi'n fwy eironig eu bod nhw wedi defnyddio'r Gymraeg!"
Mae Manaweg yn perthyn i'r un gangen o'r ieithoedd Celtaidd â Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban.
Mae'n ymddangos fod y dryswch am y gwahaniaethau rhwng yr ieithoedd brodorol yn digwydd ar hyd a lled gwledydd Prydain.
Yn yr Alban, sylwodd trigolion Glasgow ar gyfarwyddiadau Cymraeg i'w helpu i groesi ffordd y Great Western.

Arwydd Cymraeg yng nghanol Glasgow
Cafodd y llun ei rannu ar dudalen Facebook Glasgow West End, dolen allanol a chafwyd ambell sylw yn atgoffa mai math o Gymraeg fyddai iaith ardal Glasgow yn y chweched ganrif!
Yn 2014 addawodd siop fawr dynnu arwydd dwyieithog i lawr yn Abertawe oedd mewn Gaeleg yn hytrach na Chymraeg.
Roedd yr arwydd, oedd yn dweud 'Parcadh - Parking', wedi ei osod y tu allan i siop Asda yn Nhreforys, Abertawe.

Cafodd yr arwydd Gaeleg ei osod y tu allan i archfarchnad Asda yn Nhreforys
Weithiau mae'r Gymraeg yn lledu y tu allan i'r gwledydd Celtaidd hefyd.
Roedd Adele Mallows wrth ei bodd pan welodd hi'r arwydd 'Dim Marciau Ffordd' yn Purbrook, Hampshire, am ei bod hi'n dod o Abertawe'n wreiddiol.

Eglurodd yr awdurdodau yn Lloegr bod arwyddion dwyieithog i'w gweld tu hwnt i Gymru o dro i dro gan bod y contractwyr sy'n trwsio'r ffyrdd yn gweithio trwy'r DU gyfan ac weithiau mae'n rhaid benthyca arwyddion sbâr o Gymru.
Ydych chi wedi gweld arwyddion Cymraeg tu allan i Gymru? Anfonwch nhw at cymrufyw@bbc.co.uk

Mae'n ymddangos fod 'na lawer o arwyddion Cymraeg wedi ffeindio'u ffordd dros y ffin, yn ôl eich ymatebion chi i'r erthygl.
Dyma rai o'ch sylwadau ar Facebook:
Gwawr Pritchard: Mae gan Cadwaladrs arwyddion Cymraeg yn eu caffi yn Stoke!
Antone Volpe Lanatà Minard: Yma yn Vancouver, wrth gwrs mae arwyddion dwyieithog yn y Gymdeithas Gymreig. Hefyd, mae "Arthur Laing Bridge / Pont Arthur Laing." Mae rhai yn dweud bod hwn yn Saesneg / Ffrangeg, ond pwy sy'n talu sylw i anwybyddiaeth fel na?
Alan Jones: Arwyddion Cymraeg yn ysbyty Walton yn Lerpwl.
Chris Robaiij: Ar peiriant parcio yn Chinatown yn Birmingham!
George Cairns: Mewn banc yng Nghaint!
Sion Jones: Dwi di cael dewis o Gymraeg fel un o ieithoedd ar cash machine o'r blaen... yn Ffrainc!
Idris Jones: Cofio baner fawr Cronfa Treftadaeth y Loteri tu allan i amgueddfa yn y Drenewydd yn Saesneg a Gaeleg!
Ac anfonodd gohebydd BBC Cymru, Sara Gibson, lun o'r fwydlen Gymraeg yn siop McDonald's Stoke hefyd - mae'r rhain ar gael mewn sawl lle yn Lloegr.

Anfonodd Sian Thomas y llun hwn aton ni o Batagonia, ac meddai "gwelwyd yr arwydd yma wrth deithio ar hyd Dyffryn Camwy, Patagonia y bore yma. Arwydd yw yn cyfeirio at y clwb polo ond yr hyn sy'n ddiddorol yw'r arwyddair ar y gwaelod."


Efallai o ddiddordeb...